Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2028

- Cyhoeddwyd
Caerdydd fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2028, medd trefnwyr y Brifwyl.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Faes Eisteddfod y Garreg Las ddydd Sadwrn, wrth i'r ŵyl ddirwyn i ben.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r brifddinas gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ers degawd.
Yn wahanol i 2018, pan oedd y maes yn un agored ac roedd mynediad yn rhad ac am-ddim, bydd maes 2028 yn un fwy traddodiadol, gyda thocynnau, yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr y Brifwyl.

Dywedodd Betsan Moses eu bod yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith ac "adeiladu'r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf"
"Mi fydd hi'n faes traddodiadol," meddai Betsan Moses, "ond mi fydd hi'n faes yn debyg i hon o ran bod yna docynnau a bydd yna furiau".
Yn 2018 fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod Eisteddfod Caerdydd wedi gwneud colled o £290,000.
Dyw union leoliad y Brifwyl yn 2028 ddim wedi ei ddewis eto, ond bydd y gwaith o baratoi yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Gelfyddydau y Chapter, Treganna, ar 9 Medi.
Bwriad y cyfarfod yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth, gwirfoddoli ac ymuno â'r gwaith o drefnu'r ŵyl a'r prosiect cymunedol fydd yn arwain ati.
Ychwanegodd Betsan Moses, fod y trefnwyr yn "edrych ymlaen yn fawr" at ddechrau'r gwaith yng Nghaerdydd ac "adeiladu'r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf".
"Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy'n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig," meddai'r Cynghorydd Chis Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd.
Bydd enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2028 yn agor yr wythnos nesaf ac mi fydd y brifwyl ei hun yn cael ei chynnal rhwng 5 a 12 Awst.

Mae'r newyddion wedi dod yn gynt na'r disgwyl meddai Llinos ond mae'n newyddion "ffantastig"
Mae Llinos Hallett, sy'n byw yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd yn dweud bod hyn yn newyddion "ffantastig".
"O'n i'n meddwl bod hi'n amser i fe ddechre' dod yn ôl i Gaerdydd nawr," meddai ond bod e wedi dod "bach yn gynt na o'n i'n disgwyl ond mae'n syniad amazing".
"Mae gymaint o bobl di-Gymraeg yn yr ardal," meddai "mae'n gyfle ffantastig i bobl ddod i weld be' sydd gan yr Eisteddfod i ddangos".

Mae Beca a Gruff Roberts yn edrych ymlaen yn fawr at gael Eisteddfod agosach at adref
Mae Beca a Gruff Roberts o Bontypridd hefyd yn hapus iawn â'r newyddion.
"Bydd e'n ddelfrydol ifi," meddai Gruff oherwydd "bydd dim angen teithio gymaint".
"Nes i wir fwynhau'r 'Steddfod yn y bae 10 mlynedd yn ôl a bydd hi'n ddiddorol gweld os ydyn nhw'n penderfynu trio gwneud rhywbeth fel yna eto neu trio cal 'Steddfod mwy traddodiadol.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr, dwi'n siŵr bydd e'n wych."
Mae Beca hefyd yn edrych ymlaen: "'Nes i really joio fe pan odd e'n y bae," meddai.
"Odd e'n 'Steddfod really da natho ni really joio'r awyrgylch, so bydd e'n neis cal e nôl."

Mae Bethan (chwith) a Megan o Gaerdydd yn hapus bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i'r brifddinas
Dydy Megan na Bethan o Gaerdydd "methu aros".
Gan fod Megan yn byw yn Sbaen ar hyn o bryd "bydd dod yn ôl i'r 'Steddfod yn haws os bydd e'n Gaerdydd," meddai.
Esboniodd bod ei ffrindiau yn Sbaen o Iwerddon a'r UDA a'i chariad o Peru.
"A fi'n joio loads eleni" ond gydag Eisteddfod yn mynd i'r brifddinas "bydd e'n hawdd i cael pawb i ddod gyda fi," ychwanegodd.
Mae Bethan hefyd yn cytuno y byddai'n braf cael Eisteddfod fwy cyfleus iddi ac "mae'n dda i gael pethe yn y capital weithie ond dim trwy'r amser," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
