Dynes wedi ei harestio ar ôl i gartrefi gael eu 'dinistrio' mewn tân

Mae pum byngalo wedi'u heffeithio gan y fflamau, meddai'r gwasanaeth tân
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 29 oed wedi cael ei harestio ar ôl i nifer o gartrefi gael eu "dinistrio'n llwyr" yn dilyn tân yn Sir Caerffili.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân mewn byngalo teras ar Hazlewood Road yng Nghefn-y-pant, Trecelyn am tua 16:00 ddydd Mercher.
Mae pum byngalo wedi'u heffeithio gan y fflamau, meddai'r gwasanaeth, gyda delweddau yn dangos o leiaf pedwar adeilad wedi'u dinistrio'n llwyr.
Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi arestio dynes ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol, gyda diofalwch ynghylch os oedd bywyd mewn perygl.
Mae'r ddynes, sy'n dod o Drecelyn, yn cael ei chadw'n y ddalfa.

Nid yw'r heddlu yn ystyried y tân fel un sy'n gysylltiedig ag "unrhyw danau gwyllt eraill"
Dywedodd y llu fod pobl wedi gorfod gadael 32 o adeiladau ac nad oedd adroddiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu.
Nid yw'r heddlu yn ystyried y tân fel un sy'n gysylltiedig ag "unrhyw danau gwyllt eraill", yn ôl y Prif Uwch-arolygydd John Davies.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tân ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu.
Mae cyngor i drigolion lleol i gau eu drysau a ffenestri oherwydd y mwg, gyda'r gwasanaeth tân hefyd yn annog pobl i osgoi teithio i'r ardal.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân mewn byngalo yng Nghefn-y-pant, Trecelyn am 16:00 ddydd Mercher
Mae'r tân wedi achosi "difrod sylweddol i nifer o eiddo preswyl a fydd yn cael effaith ddinistriol ar y rhai yn y gymuned leol", meddai'r Prif Uwch-arolygydd.
Yn ôl y cynghorydd Adrian Hussey, mae rhai pobl wedi colli eu cartrefi ac yn cael cynnig llety dros dro.
Dywedodd fod pobl leol wedi ceisio diffodd y tân ond wedi gorfod gadael pan ddaeth yn amlwg ei fod allan o reolaeth.
"Roedd y tai wedi'u dinistrio'n llwyr - roedd eu ceir nhw wedi cael eu difrodi hefyd," meddai.
Yn y cyfamser, mae'r A470 ar gau yn Rhaeadr oherwydd tân gwyllt yn yr ardal, ond mae Hazelwood Road wedi ailagor i drigolion.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y prif weinidog Rhun ap Iorwerth ei fod "yn cydymdeimlo efo pawb yn y gymuned honno ac yn benodol y rhai sydd wedi gorfod symud o'u cartrefi oherwydd y tân yma, a diolch yn fawr iawn i'r gwasanaethau brys wrth gwrs am ymateb mor gyflym."
"Mae hyn yn crisialu eto y bygythiad 'da ni'n ei wynebu.
"'Da ni'n clywed am danau yn bygwth cartrefi; wel dyma ni dân wedi cyrraedd cartrefi, ac mae hynny'n golygu na allwn ni bwysleisio gormod yr angen i weithredu ar draws yr holl haenau yna o gamau posib mae llywodraeth yn cael eu cymryd er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
"Be' da ni'n ei wneud drwy'r amser ydy edrych ar a ydy'r adnoddau gyda ni? Ydy'r cydweithio fel y gallai fod er mwyn cadw pobl yn ddiogel?
"Dyna'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd - mae'n fy niolch i i'r holl asiantaethau yn dod at ei gilydd er mwyn trio cadw pobl yn ddiogel."

Yn siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, y cynghorydd James Pritchard, fod peirianwyr strwythurol ar y safle yn asesu'r eiddo, a bod y cyngor yn gweithio gyda'r teuluoedd i drefnu llety dros dro.
Talodd deyrnged hefyd i'r gymuned leol, gan gynnwys Clwb Rygbi Trecelyn, "sydd wedi agor ei ddrysau i bobl leol y bore 'ma".
"Mae'r gymuned gyfan yn dod at ei gilydd," meddai, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un "ddinistriol iawn".

Dywedodd Julia Nichols ei bod wedi teimlo "ofn llwyr" wrth weld tân mor agos at ei chartref
Dywedodd Julia Nichols, 74, ei bod wedi gweld mwg a fflamau o'i chartref pan ddechreuodd y tân.
Dywedodd fod yr heddlu wedi curo ar ei drws a'i bod hi a phobl leol eraill wedi gorfod gadael yr ardal mor gyflym â phosib.
"Roeddwn i'n teimlo dros y bobl. Roedden ni'n eistedd yn y ganolfan hamdden ac roedd yna rai pobl oedd wedi colli eu cartrefi," meddai.
"Roedden nhw mor ddewr, dwi'n meddwl, i golli popeth."
Dywedodd ei bod wedi teimlo "ofn llwyr" wrth weld tân mor agos at ei chartref.
"Dydych chi ddim yn disgwyl agor eich drws a gweld tân wrth eich ymyl," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.