Galw am newid cynllun ffermio, sydd ag ond traean o ffermwyr Môn

Fferm Brian
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Bown yn byw ar fferm Trewyn ger Llannerch-y-medd

GanGarry Owen
Gohebydd arbennig Newyddion Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod agoriadol Sioe Môn mae undeb ffermwyr NFU Cymru yn dweud bod angen newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) oherwydd bod cyn lleied o ffermwyr yr ynys wedi ymuno â'r cynllun cymorth ariannol i amaethwyr.

Bwriad y cynllun yw cymryd lle'r Taliad Sylfaenol, sydd wedi cael ei ddosbarthu gan y llywodraeth ers 2021, a chyn hynny gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru dim ond tua thraean o ffermwyr Môn sydd wedi cytuno i ymuno â'r cynllun - 264 i gyd, sy'n cyfateb i thua 33% o ffermwyr yr ynys.

Mae hynny'n is nag unrhyw sir amaethyddol arall yng Nghymru - Casnewydd yw'r unig sir arall lle mae'r ffigwr yn is - ac mae hanner ffermwyr Cymru wedi ymuno â'r cynllun newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y lefel o ddiddordeb yn y flwyddyn gyntaf yn "galonogol, hyd yn oed wrth i ni edrych i barhau i esblygu'r CFfC".

Mae yna bryder bod heriau yn codi a llawer o fusnesau yn ei chael hi'n anodd wrth geisio cwrdd â rhai o ofynion presennol y cynllun, yn enwedig mewn perthynas ag opsiynau cynefinoedd dros dro.

Dywedodd dirprwy lywydd NFU Cymru, Paul Williams, fod eu haelodau yn "deall yn iawn pwysigrwydd sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, ac maent am weld y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gweithio ar gyfer pob sector, pob math o fferm a phob rhan o Gymru".

"Fodd bynnag, yr hyn rydym yn ei glywed gan ffermwyr ledled Môn yw nad yw'r cynllun o reidrwydd yn adlewyrchu realiti ffermio ar yr ynys."

Brian Bown
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Brian Bown yn "hoffi gweld y cynllun yn cael ei addasu"

Fe benderfynodd Brian Bown, o fferm Trewyn ger Llannerch-y-medd, ei fod am ymuno â'r cynllun.

Mae'n cynhyrchu ŵyn cynnar ac yn cadw tua 800 o ddefaid, yn pesgi tua 170 o wartheg stôr ac yn tyfu cnydau.

Roedd llofnodi i gael mynediad i'r cynllun yn benderfyniad anodd iddo, meddai.

Mae'n dal yn anhapus â threfniadau cynefinoedd oedd yn rhaid iddo gyflwyno er mwyn gwneud hynny - gan fod y tymor tyfu gwair ar yr ynys yn gynharach na mewn rhannau eraill o'r wlad, meddai.

"Roedd yna dipyn o bwyso a mesur ar y cychwyn," meddai Mr Bown.

"Os 'da chi allan o'r cynllun 'da chi yn colli 40% o'r arian oeddech chi yn ei gael llynedd.

"Hynny oedd y penderfyniad - os gallwn ni gymeryd yr ergyd o golli hynny."

Er mwyn cael mynediad bu rhaid cau caeau i ffwrdd am fisoedd ac roedd hynny yn faich, meddai, ac ansawdd y borfa yn gwaethygu.

Dywed Mr Bown bod rhaid iddo aros nawr yn y cynllun, ond "baswn i yn hoffi gweld y cynllun yn cael ei addasu i'r dyfodol".

Tecwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Gwell gen i beidio mynd i mewn i'r scheme na rhoi straen meddwl ar rywun," medd Tecwyn Jones

Peidio ymuno â'r cynllun oedd penderfyniad Tecwyn Jones, o fferm Bodwrog yng Ngwalchmai, er ei fod yn y gorffennol wedi ymuno â chynlluniau megis Glastir.

Dywed fod y gwaith papur sydd ynghlwm â chael mynediad yn ormod o faich.

"Dwi ddim yn ddyn compiwtar. Does gen i ddim compiwtar a dwi'n un gwael am ddarllen a 'sgwennu.

"Dwi'n teimlo bo' ni n'ôl yn yr ysgol - yn gorfod mynd ar gyrsiau a chwrdd â benchmarks.

"Gwell gen i beidio mynd i mewn i'r scheme na rhoi straen meddwl ar rywun."

Fferm Tecwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tecwyn Jones yn ffermio yng Ngwalchmai

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Roedd tua 50% o'r hawliadau a gyflwynwyd drwy'r Ffurflen Gais Sengl yn y cyfnod cais ar gyfer y CFfC, gyda dros ddwbl y tir yn cael ei dynnu i mewn i'r CFfC o'i gymharu â'r BPS.

"Mae'r lefel yma o ddiddordeb yn y flwyddyn gyntaf yn galonogol, hyd yn oed wrth i ni edrych i barhau i esblygu'r CFfC.

"Wrth i ni wneud hynny, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau a'r rhwystrau y mae ein ffermwyr yn eu hwynebu wrth ystyried y cynllun.

"Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth hon, byddwn yn cadarnhau cylch cyllido aml-flwyddyn ar gyfer y CFfC.

"Bydd hyn yn rhoi sicrwydd ac yn cynorthwyo ffermwyr gyda'u cynllunio busnes a'u hyder yn eu pontio rhwng y BPS a'r CFfC."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig