Menyw wedi dioddef 'marwolaeth dreisgar' - cwest

Roedd Charlene Dowsell yn 41 oed ac yn fam i bedwar o blant
- Cyhoeddwyd
Mae agoriad cwest wedi clywed am "farwolaeth dreisgar" menyw a gafodd ei thrywanu ar stryd yng Nghasnewydd.
Bu farw Charlene Mary Dowsell, 41, ar 18 Gorffennaf yn dilyn ffrwgwd ger canol y ddinas.
Clywodd Llys Crwner Gwent bod yr heddlu wedi derbyn galwad am 01:37 yn dweud bod "dyn a menyw yn ymladd at Heol St Vincent a bod y fenyw yn gwaedu".
Daeth swyddogion heddlu a pharafeddygon o hyd i Ms Dowsell gerllaw, ac fe gafodd ei chadarnhau'n farw yn y fan a'r lle am 03:15 er gwaethaf ymdrechion i achub ei bywyd.
Mae archwiliad post-mortem wedi nodi casgliad cychwynnol mai achos y farwolaeth oedd anaf trwy drywanu i ochr chwith y cefn, gan niweidio'r ysgyfaint, stumog a'r iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau o ffrae ar Heol St Vincent ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf
Dywedodd y Crwner Rose Farmer bod y cwest yn cael ei ohirio nes canlyniad camau cyfreithiol.
Mae dyn 66 oed o'r ddinas, Albert Williams, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mewn ymateb i'w marwolaeth, dywedodd teulu Ms Dowsell bod y sefyllfa'n dorcalonnus a bod pedwar o blant wedi colli eu mam.
Ychwanegodd eu datganiad: "Rwyt ti mewn hedd nawr, ein merch hyfryd. Wedi ein gadael ond byth yn angof."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
