Yr Eisteddfod i ystyried gwahardd rhai troseddwyr rhag cystadlu

EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y sylwadau yn dilyn cwestiynau am reolau cystadlu'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Mae llywydd llys yr Eisteddfod wedi dweud y bydd y Brifwyl yn ystyried a ddylid cyflwyno amodau fyddai'n atal rhai pobl ag euogfarnau troseddol rhag cystadlu yn y prif gystadlaethau.

Daw'r drafodaeth ar ôl i'r cyn-gyflwynydd newyddion, Huw Edwards, gystadlu am Goron Eisteddfod y Garreg Las.

Yn 2024, cafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant.

Dywedodd Nic Parry - llywydd y llys a chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod - y byddai'r Brifwyl yn fodlon trafod a ddylid cyflwyno rheolau newydd ynghylch cymhwystra cystadleuwyr.

Nic ParryFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nic Parry ei benodi yn llywydd y llys a chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd: "Os ydach chi'n gofyn i ni, allwn ni wahardd pobl rhag cystadlu? Gallwn.

"'Da ni'n gwahardd pobl rhag bod yn aelod o'r Orsedd, a does dim byd o'i le nawr mewn cael trafodaeth ynglŷn ag oes yna amodau.

"Os oes ganddoch chi gollfarnau, ydach chi'n cael cystadlu yn yr Eisteddfod?

"Mae'n debyg ei fod o'n dibynnu ar sut rai ydyn nhw. Mi edrychwn ni arno fo."

Pan ofynnwyd a fyddai'r Eisteddfod yn fodlon ystyried cyflwyno amod a fyddai'n atal rhywun ar y gofrestr troseddwyr rhyw rhag cael ei anrhydeddu, atebodd: "Wrth gwrs."

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach yr wythnos hon: "Ar ôl pob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.