'Ir Ifingyl fel wedo Marc' - cofio Lyn Lewis Dafis

Cyfieithodd Lyn Lewis Dafis yr efengylau i dafodiaith Sir Benfro tua'r flwyddyn 2000
- Cyhoeddwyd
Cyn ei farwolaeth yn 61 oed yn 2022 roedd y diweddar Lyn Lewis Dafis wedi cyfieithu rhannau o'r Beibl i dafodiaith unigryw Sir Benfro.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae criw o'r sir wedi dod at ei gilydd i recordio y Beder Ifingyl, ac yn yr Eisteddfod yr wythnos hon bydd cyfle i glywed y recordiad a chofio am Lyn Lewis Dafis.
'Cyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith'
Roedd Mr Dafis yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro, ac yn yr ardal honno y cafodd ei addysg gynnar cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth a graddio yn y Gymraeg.
Wedi hynny aeth i weithio i wasanaeth llyfrgell gyhoeddus Morgannwg Ganol a gwasanaeth llyfrgell Dyfed, cyn ymuno â staff y Llyfrgell Genedlaethol am chwarter canrif.
Bu hefyd yn golofnydd i gylchgrawn Barn ac yn olygydd cylchgrawn Y Llan - wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru.
Ond yr wythnos hon bydd yn cael ei gofio yn bennaf am ei gamp hollol unigryw yn cyfieithu yr efengylau i dafodiaith Sir Benfro.
"Gan fod y Brifwyl yn y sir eleni, mae'n gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith ac i glywed pobl leol yn darllen yr ysgrythur yn eu tafodiaith nhw," meddai Rhodri Darcy ar ran Undeb yr Annibynwyr.

Dechrau Pennod 1 Ioan yn nhafodiaith Sir Benfro
Mae recordio y pedair efengyl yn nhafodiaith Sir Benfro yn brosiect ar y cyd rhwng Undeb yr Annibynwyr, Cyfundeb Sir Benfro, Cymdeithas y Beibl, Cytûn a Llyfrau Llafar Cymru.
Mae nifer fawr o leisau o'r sir yn cyfrannu, gan gynnwys y Parchedig Sian Elin Thomas, Hedd Ladd Lewis, y Parchedig Geraint Morse ac Archdderwydd Cymru, Mererid Hopwood - oll yn darllen geiriau fel:
'Co shwt gath Iesu'i eni.
Cas Mair 'i haddo in wraig i Joseff, ond cyn iddon nw gisgu da'i gily ffeindiodd e mas 'i bod hi'n dishgwyl babi.
(We hyn wedi digwydd trw'r Isbryd Glân, ond weno fe'n stando 'ny ar i pryd).
Mae'r Parchedig Sian Elin Thomas ymhlith y darllenwyr
"Mae'n arbennig," meddai Hedd Ladd Lewis.
"Mae wedi bod yn hyfryd defnyddio'r dafodiaith a dwi'n gwerthfawrogi fod Lyn Lewis Dafis wedi ymroi i gyfieithu'r efengylau mewn i un o dafodieithoedd gorau Cymru - wrth gwrs tafodiaith y Wes Wes.
"Mae mor braf bod y cyfan ar gof a chadw, ond hefyd y cyfan yn deyrnged i'r holl waith a wnaeth Lyn dros yr holl flynyddoedd - yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn yr Eglwys."
Dywed y Parchedig Geraint Morse bod y cyfan wedi bod yn fraint, a'i fod wedi bod wrth ei fodd.
"Mae wedi bod yn hollbwysig bod pwy bynnag sy'n darllen yn deall y dafodiaith ac hefyd yn deall y testun - ac felly yn gallu rhoi synnwyr i'r cyfan.
"Mae clywed geiriau cyffredin bob dydd y sir yn cael eu defnyddio yn y Testament Newydd yn hyfryd a mae rhywun yn dychmygu Iesu yn siarad yn nhafodiaith Sir Benfro - iaith y nefoedd."
Teyrngedau i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn 61 oed
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
Mae'r Archdderwydd Mererid Hopwood, sydd â'i theulu yn dod o'r sir, hefyd wedi mwynhau'r profiad.
"Mi ges i drydedd pennod Luc a'r holl achau 'na i ddarllen, ac roedd yn rhaid canolbwyntio.
"Beth sydd wedi bod yn hyfryd yw clywed y testun - llawer ohono'n gyfarwydd - yn cael ei lefaru mewn tafodiaith.
"Mae'n dod ag ystyr arall iddo ac yn cynnig ffordd arall 'i ddeall e.
"Dwi'n cofio darllen Salm 23 - yr Arglwydd yw fy Mugail - yn nhafodiaith Sir Benfro flynydde'n ôl a dwli ar y cyfan."
Mae'r Beder Ifingyl i'w gweld ar Ap Beibl, dolen allanol, a bydd lansiad y fersiwn sain ynghyd â chofio am Lyn Lewis Dafis yn digwydd ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 17:30 ddydd Iau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.