Ceri Jones: O fferm yn Ninas Mawddwy i frig Enduro Prydain

- Cyhoeddwyd
Merch fferm yw Ceri Jones o Ddinas Mawddwy, ac mae hi'n prysur gwneud enw iddi hi ei hun ym myd rasio beiciau modur Enduro GB.
Ddiwedd fis Awst, fe amddifynnodd Ceri ei theitl fel pencampwr Clubman Women ym mhencampwriaeth Enduro GB Elite 2026 gan gipio'r wobr am yr eildro.
"Roedd hi'n dipyn o gamp bod fi 'di 'neud o eto 'leni," meddai'r ferch ifanc o Bowys wrth Dylan Ebenezer ar raglen Dros Frecwast.

Ceri (rhes flaen ar y dde) gyda phencampwyr eraill Enduro GB Elite 2026
Eglurodd fod beicio wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, a hynny nid yn unig wrth reidio o amgylch y caeau ar y fferm deulu. Bu ei thad yn rasio pan oedd o'n iau a byddai'r teulu'n mynd i wylio ei rasys ef. Yna dechreuodd ei brawd, Aron, rasio hefyd.
Yn 2020 cafodd Ceri ei beic ei hun ac mae hithau wedi bod yn rasio ers hynny.
"Dw i'n lwcus efo lle dw i'n byw achos alla' i fynd allan ar y beic fan hyn ar y fferm ac o gwmpas y caeau a'r mynydd i ymarfer yn barod at y rasys."
Y tymor hwn o rasio oedd y gorau hyd yma meddai.
Dywedodd: "Mae pobl yn dweud wrtha' i bod fy reidio i'n gwella bob tro maen nhw'n gweld."

Yn y bencampwriaeth Enduro GB Elite 2026 roedd 12 rownd i'w cynnal dros chwe phenwythnos yn Rhaeadr, Helmsley, Brechfa, Llanymddyfri, Dyfnaint a Llanfair-ym-Muallt. Llwyddodd Ceri i ennill digon o bwyntiau i gipio teitl y bencampwriaeth yn ei dosbarth hi, sef Clubman Women, erbyn diwedd rownd 10.
Yn sgil ei llwyddiant eleni, mae Ceri wedi sicrhau noddwr a fydd yn helpu gyda chostau cynnal a chadw beic i gystadlu. Bydd hynny'n help mawr meddai, gan fod rasio beic modur fel hwn yn ddiddordeb hynod ddrud.

Yr Enduro yw ei hoff gamp meddai Ceri, ac mae gofyn rasio am amser hir dros dirwedd amrywiol, "yn reidio fwy yn y coed, gall fod ar dywod, dros logs, cerrig a gwair."
Ar hyn o bryd mae Ceri yn cystadlu yn yr haen ganol, ond mae ei golygon ar symud i'r lefel elit y flwyddyn nesaf. Ond am nawr mae'n mwynhau ei llwyddiannau, a bod yn ysbrydoliaeth i nifer o ferched ifanc eraill sy'n rhoi cynnig ar y gamp.
"Yn y gamp, doedd dim cymaint â hynny [o ferched] felly bysa fo'n neis os oes yna fwy. Ond mae 'na lawer iawn o ferched ifanc sy'n rhan o'r [dosbarth] plant yn dod fyny, felly mae'n wych gweld cymaint mwy o ferched yn dod fewn i'r chwaraeon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 Medi
