Dod i adnabod y cerddor gwerin Elliw Jones

- Cyhoeddwyd
Ar ôl perfformio ers nifer o flynyddoedd efo'r grŵp Tant, fe ddaeth Elliw Jones i'r amlwg dros yr haf fel enillydd Tlws Sbardun.
Yn ogystal â chanu gyda'i band, gan gynnwys ar Cân i Gymru yn 2023, mae'r cerddor gwerin o Ddyffryn Conwy hefyd yn perfformio ar ben ei hun.
Fe wnaeth Cymru Fyw ddal i fyny efo hi i gael gwybod mwy amdani hi a'i cherddoriaeth.
Beth ydi dy atgof cyntaf o gerddoriaeth yn dy fywyd?
Un o fy atgofion cyntaf oedd cael gitâr fach pinc gan Siôn Corn ar fore 'Dolig. Roedd cerddoriaeth wastad o fy nghwmpas…
Boed yn y tŷ ar y radio, neu ar dâp neu CD yn y car. Roeddwn yn gwrando ar bob math o gerddoriaeth o Hogia'r Wyddfa, Sobin a'r Smaeliaid i Roy Orbison. Ond fy ffefryn i ganu oedd Titw Tomos Las.

'Hei, hei, hei, Titw Tomos...' - Elliw Jones gyda'i anrheg 'Dolig
Beth ydi dy daith cerddorol wedi bod ers hynny?
Dwi bob amser wedi mwynhau cerddoriaeth, a thrwy hynny wedi dewis ei astudio fel pwnc yn yr ysgol ac yna ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â Chymraeg.
Roeddwn wastad yn aelod o gôr yn yr ysgol, ac rwyf bellach yn rhan o gôr Cantilena yn Llanrwst.
Roedd Taid bob amser yn hoff o ganu, yn enwedig ar nos Wener yn nhafarn y Tŷ Gwyn yn Rowen. Roeddwn i'n hoffi ymuno efo fo i ganu ei hoff gân, Caru Cymru.
Dwi'n mwynhau perfformio efo'r grŵp Tant. Daethom at ein gilydd gyntaf pan oeddwn tua 15 oed ar gwrs Gwerin Gwallgo yng Nglan-llyn.

Elliw gyda'i grŵp Tant yn y Tŷ Gwerin
Beth ydi dy waith a pha rôl mae cerddoriaeth yn chwarae yn dy fywyd bob dydd?
Ers mis Chwefror eleni dwi'n gweithio i Menter Iaith Conwy. Dwi'n helpu i drefnu digwyddiadau i hybu'r Gymraeg yn ardal Abergele. Yn ddiweddar cafwyd gig llwyddiannus Twrw yn y Tarw yn y Bull.
Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig i mi ac rwyf wrth fy modd yn perfformio trwy'r Gymraeg.

Elliw ar y llwyfan
Sut brofiad oedd cystadlu am Dlws Sbardun?
Derbyn neges Whatsapp wnes i gan aelod o'r gynulleidfa yn fy annog i gystadlu, ar ôl diddanu mewn noson Merched y Wawr lleol.
Doedd gen i fawr o hyder i feddwl cystadlu cyn hynny, ac felly pan nes i ddarganfod fy mod wedi ennill, yn amlwg roedd hyn yn sioc ac yn fraint mawr i mi.
Alli di son ychydig am y gân fuddugol?
Y briff ar gyfer y gystadleuaeth oedd ysgrifennu cân werinol ei naws. Roedd gen i syniad o alaw yn fy mhen, alaw reit syml, a meddyliais y byddai'n braf ysgrifennu am fy nghynefin. Ysgrifennais y geiriau wythnos cyn y dyddiad cau!
Faint o help fydd y wobr i ti?
Dydw i erioed wedi bod yn berson hyderus, ond mae ennill y wobr hon wedi rhoi hwb i fy hyder. Bydd arian y wobr hefyd yn help tuag at gostau recordio'r gân.

Mae Tlws Sbardun wedi bod yn hwb i nifer o artistiaid, gan gynnwys Elidyr Glyn - yma'n perfformio gyda chyn-enillwyr eraill yn Eisteddfod y Garreg Las yn ystod gwobr seremoni 2026
Os fyddet ti'n cael rhoi gwobr i unrhyw gân yn y byd, pa gân fyddai honno a pham?
Gwas Y Diafol - Dyfrig Evans. Dwi wastad yn dal fy hun yn mynd yn ôl i chwarae'r gân yma drosodd a throsodd.
Os fyddet ti'n cael cyfarfod a chreu cerddoriaeth efo unrhyw artist - byw neu farw - pwy fyddet ti'n ei ddewis a pham?
Anodd ydi dewis un yn benodol… ond mae'n siŵr Bronwen Lewis, am y rheswm syml mod i'n mwynhau ei cherddoriaeth.
Beth sydd ar y gweill dros y misoedd nesa?
Mwy o gyfansoddi a gigio!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023

