Penbleth yn ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2026

PenblethFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyhoeddiad mai Penbleth oedd enillwyr Brwydr y Bandiau eleni ei wneud ar Lwyfan y Maes nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Penbleth ydy enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2026.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn flynyddol mewn partneriaeth rhwng Maes B a'r BBC er mwyn "darganfod talent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd".

Y rhai oedd wedi cyrraedd y tri olaf eleni, ac yn perfformio ar Lwyfan y Maes nos Fercher, oedd Heledd a Mared, Lucy Borja, a Penbleth.

Bydd Penbleth yn derbyn £1,000 fel gwobr, wedi'i roi gan Gyngor Cymuned Eglwyswrw.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i fandiau ac artistiaid sy'n "cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd, gyfoes, wreiddiol", yn ôl yr Eisteddfod.

O fewn y 'genres' sy'n cael eu derbyn, mae indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, canu gwerin cyfoes, "neu unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy'n dod i'r amlwg".

'Gwthio'r ffiniau'

Dom James, Molly Palmer a Billy Morley oedd beirniaid y gystadleuaeth eleni.

Fe wnaeth 17 o fandiau gystadlu, gyda thri yn cyrraedd y rownd derfynol. Aeth y tri hynny benben ar lwyfan y Maes brynhawn Mercher.

Fel yr arfer, bydd enillydd y gystadleuaeth hefyd yn cael cyfle i berfformio ar lwyfan Maes B.

Dywedodd Molly Palmer ein bod "wedi gweld llwyth o artistiaid o ardaloedd tu fas i Gaerdydd yn creu miwsig.

"Pobl o gefndiroedd gwahanol yn gwthio'r ffiniau gyda cherddoriaeth iaith Gymraeg mewn genres newydd trwy'r amser."

Ond fe ychwanegodd fod "dal lot o bobl sy'n colli mas achos maen nhw'n dod o ardaloedd gweledig, tlawd a llefydd mae pobl yn anghofio amdanyn nhw".

"Mae'r diwydiant yn gallu bod yn un eithaf creulon, felly dwi'n falch iawn bod pethe mor syml ac effeithiol fel brwydr y bandiau dal i fodoli."

Heldd a MaredFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd (chwith) a Mared (dde) wedi bod yn cyfansoddi ers blynyddoedd bellach

Mae Heledd a Mared yn efeilliaid o Gaerfyrddin.

Er eu bod wedi rhyddhau caneuon Cymraeg ers 2022 dywedodd Heledd cyn y rownd derfynol mai eu perfformiad iawn cyntaf oedd ar Cân i Gymru y llynedd.

Ychwanegodd Mared fod y broses ymgeisio yn "rili hawdd, naill ai hala fideo o chi yn perfformio neu demos chwarter awr".

"Nathon ni demo o bedair cân, mergo nhw gyda'i gilydd a hala fe mewn a bwyti mis yn ôl clywon ni 'nôl a threfnu i ffilmio clip byw a ffilmio 'Tŷ Cŵn' [enw'r gân]."

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gystadlu ar ôl clywed am y gystadleuaeth ar y radio: "Ni heb drio amdano fe o'r blaen," meddai Heledd.

"O'n ni jyst yn gwrando ar raglen Mirain Iwerydd ar y radio ryw noswaith, ac oedd hi'n cyflwyno fe ac o'n ni'n meddwl, ma' ishe ni drio am hwn achos ni'n dod at ddiwedd yr oedran!"

'Cyfle da i gael profiad'

Mae'r ddwy yn awyddus iawn i barhau i gyfansoddi, a dywedodd Mared fod cyrraedd y rownd derfynol yn brofiad "rili cyffrous".

"Mae'n gyfle i fwy o bobl wrando ar caneuon ni a watcho ni'n perfformio, a ma' fe ar lwyfan y maes.

"Hefyd un o'r gwobrau yw cael slot ar Maes B a fi'n siŵr bod hwnna yn rhywbeth ma' pob band Cymraeg eisiau gwneud.

"Mae'n gyfle da i gael profiad a chael enw chi mas 'na yn enwedig mewn gŵyl mor fawr â'r Eisteddfod."

Ychwanegodd Heledd nad oedd y ddwy yn "disgwyl mynd trwyddo... ond wedyn gathon ni ebost, felly mae'n rili exciting!"

Mae Dewin yn perfformio mewn sawl lleoliad yn ystod Eisteddfod y Garreg Las 2026Ffynhonnell y llun, Dewin
Disgrifiad o’r llun,

Bu Nico Dafydd yn meithrin bandiau newydd megis Lafant, Dewin (uchod) a Chwaer

Er bod diddordeb amlwg ymhlith bandiau newydd, dywedodd Nico Dafydd, un sydd ynghlwm â'r maes, ei fod yn "mynd i gymryd sbel nes bod y sin yn cyrraedd rhywle iach, dwi'n meddwl."

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd: "Neith treftadaeth mond atgoffa ti o beth sydd wedi bod - ti'n gorfod creu o'r newydd drwy'r amser."

Bu'n meithrin bandiau newydd megis Lafant, Dewin a Chwaer a dywedodd bod eu gweld yn "chwarae ar lwyfan y Maes, Maes B, Caffi Maes B, gigs Cymdeithas... oedd e'n teimlo hwnna oedden ni eisiau cyrraedd a ni kind of wedi llwyddo."

Wrth sôn am y sin yn y gorllewin, dywedodd: "Mae'n dod 'na, ma' fe bell off lle licen i weld e, dal tîm bach o unigolion mewn canolfannau penodol sy'n dreifio fe.

"Mae'r isadeiledd o gael llefydd i chwarae, cynulleidfa sy'n barod i fynd i'r llefydd 'na a bandiau sy'n barod i fwydo'r slots 'na."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.