Cyn-blismon wedi 'rhannu gwybodaeth sensitif yr heddlu gyda'r cyhoedd'

Cefn swyddog heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y panel disgyblu bod Gillian Davies wedi rhannu gwybodaeth sensitif yr heddlu gydag aelodau o'r cyhoedd nifer o weithiau dros gyfnod o saith mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae panel disgyblu wedi dyfarnu y byddai cyn-gwnstabl gyda Heddlu'r Gogledd, wnaeth rannu gwybodaeth sensitif yr heddlu gydag aelodau o'r cyhoedd, wedi colli ei swydd petai hi'n dal i wasanaethu.

Roedd Gillian Davies wedi bod gyda'r llu am 18 mlynedd, ac wedi cael ei chymeradwyo ddwywaith am ei gwaith yn ystod ei gyrfa.

Penderfynodd y panel ei bod wedi camymddwyn yn ddifrifol dros gyfnod o saith mlynedd, drwy dorri rheolau yn ymwneud â chyfrinachedd, gorchmynion a chyfarwyddiadau rhwng 2017 a 2024.

Roedd Ms Davies, a ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 2026, wedi defnyddio ffôn symudol personol, pan nad oedd ar ddyletswydd, i gyfathrebu gydag unigolion oedd yn ymwneud â throseddau, ac wedi cyfathrebu gwybodaeth gyfrinachol sensitif yr heddlu.

Beth wnaeth Gillian Davies?

Yn ystod y gwrandawiad ym mhencadlys Heddlu'r Gogledd ym Mae Colwyn ddydd Mawrth, clywodd y panel bod Gillian Davies wedi camddefnyddio gwybodaeth yr heddlu nifer o weithiau.

Roedd hynny'n cynnwys defnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu i edrych am wybodaeth am ei chymdogion a chyn-bartner, heb fod yna reswm plismona dilys dros wneud hynny.

Roedd hi hefyd wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gydag aelodau o'r cyhoedd ar ei ffôn personol a thrwy WhatsApp.

Roedd y wybodaeth yn cynnwys y ffaith bod rhywun wedi cael eu harestio a pham, bod cymydog wedi dwyn car, ac ymhle a phryd y byddai gwarant i archwilio safle yn cael ei defnyddio.

Fe wnaeth hi hefyd ofyn i aelodau o'r cyhoedd helpu i gasglu gwybodaeth, gan gynnwys gofyn i un dynnu llun o gerbyd.

'Angen cynnal safonau, a ffydd y cyhoedd'

Clywodd y panel bod y cyn-swyddog, yn ystod cyfweliad ym mis Ebrill 2025, wedi cyfaddef ei bod wedi "darparu gormod o wybodaeth", ac wedi dweud nad oedd wedi ystyried ei bod yn torri rheolau gwarchod data wrth "sgwrsio" gyda ffrind am berson arall oedd wedi cael dedfryd o garchar.

Clywyd nad oedd "unrhyw awgrym" bod y swyddog wedi elwa'n bersonol neu'n ariannol, ond yn hytrach ei fod yn "gamddefnydd annoeth" o systemau'r heddlu.

Doedd y cyn-gwnstabl ddim yn bresennol yn y gwrandawiad, ond cafodd geirda am ei chymeriad eu cyflwyno i'r panel, oedd yn ei disgrifio fel bod yn "ymroddedig", "rhagweithiol" ac "o gymorth i gydweithwyr".

Wrth ddod i'w casgliadau, dywedodd y panel eu bod wedi ystyried y geirda, ond mai pwrpas y broses ddisgyblu oedd cynnal safonol proffesiynol uchel, ac amddiffyn y cyhoedd.

Dywedodd cadeirydd y panel eu bod o'r farn y byddai ffydd y cyhoedd mewn plismona yn cael ei thanseilio petaen nhw ddim yn ymdrin â'r mater yn gadarn.

Dyfarnodd y panel y byddai Gillian Davies, oni bai ei bod eisoes wedi ymddiswyddo, wedi cael ei diswyddo gyda chofnod o gamymddygiad difrifol.

Bydd ei henw yn cael ei ychwanegu at restr y Coleg Plismona o unigolion sydd wedi cael eu gwahardd rhag gweithio gyda'r heddlu.

Fe fydd gan Gillian Davies hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad drwy'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.