S4C i ddarlledu cyfres ddrama am 'stori bwysig ac ysgytwol' Neil Foden

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi cyfres ddrama newydd am y cyn-brifathro a phedoffeil, Neil Foden.
Cafodd cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.
Y llynedd, daeth adolygiad o droseddau Foden i'r casgliad fod rhybuddion a gafodd eu codi dro ar ôl tro am y prifathro wedi eu hanwybyddu, neu heb gael ymateb digonol.
Bydd y gyfres dair-rhan, sydd â'r teitl gweithredol Y Pennaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o'r achos cyfreithiol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i'r achos gan yr arbenigwr Jan Pickles, yn ôl S4C.
Mark Lewis Jones, sydd wedi serennu mewn cyfresi fel Y Golau: Dŵr, The Crown, a Dal y Mellt, fydd yn chwarae rhan Neil Foden.

Mark Lewis Jones fydd yn chwarae rhan Neil Foden yn y gyfres
Bydd Y Pennaeth yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy'n cael eu cam-drin, gyda'r cymeriadau, a nifer o'r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol, meddai S4C.
Bydd yn archwilio sut y gwnaeth Foden fanteisio ar sefyllfaoedd personol y merched, yn ogystal â methiannau'r gweithdrefnau diogelu, a'r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach.
Dywedodd S4C bod y cwmni cynhyrchu, Cynyrchiadau Mojo, wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi sicrhau bod holl oroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o'r prosiect,
Mae'r cwmni cynhyrchu hefyd wedi cynnig mynediad at gefnogaeth broffesiynol iddyn nhw.
Mae Mojo hefyd wedi cydweithio â newyddiadurwr, sy'n bwynt cyswllt rhyngddyn nhw â rhai oedd ynghlwm â'r hyn ddigwyddodd, yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu, yn ôl S4C.
Llyr Morus fydd yn cynhyrchu'r gyfres, a Huw Chiswell yn cyfarwyddo.
Llinos Gerallt (Yr Amgueddfa, Rownd a Rownd, Pobol y Cwm) yw awdur y ddrama.
'Gyda gofal a sensitifrwydd mawr'
Dywedodd Gwenllian Gravelle, comisiynydd drama a ffilm S4C: "Mae hon yn stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu'r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra'n codi cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio.
"Wedi'i datblygu gyda gofal a sensitifrwydd mawr, mae'r cynhyrchiad yn ymdrin â'r pwnc yn gyfrifol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ehangach brad gan ffigwr cyhoeddus a ymddiriedwyd â chyfrifoldeb a gofal."
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
