O therapydd harddwch i bysgotwraig: 'Dwi'n hoffi mynd yn fudr!'

- Cyhoeddwyd
Mae Emma Sparkes o Gasnewydd yn bysgotwraig sy'n hwylio o Aberdaugleddau a Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro.
Mae'n newid byd i beth oedd ei swydd, sef therapydd harddwch am 14 blynedd.
Ond er fod ei gwallt dros y lle a'r gwaith yn galed, mae Emma wrth ei bodd allan ar y môr, meddai.
'Dwi wedi dod mor bell'
Roedd Emma wastad yn un am fwyta llawer o bysgod, felly pan wnaeth hi gyfarfod ei phartner, Nolan yn 2021, roedd y ffaith ei fod yn bysgotwr yn berffaith - yn enwedig pan gynigiodd ddal cimwch iddi ar ôl eu dêt cyntaf!
Oherwydd ei oriau anghymdeithasol yn pysgota, penderfynodd Emma ymuno ag o ar y cychod bob hyn a hyn, i weld sut beth oedd y gwaith.
Ac mae hi wedi syrthio mewn cariad gyda'r holl beth – gymaint fel ei bod wedi sefydlu ei busnes pysgota ei hun ar ôl cwta dair blynedd, a bellach yn gwerthu beth mae'n eu dal ar stondin farchnad, ac â breuddwyd i ehangu.
"Ar y dechrau, do'n i methu hyd yn oed cyffwrdd mewn pysgodyn i'w daflu nôl i'r môr," eglurai. "Yn y diwedd, 'nes i sgrechian wrth ei daflu dros yr ochr!
"Dwi wedi dod mor bell. Dwi nawr yn gwneud popeth; gyrru'r cwch, glanhau'r rhwydi, glanhau'r pysgod, tynnu'r rhwydi mewn... Does 'na ddim byd dwi ddim yn ei 'neud."

Mae Emma yn gwneud pob elfen o waith bystogwr, ar ôl bod ofn cyffwrdd mewn pysgodyn ar y dechrau!
Gwaith caled ond hwyl
Yn wir, mae bywyd wedi newid llawer i Emma, yn enwedig o gofio ei bod hi'n arfer gweithio fel therapydd harddwch.
Y dyddiau yma mae gwallt Emma dros y lle oherwydd y gwynt, heli'r môr a'r pysgod mae hi'n eu trin. Mae'n wahanol iawn i'w hedrychiad pan oedd hi'n gweithio mewn spa, meddai.
"Mae'n ewinedd i'n ofnadwy - maen nhw mewn darnau nawr. Mae'r dyddiau harddwch wirioneddol tu ôl i mi.
"Anfonodd rhywun neges ata i yn dweud 'dwi methu dychmygu Emma fel pysgotwraig, pan o'n i'n dy 'nabod di fel therapydd harddwch'!"

Emma ar y dde yn ystod ei chyfnod fel therapydd harddwch
Ond er y newid byd, mae Emma wrth ei bodd gyda'i gwaith newydd, hyd yn oed pan mae hi'n dywyll ac oer ar y cwch.
"Yn y gaeaf, ti'n gosod y rhwydi yn hwyr iawn yn y nos, a mas oriau mân y bore i'w casglu, ac mae hi'n gallu bod mor oer a'r môr mor arw oherwydd y gwynt.
"Ar y dechrau, o'n i'n gallu teimlo'n sâl. 'Nes i gymryd tabledi unwaith, ac o'n i'n cysgu ar fy nhraed! Felly dwi ddim yn eu cymryd ddim mwy – ti'n dod drosto fe pan ti'n dod i arfer.
"Mae'r tywydd gwael yn dod â gymaint o wymon mewn i'r rhwydi, ti'n treulio oriau ac oriau yn ei dynnu, sydd ddim yn llawer o hwyl pan mae hi'n tywallt y glaw.

Emma gyda merch Nolan, Christie, gyda dalfa lwyddiannus
"Ond yn yr haf, 'dyn ni'n mynd mas tua 9 y nos wedyn yn dod nôl tua 4 neu 5 y bore.
"A'r rhan sy'n hwyl ydy mynd ar ôl y pysgod unai drwy ddefnyddio technoleg i weld heigiau o bysgod a saethu rhwyd mas a'i dynnu nôl mewn yn syth, neu ti'n edrych lle mae'r adar er mwyn gweld lle mae'r pysgod.
"Mae'n hwyl, achos ti byth yn gwybod beth a faint wyt ti am ei ddal. Mae'r anticipation yn gyffrous."

A dydy Emma ddim yn meindio'r gwaith trwm na'r arogleuon drwg sy'n dod gyda physgota, meddai.
"Mae'n waith reit drwm achos bo' ti'n tynnu'r angorau lan a rhyw 200 llath o rwyd llawn pysgod, ond mae'n workout da!
"A dwi'n tynnu tu mewn y pysgod mas, a dydy e ddim yn fy mhoeni i o gwbl – dwi eitha' hoffi mynd yn fudr! Pan ti'n gwneud hynny, mae 'na arogl achos beth sy'n dod mas o stumog y pysgod, ond dydy pysgod ffres ddim yn gwynto'n ddrwg.
"Dwi wedi arfer gyda fe nawr beth bynnag, er bod y plant ddim yn hoffi dod mewn i'r fan!"
Cefnogaeth ffrindiau hen a newydd
Mae Nolan wedi bod yn pysgota ers ei fod yn bump oed, fel ei dad, ei dad-cu a'i hen dad-cu o'i flaen, felly mae wedi bod yn athro da i Emma.
Ond wrth gwrs, mae hi wedi gorfod derbyn hyfforddiant swyddogol hefyd, fel iechyd a lles, ymladd tân, cymorth cyntaf a diogelwch ar y môr – er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel ar y cwch.

Mae Nolan wedi bod o help mawr i Emma ddysgu sut i bysgota
Ynghyd â chefnogaeth ei phartner a'i theulu, mae hi wedi cael ei chroesawu i gymuned glos o bysgotwyr hefyd.
"Mae pawb wedi bod mor gefnogol. A dynion yw'r rhan fwyaf sy'n gweithio yn y diwydiant – mae 'na ambell i fenyw, ond dim ond fi sy'n gwneud y cyfan ac yn mynd stuck in ar y cychod.
"Mae 'na gymuned hyfryd a mae pawb yn dod 'mlaen. Roedden nhw'n tynnu nghoes i pan oedd y tywydd yn wael unwaith ac es i'n sâl; roedd pawb yn gwybod erbyn i ni ddod nôl i'r lan! Ond maen nhw mor groesawgar.
"Mae fy ffrindiau i'n meddwl mod i'n boncyrs! Ond mor gefnogol hefyd ac yn meddwl bod y peth yn anhygoel."
Heddwch wedi'r prysurdeb
Wrth gwrs, â'r teulu yn byw yng Nghasnewydd, ond yn pysgota o Sir Benfro, mae yna lawer o deithio. A gan fod Emma yn gwneud y pysgota ochr-yn-ochr â swydd lawn amser, mae bywyd yn gallu bod yn brysur, meddai. Ond pan mae hi ar y cwch, mae o werth yr holl brysurdeb.
"Weithiau ti jest angen mynd i bysgota; os ydy'r tonnau a'r llanw a'r tywydd yn dda, well i ni fynd.
"Neu ti'n trio cynllunio dy wythnos, ac yn sydyn, mae'r tywydd yn wael neu mae'r gwynt o'r cyfeiriad anghywir felly ti methu mynd; does 'na'r un faint o bysgod sydd werth peryglu dy fywyd.
"Felly mae popeth dros y lle. Ond dwi'n licio bywyd amrywiol.

Mae Emma - yma gyda Christie - wedi dechrau gwerthu'r pysgod a bwyd môr mae hi wedi eu dal, ar stondin farchnad yng Nghaerdydd
"Dwi'n mynd mas bob penwythnos, ac hefyd yn y farchnad. Lwcus fod gen i hyblygrwydd yn y gwaith, a galla i weithio o Ddinbych-y-Pysgod ar y laptop. Yn yr haf, bydda i'n pysgota drwy'r nos ac yn gweithio yn y dydd.
"Ond, wrth gwrs, o ddewis, fydden i'n canolbwyntio ar y pysgota llawn amser. Mae mor dda i dy les di, i beidio bod wrth laptop drwy'r dydd, a'r holl ruthro rownd 'dyn ni'n ei wneud.
"Ydy mae'n waith caled, ond ti ddim adre, ti ddim yn sownd mewn traffig, does gen ti ddim pobl ar y ffôn.
"Mae'n gallu bod yn gyflym a phrysur, ond mae e mor heddychlon pan ti mas ar y cwch a gweld y machlud a'r wawr, a dolffins yn nofio wrth dy ochr di, a morloi'n nofio ar ôl y cwch achos eu bod nhw eisiau dy bysgod di.
"Mae'n fyd hyfryd mas yna, wir i chi. Dwi mor lwcus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Mawrth

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2025
