Lluniau: Dydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las
- Cyhoeddwyd
Urddo Mari Grug a Joe Allen, llond y lle o hwyl ar y maes, gobeithio am deilyngdod yn seremoni'r cadeirio ac edrych ymlaen at Y Bandana ar Lwyfan Y Maes. Dyma gip o'r maes ar ddydd Gwener.

Jay, telynor o Abertawe yn cyfarfod telynwyr Yr Orsedd - Catherine Thomas a Meinir Heulyn

Joanna a Clive o Aberteifi yn stiwardio yn Y Lle Celf

Y cyflwynydd Mari Grug, Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn cael ei hurddo

Criw Ysgol CSTLC Caerfyrddin yn mwynhau ar y maes

Erin a Dewi o Dyddewi yn marchogaeth yn Y Pentref Plant

Megan o Drevelin, Y Wladfa a Iona o Fynydd Llandygai - disgynyddion sylfaenydd Y Wladfa sef Michael D. Jones yn cyfarfod ei gilydd ar y maes am y tro cyntaf erioed

Yr Archdderwydd Mererid Hopwood ar y ffordd i urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Cafodd cyn-chwaraewr Cymru Joe Allen ei dderbyn i'r Orsedd heddiw ac roedd galw mawr am lofnod ganddo

Amser gwario ar stondin ddillad Mirsi

Roedd digonedd o ganu ar y maes ar ddydd Gwener

Carys, Ffion ac Anti Ffi o Hwlffordd yn mwynhau diod oer cyn mynd i weld y cadeirio

Gabriel, Zacl a Morgan yn llenwi eu boliau ar ôl noson hwyr yn Maes B neithiwr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
