Cyhuddo dau arall o lofruddio dyn, 18, yn 'ddatblygiad sylweddol'

Ceiran EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ceiran Evans ar 9 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn arall o ardal Abertawe wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad gyda marwolaeth dyn 18 oed ar 9 Gorffennaf.

Bu farw Ceiran Evans, 18, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn yng Ngorseinon.

Roedd Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, Abertawe, eisoes wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ers mis Gorffennaf a hefyd wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ail berson yn yr un digwyddiad.

Mae Heddlu'r De bellach wedi cadarnhau bod Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad gyda'r farwolaeth hefyd.

Mae'r ddau wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne fod yr ymchwiliad yn un "cymhleth i ddigwyddiad sydd wedi bod yn hynod drawmatig i deulu Ceiran Evans ac i gymuned ehangach Gorseinon".

"Mae'r cyhuddiadau ychwanegol yma yn ddatblygiad sylweddol arall wrth i ni geisio deall yr amgylchiadau a wnaeth arwain at farwolaeth Ceiran.

"Diolchwn unwaith eto i'r gymuned leol am eu cymorth gyda'r ymchwiliad."