'Coflaid gan Gymru gyfan': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Disgrifiad o’r llun, Roedd Cylch yr Orsedd yn brysur iawn ar gyfer y seremoni fore Gwener
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n fore arbennig i ddegau o bobl a gafodd eu hurddo i Orsedd Cymru ar faes Eisteddfod y Garreg Las.
Fe ddywedodd y cyflwynydd Heledd Cynwal bod cael ei hurddo yn teimlo fel derbyn "coflaid gan Gymru".
Gyda'r haul yn gwenu ar y maes yn Llantwd, fe ddaeth torf fawr i Gylch yr Orsedd i wylio'r seremoni.
Roedd nifer o Gymry adnabyddus yn cael eu hanrhydeddu gan gynnwys y cyn-bêl-droediwr Joe Allen, y cyflwynydd Mari Grug a'r ganotres Aleighcia Scott.
'Na'i fyth anghofio fe'
Mae Heledd Cynwal wedi bod yn brysur iawn yr wythnos hon yn cyflwyno'r arlwy o'r Stiwdio.
Dywedodd iddi "osod larwm yn gynnar fel bo' fi'n cael digon o amser achos o'n i'n gwybod bydden ni bach yn emosiynol falle, bach yn nerfus, a ges i amser i'n hunen, cerdded mewn, ac roedd yr haul yn gwenu a nes i fwynhau e."

Dywedod Heledd Cynwal ei bod wedi dewis yr enw barddol 'Cynwal'
"Yr eiliad ti'n cyrraedd fan hyn ma' pawb yn edrych ar dy ôl di, ma' nhw'n gweud 'tho ti yn union beth i wneud yr holl ffordd.
"O'n i'n teimlo bod yr Orsedd wedi gofalu amdanon ni a fi ishe hwnna yn fy mywyd i a bod yn onest.
"A cael y teulu a ffrindiau coleg, oedd e jyst yn... na'i fyth anghofio fe.
"Mae fel 'se ti'n cael coflaid gan Gymru."
Dywedodd iddi ddewis yr enw barddol 'Cynwal' am ei fod yn "enw sydd yn llinyn trwy'r cenedlaethau a fi 'di paso fe mlaen i fy mhlant i hefyd".
"Mae'n anrhydedd" - Ymateb Joe Allen ar ôl cael ei urddo
Roedd y cyn-bêl-droediwr Joe Allen hefyd ymhlith y rhai oedd yn cael eu hurddo.
Dywedodd ei fod yn "deimlad gwych, wedi mwynhau'r seremoni gymaint ac anrhydedd enfawr i dderbyn i'r Orsedd".
Pan gafodd ei holi sut mae'r wisg las yn cymharu â gwisgo cit Abertawe neu grys Cymru, dywedodd: "Wel mae'r lliw yn un weddol gwahanol i fi ond, mae wedi bod yn bleser gwisgo fe ac edrych ymlaen am weddill y diwrnod hefyd."
Pan dderbyniodd y llythyr yn dweud ei fod am gael ei urddo, dywedodd ei fod yn "sioc enfawr, dim yn rywbeth o'n i'n disgwyl o gwbl, i gael fy urddo yma yn Sir Benfro, mae'n anhygoel".
Dyma oedd yr ymateb gan rai gafodd eu hurddo ddydd Gwener
Cafodd y gantores Aleighcia Scott hefyd ei hurddo, a dywedodd ei fod yn "ardderchog ac mae mor bert i weld popeth yn digwydd heddiw, mae e mor lush".
Fe benderfynodd Aleighcia i gadw ei henw llawn fel ei henw barddol "achos mae'n bwysig dangos i bobl ti'n gallu jyst dangos lan a bod dy hun a jyst dysgu Cymraeg hefyd".
I unrhyw un arall sy'n dysgu Cymraeg, dywedodd: "Cadw fynd, chi'n gallu gwneud e a jyst cael hwyl gyda'r iaith a chadw'r iaith i fynd."

Roedd y seremoni yn arbennig i Ann Davies, sy'n lleol i'r Eisteddfod
Roedd y seremoni yn arbennig i ddwy o'r ardal, Ann Davies a'i merch Mari Grug, gyda'r ddwy yn cael eu hurddo.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Ann: "Ma' fe'n ddigwyddiad arbennig i'n teulu ni heddiw, mae'r gŵr yn yr Orsedd ers 2013, ond ma' cael bod gyda Mari heddiw yn brofiad sbesial a chael fy urddo yn fy ardal enedigol... gallwn ni byth a gofyn gwell.
"Ma'n frawd i hefyd yn yr Orsedd ac yn gadeirydd y pwyllgor gwaith, felly ni'n teimlo bod e'n Steddfod arbennig iawn i ni."

Cafodd Ann Davies ei hurddo gyda'i merch, y gyflwynwraig Mari Grug
Dywedodd fod y teulu wedi cael "wythnos fishi iawn, ry'n ni wedi cymryd popeth, wedi neud lot o bethau ac yn falch bo' ni'n gallu cymryd rhan achos gewn ni fyth y siawns hyn 'to".
"Ry'n ni wedi anwesu'r cyfan a'i fwynhau e."

Eleri Twynog gyda'i thad fore Gwener
Mae Eleri Twynog yn adnabyddus am sefydlu'r cwmni 'Mewn Cymeriad' sydd wedi codi statws rhai o bobl bwysig hanes Cymru.
Wrth gael ei hurddo fore Gwener, dywedodd ei fod yn "brofiad hyfryd dros ben".
"Ro'n i'n cerdded gyda Ryland Teifi, y ddau o ni wedi bod yn cydweithio ar sioe Waldo yn ddiweddar felly roedd hwnna yn neis."
"Ges i 'nghodi yn Aberteifi, symud i Lanbed a byw bellach yng Nghaerdydd, ond mae'r Steddfod trwy gydol yr wythnos wedi bod yn fendigedig, ond roedd hwn yn goron ar y cyfan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022

- Cyhoeddwyd7 Mai



