Dafydd Owain yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Fe dderbyniodd Dafydd Owain ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Gwener
- Cyhoeddwyd
Dafydd Owain sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda'i ail albwm, Ymarfer Byw.
Y beirniaid eleni oedd Lewys Meredydd, Eluned Haf, Alun Cob, Molly Palmer, Huw Bebb a Cadi Glwys.
Yn siarad ar lwyfan y Pafiliwn wrth dderbyn y wobr - ar ddiwrnod ei ben-blwydd - dywedodd ei fod yn "deimlad grêt".
"Mae jyst 'di bod yn flwyddyn wallgo' efo'r record - lot o ymateb da, a ma' hwn yn beth bach neis arall i gael."
Dywedodd ei fod yn "mynd trwy gyfnod eitha' tywyll" wrth gyfansoddi'r albwm, ac y bu'n brofiad "anodd" ei recordio.
"O'n i ddim yn siŵr os oedd hi'n record dda iawn - dwi'n meddwl achos oedd 'na gymaint o bethau personol yn y record, oedd o'n anodd weithia' trio dehongli hynna o ran be' oedd safon y peth."
Y rhestr fer
Y 10 albwm arall a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:
Ani Glass - Phantasmagoria - Pwll Records
Buddug - Rhwng Gwyll a Gwawr - Recordiau Cosh
Casi - Plentyn yr Haul - Codi Pais Records
Ciwb - Gad Mi Ddod Mewn - Sain Recordiau
Eve Goodman a SERA - Natur - Recordiau Anian
Ffenest - Emynau Anghyflawn - Grwndi Records
Griff Lynch - Blas Melysa'r Mis - Lwcus T
Lafant - Segurdod - Fflach Cymunedol
Mari Mathias - Cyfarwydd - Tarian
Sonant - Sonant - Ikaching
Ynys enillodd y wobr y llynedd, am eu halbwm Dosbarth Nos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd6 Awst 2025
