Newid dyluniad peilonau dadleuol i leihau'r 'effaith weledol'

Delwedd gyfrifiadurol a ddarparwyd gan y cwmni i roi syniad o edrychiad posib y peilonau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ynni sydd wedi wynebu protestiadau yn erbyn eu cynlluniau i ddatblygu llinellau trydan newydd wedi dweud iddyn nhw ddylunio peilon llai o faint "gyda thirwedd Cymru mewn golwg".
Yn ôl Green Gen Cymru bydd y strwythurau un polyn, 22m o uchder, yn fyrrach o lawer na pheilonau dur traddodiadol, gyda'r nod o "gyfyngu ar yr effaith weledol".
Mae'r peilonau newydd wedi'u comisiynu ar gyfer dau o'r tri llwybr newydd y mae'r cwmni yn bwriadu eu hadeiladu wrth ddiweddaru'r grid trydan ar draws gorllewin a chanolbarth Cymru.
Ond dweud y byddai'r peilonau'n "dal i fod yn ddarn sylweddol o isadeiledd yng nghefn gwlad" mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.

Graffeg Green GEN Cymru sy'n dangos llwybrau'r peilonau arfaethedig
Mae cynlluniau Green Gen Cymru wedi arwain yn y gorffennol at brotestiadau a her gyfreithiol, yn ogystal ag addewid gan lywodraeth newydd Plaid Cymru i wahardd defnydd peilonau dur mawr.
Dywedodd y cwmni i'w peilionau newydd gael eu hysbrydoli gan "ddyluniadau monopôl a ddefnyddir yn gyffredin ledled Ewrop".
"Mae'r monopôl yn strwythur un polyn sydd wedi'i ddylunio i gludo capasiti sylweddol ar y rhwydwaith trydan mewn ffurf fain a chryno," eglurodd y cwmni.
Roedd Green Gen wedi bod yn cynnig gosod peilonau oedd 27m mewn uchder, ond mae eu dyluniau newydd yn nes at 22m.

Byddai angen pedwar o'r strwythurau bob cilomedr
Byddai polion pren oddeutu 12m mewn uchder ond yn medru cludo llai o drydan.
Roedd defnyddio monopolau yn lle polion pren yn golygu bod angen llai o goriodrau o linellau trydan, meddai'r cwmni, gan leihau'r effaith ar ffermdir a golygfeydd.
Maen nhw wedi dadlau bod dibynnu'n llwyr ar geblau tanddaearol yn rhy ddrud a thrafferthus.
Bydd y strwythurau monopôl newydd yn cael eu defnyddio ar rannau o brosiectau Tywi Wysg a Tywi Teifi'r cwmni - "ochr yn ochr" a pholion pren, ceblau tanddaearol a pheilonau traddodiadol mewn mannau.
Bydd prototeip o'r peilon newydd yn barod i'w osod erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, fel bod cymunedau'n medru ei weld.

Mae Georgia Rollinson yn gallu gweld peilon o ffenest ei hystafell wely
Fe holodd BBC Cymru Fyw farn siopwyr yng Nghaerfyrddin am y dyluniad newydd.
Roedd gan Georgia Rollinson, 27 oed, beilon y tu allan i ffenestr ei hystafell wely yn barod.
"Rwy'n meddwl eu bod nhw'n [monopôl] edrych ychydig yn well... os yw pobl eisiau byw yn y byd modern gyda theledu a'r wê, yna mae'n rhaid gwneud rhywfaint o aberth."

Gwastraff arian yw dylunio peilon newydd, medd Phillip Richardson
Cwestiynu pam gwario arian ar greu peilonau newydd sydd "ond ychydig yn well" na'r rhai oedd yn bodoli'n barod wnaeth Phillip Richardson, 78.
"Dydw i ddim yn gweld sut y gallen nhw fod yn well i'r amgylchedd. Mae'n wastraff arian."
"Maen nhw'n sicr yn edrych yn llai ac yn well, ond yn ddelfrydol, dylid eu rhoi dan ddaear os yn bosibl," meddai Anthony Read, 69.
"Mae angen i ni ddadgarboneiddio ac mae'n rhaid i'r trydan symud rhywsut; mae claddu'r ceblau yn gostus, felly os yw hyn yn ddewis arall i leihau'r effaith weledol negyddol, mae'n debyg ei fod yn syniad da," ychwanegodd Robin Daniels, 58.

Claddu ceblau fyddai dymuniad Anthony Read
Mae Green Gen Cymru yn bwriadu gosod tri llwybr newydd o linellau trydan, yn cysylltu ffermydd gwynt sy'n cael eu cynllunio gan eu chwaer gwmni Bute Energy, a'r grid ehangach.
Mae'n dweud y bydd yn buddsoddi bron i £1bn erbyn 2030, gyda'r cynlluniau'n effeithio ar rannau o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Amwythig.
Ond mae wedi wynebu cryn wrthwynebiad mewn rhai cymunedau, gyda grwpiau yn cynrychioli cannoedd o dirfeddiannwyr wedi dwyn achos llys yn eu herbyn yn ddiweddar.
Roedd Plaid Cymru wedi ymgyrchu yn erbyn peilonau hefyd cyn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai, gan addo yn eu maniffesto i sicrhau "rhagdybiaeth glir o blaid gosod ceblau o dan y ddaear".
Byddai "dewisiadau uwchben" ond yn cael eu caniatau "pan fyddant yn cael eu gosod gyda pholion pren isel neu seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol".

Mae Dyfan Walters yn dweud nad yw'r frwydr yn erbyn y peilonau ar ben
Dywedodd Dr Jonathan Dean o'r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig na fyddai'r dyluniad newydd yn ddigon i leddfu pryderon y sawl fu'n protestio yn erbyn Green Gen Cymru.
"Mae'n dal i fod yn ddarn sylweddol o isadeiledd yng nghefn gwlad," meddai, gan ddadlau y byddai cynlluniau ar wahan sydd dan ystyriaeth gan Y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) am linellau posib drwy Gymru yn golygu na fyddai angen rhai Green Gen hefyd.
"Mae'u cynlluniau nhw ar y foment yn son am ddefnyddio peilonau 27m," meddai Dyfan Walters, ffermwr sy'n byw yn ymyl un o'r llwybrau posib ar gyrion Llanymyddfri, Sir Gaerfyrddin.
"So ni'n siarad ambiti lot o wahaniaeth," meddai.
"Ar ôl brwydro nhw am dair blynedd a hanner... so ni mynd i stopio fan hyn i fod yn onest. Ni'n mynd i fod yn dala Plaid Cymru i'r polisi a beth oedden nhw wedi addo cyn yr etholiad - tanddaearu yw'r unig opsiwn lawr drwy'r ardaloedd yma."

Dywedodd Guto Davies bod cyfle i "ddechre sgwrs newydd"
Dywedodd Guto Davies, Pennaeth Materion Allanol Green Gen Cymru bod nifer o ffactorau wedi arwain at benderfyniad y cwmni i chwilio am ddyluniad newydd gan gynnwys gofynion peirianyddol ac amgylcheddol, adborth cymunedol a'r cyd-destun gwleidyddol.
"Da ni di gael lot o adborth gan gymunedau amdan effaith weledol, effaith adeiladu," eglurodd.
"Ymateb ni fel busnes yw beth fedran ni wneud yn wahanol," meddai - gan ddisgrifio'r monopôl fel ateb "arloesol".
"Dwi'n mawr obeithio fydd hyn yn dechre sgwrs newydd nawr efo'r cymunedau... cydbwyso bob dim a sicrhau bod ni'n cyflawni'r angen i gael y grid yma - 'da ni angen o yn economaidd a 'da ni angen o oherwydd ein targedau egni a datgarboneiddio hefyd."
Dywedodd Stephen Rowlands, pennaeth adeiladu'r cwmni bod "cyfle gwirioneddol i ddiwydiant Cymru chwarae rhan flaenllaw wrth gynhyrchu'r peilonau newydd".
"Wrth inni ddatblygu'r monopôl ymhellach, rydym eisau manteisio ar y sgiliau, yr arbenigedd a'r gallu gweithgynhyrchu sydd gennym yma yng Nghymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n "amrhiodol i ni wneud sylwadau ar gynigion cynllunio penodol oherwydd rôl gweinidogion Cymru yn y broses".
"Rydym yn datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol fel y gall Cymru ddiwallu ei galw am ynni mewn ffordd gynaliadwy ac er budd mwy i bobl a chymunedau Cymru. Byddwn hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithredu ein polisi ar gyfer sut y dylid cyflwyno seilwaith grid newydd hyd at 132kV yng Nghymru, yn unol ag ymrwymiad y maniffesto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.