Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 11:59 GMT+1

    Mae wedi bod yn fore llawn emosiwn i ddisgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru.

    Yn gryno mae canran y bobl ifanc sydd wedi cael y canlyniadau Safon Uwch uchaf yng Nghymru wedi codi ychydig ers y llynedd.

    Mae 10.7% o'r graddau eleni wedi bod yn A* - 0.2% o gynnydd o'i gymharu â'r llynedd.

    Roedd 29.6% o'r graddau yn A* neu A eleni - 0.1% o gynnydd - ac mae mwy o bobl wedi pasio yn gyffredinol.

    Fe wnaeth y merched berfformio'n well na bechgyn ar y cyfan, ond roedd bechgyn yn fwy tebygol o gael y radd uchaf - A*.

    Cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer Safon Uwch oedd 32,633, sef 2.6% o gynnydd ers 2025.

    Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, y dylai dysgwyr fod yn "hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni".

    Wythnos nesaf bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ond tan hynny mae prif straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am eich cwmni.

    dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Beth nesaf? Cyngor Gyrfa Cymruwedi ei gyhoeddi 11:57 GMT+1

    Gyrfa Cymru

    Wedi derbyn eich canlyniadau Lefel A, a ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf? Mae gan wefan Gyrfa Cymru, dolen allanol, dolen allanol lawer o adnoddau a all eich helpu gyda'r dyfodol.

    Cymerwch gwis i ddysgu pa yrfa neu swyddi fyddai'n addas i chi, chwiliwch am gyrsiau prifysgol, swyddi neu brentisiaethau, neu ddod o hyd i gymorth a chyngor ynglŷn â'r camau nesaf

  3. 32.8% wedi gwneud cais i fynd i brifysgol - llai na gweddill y DUwedi ei gyhoeddi 11:54 GMT+1

    Llynedd, roedd na gynnydd bach yng nghyfran y graddau A* Safon Uwch i 10.5%. Roedd 29.5% o'r canlyniadau yn A neu A* - ychydig yn is nag yn 2024.

    Eleni, roedd cyfran y bobl ifanc 18 oed o Gymru wnaeth cais am brifysgol ychydig yn uwch na llynedd ond mae'r ffigwr o 32.8% yn parhau yn is nag yn ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

    pFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Cyngor ar gyfer y dyfodol ar Bitesizewedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1

    BBC Bitesize

    Helpodd Bitesize chi gyda'r adolygu?... Nawr gall eich helpu chi gyda'ch dyfodol...

    Ar wefan BBC Bitesize, mae straeon pobl ifanc go iawn am eu swyddi a'u gyrfaoedd, tips am sut i ddiweddaru eich CV a chyngor ar sut i fynd ati i benderfynu beth yw'r llwybr cywir i chi.

  5. Llai yng Nghymru wedi bod yn astudio Safon Uwch yn ystod y blynyddoedd diwethafwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1

    Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, mae marciau Uwch Gyfrannol - gwaith sy'n cael ei gwblhau ar ddiwedd blwyddyn gyntaf cyrsiau Safon Uwch - yn cyfrannu 40% at y graddau terfynol.

    Mae llai o bobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn astudio Safon Uwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ffigyrau'r corff Medr.

    Mae data dros dro ar gyfer 2025/26 yn awgrymu bod llai na hanner (49%) o fyfyrwyr Blwyddyn 11 sy'n parhau mewn addysg, bellach yn symud ymlaen i gyrsiau Uwch Gyfrannol (blwyddyn gyntaf Safon Uwch), o gymharu â 60% yn 2014/15.

    astudioFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Mae dal amser i wneud cais am gyllid myfyrwyrwedi ei gyhoeddi 11:40 GMT+1

    Dydi hi ddim rhy hwyr i chi wneud cais am gyllid myfyrwyr, ond gwnewch y cais cyn gynted â phosib, yw neges Cyllid Myfyrwyr Cymru, gan y gall ceisiadau gymryd hyd at bedair wythnos i'w prosesu.

    Mae'r holl wybodaeth sydd ei angen ar y wefan., dolen allanol

    cyllidFfynhonnell y llun, Cyllid Myfyrwyr Cymru
  7. Cael astudio Cyfrifiadureg yn y brifysgol ar ôl cwblhau BTECwedi ei gyhoeddi 11:36 GMT+1

    Mynd i Brifysgol Leeds i astudio Cyfrifiadureg yw'r cynllun i Daniel o Goleg Caerdydd a'r Fro fis nesa', a hynny ar ôl llwyddo yn ei arholiadau.

    “'Nes i agor y canlyniadau bore 'ma ac o'n i mor hapus. Dwi wedi gael dau Ragoriaeth serennog ac un Rhagoriaeth mewn BTEC Cyfrifiaduron.

    "Mae gen i gymaint o ddiddordeb yn y pwnc, felly o'dd gwneud BTEC yn hyn mor braf ac yn sylfaen enfawr i fi yn y brifysgol ym mis Medi.”

    Daniel
  8. Ddim yn sicr be' i 'neud nesaf? Y cyngor yw i beidio mynd i banigwedi ei gyhoeddi 11:31 GMT+1

    Cyngor bitesize y BBC yw i beidio mynd i banig os nad wyt ti’n gwybod beth i’w wneud nesaf.

    Does dim rhaid brysio i wneud penderfyniad.

    Cymera gam yn ôl ac ystyried beth rwyt ti’n mwynhau ei wneud. Gall arwain at swydd neu gwrs doeddet ti heb ei ystyried o’r blaen.

    Meddwl cymryd blwyddyn allan? Gwna rhywbeth fydd yn cynnig profiadau, yn ymestyn dy sgiliau ac yn edrych yn dda ar dy CV.

    Os nad yw’r canlyniadau lefel ‘A’ a gefaist yn ddigonol, paid â bod ofn ailsefyll neu ddechrau cwrs newydd sbon.

    Nid gwneud cwrs gradd yw’r llwybr cywir ar gyfer pob swydd. Mae’n werth ystyried prentisiaeth, medd arbenigwyr.

    cwestiwnFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Ar ôl yr holl aros, parti mawr i ddathlu!wedi ei gyhoeddi 11:26 GMT+1

    Mae Nia o Goleg Caerdydd a'r Fro yn edrych ymlaen at gael dathlu gyda'i chyd-fyfyrwyr heno ar ôl derbyn ei chanlyniadau AS y bore 'ma.

    “Ni gyd yn hapus efo canlyniadau ni, felly ni am gael parti mawr heno a chael dathlu llwyddiant pawb!”

    Nia
  10. Bobi wedi bod yn dilyn cwrs lefel A a bod yn ddyn tânwedi ei gyhoeddi 11:21 GMT+1

    Ymhlith y rhai a gafodd ganlyniadau bore 'ma mae Bobi Jones sydd wedi bod yn astudio yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul.

    Mae wedi bod yn gwneud hynny tra'n ddiffoddwr tân ar alwad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

    "Mae lot o bwysau arnon ni ar hyn o bryd gyda'r tanau gwyllt," meddai.

    Dywedodd Bobi, 18, o Gastellnewydd Emlyn bod gweithio i'r gwasanaeth tân yn "beth o'm ni wastad isie neud ers pan o'n i'n fach" ac mae ei dad-cu, tad, ewythr a brawd wedi gwneud yr un peth.

    bobi
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe fydd Bobi yn gwneud prentisiaeth gyda thrydanwr lleol ar ôl ei ganlyniadau

    Tra'n astudio Safon Uwch Busnes, Chwaraeon a'r Fagloriaeth Gymreig roedd yr ysgol yn caniatáu iddo gymryd galwadau brys.

    "Os ma'r bleeper 'di mynd off mae'r athrawon wedi bod yn ddigon hapus i fi jyst adael gwersi a dal lan wedi 'ny," meddai.

    Fe fydd Bobi yn gwneud prentisiaeth gyda thrydanwr lleol ar ôl ei ganlyniadau tra'n parhau i weithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

    Cyn iddo dderbyn ei raddau, meddai: "Fi'n eitha relaxed i fod yn onest – bach rhy relaxed 'falle, ond gawn ni weld" a do bu'n llwyddiannus fe gafodd raddau BBC - llongyfarchiadau!

  11. 3A yn ei AS yn 'sylfaen gref' i Elliotwedi ei gyhoeddi 11:16 GMT+1

    Mae Elliot wedi cael 3A yn ei arholiadau AS mewn Daearyddiaeth, Seicoleg a Sbaeneg yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

    “Dwi wedi gweithio’n galed felly roedd cael gweld tair A ar y papur yn deimlad mor neis," meddai.

    "Mae’n sylfaen gref ar gyfer blwyddyn nesa felly dwi’n hapus iawn.”

    Elliot
  12. Ciwio am ganlyniadau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro... a llwyddiantwedi ei gyhoeddi 11:09 GMT+1

    Coleg Caerdydd a'r Fro

    Ac mae 'na ganlyniadau!

    Mae Shane, Lexi a Layla newydd dderbyn eu graddau ar gyfer BTEC Musical Theatre.

    Meddai Shane: “Dw i’n mynd i Performer yn Birmingham ym mis Medi a dw i mor gyffrous.

    "Mae’r cwrs yma wedi fy mharatoi i’n dda ac wedi helpu fy hyder yn fawr.”

    “Dw i’n dod nôl yma ym mis Medi i gwblhau fy ail flwyddyn mewn Musical Theatre ac dw i’n edrych ymlaen," meddai Lexi.

    "Mae’n le grêt yma.” meddai Layla.

    “Dw i’n dod nôl yma i wneud Lefel 4 mewn perfformio. Mae fan hyn yn le grêt a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd.”

    Shane, Lexi a Layla
    Disgrifiad o’r llun,

    Shane, Lexi a Layla

  13. 'Gwreiddiau a Gorwelion': Ysgol Bro Preseli yn ymfalchïo yn llwyddiant y disgyblionwedi ei gyhoeddi 11:03 GMT+1

    Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli

    Mae disgyblion chweched dosbarth Ysgol Bro Preseli wedi cael “llwyddiant arbennig” eleni, wrth i 40% o’r graddau Safon Uwch gyrraedd graddau A*-A.

    Meddai’r Pennaeth, Mrs Rhonwen Morris:

    "Mae canlyniadau eleni yn destun balchder mawr i ni oll. Maent yn adlewyrchu ymroddiad, gwydnwch a phenderfyniad ein disgyblion, yn ogystal â gwaith diflino ein staff a chefnogaeth ein teuluoedd.

    “Rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at weld pob un yn ffynnu wrth symud ymlaen i'w cam nesaf."

    Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli

    Ychwanegodd Mr Carwyn James, Cadeirydd y Corff Llywodraethol:

    "Pan sefydlwyd Ysgol Bro Preseli yn 2022, roedd dewis arwyddair a fyddai'n adlewyrchu gweledigaeth a dyheadau'r ysgol yn bwysig iawn.

    "Mae canlyniadau rhagorol eleni yn dangos bod yr ysgol yn parhau i wireddu ysbryd 'Gwreiddiau a Gorwelion', gan gyfuno ymdeimlad cryf o berthyn â dyhead uchel."

    Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli
  14. 17% o bobl ifanc 16 i 24 oed Cymru ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiantwedi ei gyhoeddi 10:56 GMT+1

    "Da ni'n cydnabod bod yna batrwm yna a bod 'na llai o bobol yn mynd mlaen i astudio lefel A, yn enwedig yn y blynyddoedd ers Covid," meddai Bethan Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dadansoddi Medr.

    "Mae gan bobol ifanc heddi mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen pan maen nhw'n troi 16 a mwy o opsiynau am sut maem nhw'n astudio ac ymhle, a 'dan ni'n gweld bod mwy ohonyn nhw'n dewis mynd mlaen i astudio cyrsiau galwedigaethol mewn colegau addysg bellach er enghraifft.

    "O safbwynt Medr, beth sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n canolbwyntio ar ofynion y dysgwyr a bod ni'n parhau i ddarparu pa bynnag fath o addysg a hyfforddiant maen nhw eisiau ei weld lle bynnag mae nhw'n byw yng Nghymru".

    bethan evans

    Yn sgil pryder bod 17% o bobl ifanc 16 i 24 oed Cymru ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant neu yn Neet (not in education, employment or training), dywedodd Bethan Evans ei fod "yn her sylweddol".

    Ychwanegodd bod Medr yn gweithio ar draws y sector trydyddol - sef prifysgolion, colegau, chweched dosbarth a darparwyr prentisiaethau.

    Ehangu rhaglen brentisiaethau iau i blant o 14 oed yw un o'r camau maen nhw wedi ei gymryd, meddai.

  15. Rosa'n edrych ymlaen at ei dyfodol wrth fynd i astudio meddygaethwedi ei gyhoeddi 10:48 GMT+1

    Roedd gan Rosa MacGowan, 18, o Abertawe waith jyglo, wrth iddi astudio pedair Lefel A a'r BAC, ar y cyd â swydd ran amser, gyda'r gobaith o fynd ymlaen i fod yn feddyg,

    Bore 'ma, deffrodd a gwirio ei safle UCAS, a gweld ei bod wedi cael lle yn astudio meddygaeth ym mhrifysgol Glasgow.

    "Dwi'n teimlo gymaint o ryddhad. O'n i mor nerfus yn mynd ar UCAS, ond pan ddaeth y bocs gwyrdd lan yn dweud mod i wedi cael lle, o'n i mor gyffrous ar gyfer y dyfodol."

    Ar ôl mynd draw i Ysgol Olchfa i nôl ei chanlyniadau cafodd wybod ei bod hi wedi cael graddau AAA*A*A*.

    Rosa

    Dywedodd Rosa ei bod yn teimlo'n "bositf ar gyfer y dyfodol a methu aros am y bennod nesaf".

    "Dwi methu credu, mewn llai na mis, bydda i ar y ffordd i Glasgow i astudio meddygaeth! Dwi methu aros am yr holl gyfleoedd newydd fydd yn dod gyda hyn."

  16. Mae'r dathlu'n parhau yn Ysgol Olchfawedi ei gyhoeddi 10:43 GMT+1

    Olchfa
    Olchfa
  17. Y system glirio yn 'gyfle cyffrous'wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1

    Prifysgol Aberystwyth

    Os nad ydych chi'n derbyn y graddau oeddech chi'n eu obeithio amdanyn nhw heddiw, "peidiwch â mynd i banig" yw cyngor Elen Roach, sy'n Rheolwr Partneriaethau a Chyswllt gydag Ysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    "Mae’r system glirio ar gael i unrhyw un sydd falle wedi newid eu meddwl am y dewis gwreiddiol oedden nhw wedi gwneud neu falle i’r rheiny sydd heb gael y gradde oedden nhw’n dymuno cael."

    ElenFfynhonnell y llun, Elen Roach

    "A’r neges bwysica oll yw i ystyried y broses glirio fel cyfle cyffrous. Mae heddi yn ddechrau ar bennod newydd i’r disgyblion ac ry'n ni yma i'w cefnogi nhw ac i gefnogi eu rhieni nhw drwy gydol y broses.

    "Yn amlwg, mae’r broses yn un falle na fydde pobl yn dymuno gorfod mynd mewn iddi, ond mae’n broses eitha’ hwyliog hefyd."

    Felly beth yw'r camau nesaf, os ydy'r cynllun gwreiddiol wedi gorfod newid?

    • Mynd ar wefan y prifysgolion sy'n apelio a ffonio'r rhif ffôn clirio
    • O bosib bydd cyfle i fynd i ymweld â'r brifysgol
    • Ar ôl 13:00 heddiw, mynd ar Hwb UCAS i ychwanegu dewis clirio
    • Bydd cynnig clirio gan unrhyw brifysgol yn sefyll tan bo' penderfyniad yn cael ei wneud
  18. 'Canlyniad gwych' i Ffion, sy'n ofalwr ifancwedi ei gyhoeddi 10:32 GMT+1

    A hithau'n gofalu am ei mam, mae canlyniadau Ffion Haf, 19, o Ysgol Morgan Llwyd, hyd yn oed yn fwy arbennig iddi, meddai.

    "Dw i'n ofalwr... ers o'n i'n bedair 'dw i wedi bod yn ofalwr ifanc, yn gofalu am Mam ers dw i'n cofio.

    "Mae 'di bod yn eithaf anodd ac roedd 'neud Lefel A yn fwy anodd, felly dyna pam 'dw i'n fwy chuffed nag o'n i am fod gyda chanlyniad gwych."

    Disgrifiad,

    Ffion Haf a'i mam

    Mynd i Brifysgol De Cymru i astudio hyfforddi pêl-droed yw'r bwriad i Ffion nawr, eglurai.

    "Dwi bach yn nerfus, ond dwi'n hapus ac yn lwcus."

  19. Edrych i mewn i Gyllid Myfyrwyr Cymru wedi 'ysgafnhau'r ofn'wedi ei gyhoeddi 10:26 GMT+1

    Mae Awel, 17, o Lansannan yn mynd i astudio newyddiaduriaeth yng Nghaerdydd ym mis Medi ar ôl derbyn A*A*AA mewn Cymraeg, Drama, Troseddeg a'r BAC.

    Doedd Awel ddim yn sicr ar y dechrau a oedd hi am fynd i brifysgol ond "rwan bo fi'n hollol sicr ac yn edrych mlaen i fynd i brifysgol dwi'n meddwl bod y pwysau wedi dechrau taro fi 'chydig bach," meddai.

    Roedd ei amheuon gwreiddiol am "y pres".

    "Mae gymaint o bobl yn sôn am y ddyled sy'n gallu adeiladu fyny o brifysgol felly o'dd hynny yn sicr yn rhywbeth yn fy meddwl i drwy'r amser.

    "Ond rwan bo fi wedi edrych bach mwy i fewn i Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut mae'r system yna'n gweithio mae wedi ysgafnhau'r ofn yna chydig bach."

  20. 'Heddiw yn benllanw gwaith caled dros y saith mlynedd ddiwethaf'wedi ei gyhoeddi 10:23 GMT+1

    Nia Land

    “Mae’r canlyniadau heddiw yn benllanw gwaith caled y disgyblion dros y saith mlynedd diwethaf, ac rydym yn ymfalchïo’n fawr yn eu llwyddiant,” meddai Mrs Nia Land, pennaeth chweched Ysgol Bro Edern.

    Roedd Harri ac Ela ymhlith y myfyrwyr oedd wedi dod draw i'r ysgol i gasglu eu canlyniadau AS y bore 'ma.

    Harri ac Ela