Reform ddim yn diarddel y cyn-arweinydd Dan Thomas ar ôl ei arestio

Mae Dan Thomas wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn parhau i gynrychioli'r blaid yn y Senedd, yn ôl ei phrif chwip, Llŷr Powell.
Mynychodd Thomas gyfarfod yn bersonol ar safle'r Senedd ddydd Mercher i drafod sut y bydd y blaid yn dewis olynydd iddo.
Dywedodd Powell nad oedd Reform wedi ystyried atal y chwip – a fyddai'n golygu, yn ymarferol, y byddai'n parhau fel Aelod o'r Senedd annibynnol – a dywedodd fod ganddo "hawl" i fod yn y cyfarfod.
Ymddiswyddodd Thomas fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach yr heddlu barhau, ac mae'n gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Fe wnaeth aelodau o'r Senedd Reform gyfarfod ym Mae Caerdydd fore Mercher i drafod eu camau nesaf, gyda swyddog o'r blaid o Lundain yn bresennol i oruchwylio'r trafodaethau.
Mae'r cyfnod enwebu yn dod i ben ddydd Iau – os bydd mwy nag un ymgeisydd, mae disgwyl y bydd pleidlais gudd gan y 33 aelod Reform yn y Senedd.
'Dan yn gwbl agored gyda ni'
Pan ofynnwyd iddo a fu ystyriaeth i'r posibilrwydd o dynnu'r chwip oddi ar Thomas, atebodd Powell: "Na. Roedd Dan yn gwbl agored gyda ni ar ôl yr hyn ddigwyddodd.
"Ar hyn o bryd, mae Dan Thomas yn aelod o'n grŵp ni. Roedd ganddo hawl i fod yno heddiw."
Dywedodd Powell hefyd: "Yn wahanol i bobl eraill, nid wyf yn tybio bod rhywun yn euog nes bod ymchwiliad wedi dod i ben. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl anghywir.
"Rwy'n credu y dylai pobl roi'r amser a'r gofod i Dan ar gyfer yr hyn y mae'n ei wneud.
"Mae swyddfa yma i Dan os mai dyna lle mae gwaith ar ran ei etholwyr yn cael ei wneud... Rwy'n credu bod pobl ei etholaeth yn disgwyl iddo wneud y gwaith y cafodd ei ethol i'w wneud.
"Felly os mai dyna lle mae angen i Dan fod, dyna lle mae angen iddo fod."

"Rwy'n hyderus y bydd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd y mis," meddai Llŷr Powell
Ni fydd aelodau llawr gwlad Reform yng Nghymru yn cael pleidlais ar bwy fydd yn olynu'r cyn-arweinydd Dan Thomas, yn ôl Llŷr Powell.
Y gobaith, meddai, yw y bydd yna arweinydd newydd erbyn diwedd y mis, ac mae'r blaid "yn symud yn gyflym i ddychwelyd at y gwaith arferol, gan fod materion pwysig y mae angen eu trafod".
Daeth y newyddion bod Dan Thomas wedi cael ei arestio i'r amlwg tua'r un pryd â chyhoeddiad ar wahân gan yr Aelod o'r Senedd dros Reform, Sarah Cooper-Lesadd, ei bod wedi ymuno â Phlaid Cymru.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Powell na chafodd yr un o arweinwyr y grwpiau eraill yn y Senedd eu hethol gan eu haelodau.
"Felly does dim gwahaniaeth yn hynny o beth, ond mae gennym ni gyfansoddiad. Rydym yn ei ddilyn.
"Gall enwebiadau ddechrau, ac rwy'n hyderus y bydd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd y mis fel y gallwn ganolbwyntio unwaith eto ar yr hyn sy'n flaenoriaeth."
Dywedodd mai'r flaenoriaeth honno yw "pobl Cymru a dwyn y llywodraeth hon i gyfrif oherwydd y pethau brawychus maen nhw'n eu gwneud ar hyn o bryd".
"Nid mater o ymddiriedaeth sydd yma. Y mater yw bod ein haelodau eisiau i ni fwrw ymlaen â'r bleidlais, â'r gwaith sydd wrth law."
Pwy yw'r ymgeiswyr posibl?
Helen Jenner yw'r arweinydd dros dro, gan mai hi yw dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru, a chredir ei bod ymhlith yr ymgeiswyr posibl i olynu Dan Thomas.
Ymhlith yr ymgeiswyr posibl eraill y mae Llŷr Powell, ac aelod a adawodd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Mae aelod blaenllaw o'r blaid, Cai Parry-Jones, sy'n cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, wedi dweud wrth y BBC fore Mercher ei fod wedi diystyru sefyll fel ymgeisydd.
Dywedodd y cyn-gynghorydd Jason O'Connell hefyd na fydd yn sefyll.
Mae cyn-Geidwadwr arall, James Evans, wedi cadarnhau nad yw yn y ras - roedd eisoes wedi dweud na fydd yn ymgeisydd yn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2030.
Galwodd Evans ar y blaid i uno y tu ôl i un ymgeisydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd4 Medi
