'Adeiladwr wedi dinistrio fy nghartref cyn diflannu gyda £14,000'

Sheri IngramFfynhonnell y llun, Sheri Ingram
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sheri Ingram fod "anghydbwysedd pŵer mor fawr" rhwng adeiladwyr a phobl sy'n adnewyddu eu cartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Gaerdydd yn dweud y gwnaeth adeiladwr twyllodrus "ddiflannu oddi ar wyneb y ddaear" ar ôl cymryd £14,000 ganddi i wneud gwaith ar ei chartref.

Cafodd Lee Slocombe o Abertawe ei garcharu am chwe blynedd ym mis Chwefror ar ôl twyllo naw o bobl o fwy na £400,000, gan adael rhai ohonyn nhw â gwaith adeiladu peryglus neu anghyflawn.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun i roi mwy o amddiffyniad i bobl sy'n adnewyddu eu cartrefi, gan gynnwys cronfa ddata o fasnachwyr dibynadwy a system dalu gyda mwy o fesurau diogelwch.

Cafodd cartref Sheri Ingram ei adnewyddu gan raglen deledu yn y pendraw wedi i Slocombe ddiflannu ar ganol y gwaith.

Dywedodd Ms Ingram fod y cynllun newydd yn gam yn y cyfeiriad cywir, ond mae'n cwestiynu a fydd digon o gymhelliant i adeiladwyr ymuno â chynllun gwirfoddol.

'Diflannu oddi ar wyneb y ddaear'

Roedd Ms Ingram a'i chyn-bartner wedi prynu tŷ yn Aberbîg ym Mlaenau Gwent yn 2015 gyda'r bwriad o'i adnewyddu a byw ynddo maes o law.

Roedd Ms Ingram, oedd yn 21 oed ar y pryd, wedi cyflogi Slocombe i adeiladu estyniad a newid cynllun llawr gwaelod y tŷ.

Dywedodd nad oedd hi a'i phartner yn arbenigwyr ar waith adeiladu, ac er ei bod yn ymddangos bod llawer yn digwydd, roedd Slocombe yn parhau i ddod o hyd i broblemau ac yn gofyn am fwy o arian i'w datrys.

Am y chwe wythnos gyntaf roedd yn "ymatebol iawn", ond wedyn dywedodd Ms Ingram ei fod wedi "diflannu oddi ar wyneb y ddaear" gyda £14,000 o'u harian.

Tŷ Sheri IngramFfynhonnell y llun, Sheri Ingram
Disgrifiad o’r llun,

Dros gyfnod o chwe wythnos, roedd adeiladwr Sheri Ingram "yn parhau i ddod o hyd i broblemau" ac yn gofyn am fwy o arian i'w datrys

Yn y pendraw llwyddodd ei chyn-bartner i gysylltu ag ef, ond awgrymodd Slocombe fod yr holl arian wedi mynd.

Dywedodd Slocombe ei fod yn disgwyl taliad ar ôl anaf a gafodd ar safle adeiladu arall, ac y byddai'n cael yr arian yn ôl ac yn parhau â'r gwaith, ond ni ddigwyddodd hynny.

Cafodd y tŷ ei adfer yn ddiweddarach gan raglen Channel 5, Cowboy Builders, sy'n helpu teuluoedd sydd wedi cael eu hecsbloetio gan adeiladwyr twyllodrus.

Ym mis Chwefror, cafodd Slocombe, a oedd yn 33 oed ar y pryd, ei garcharu am chwe blynedd ar ôl gwneud gwaith adeiladu peryglus mewn eiddo yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Yn ôl Cyngor Caerdydd, achosodd y twyll i naw dioddefwr golli mwy na £547,000 pan gafodd costau trwsio'r gwaith peryglus eu cynnwys.

Roedd Slocombe wedi pledio'n euog i fod yn rhan o fusnes twyllodrus rhwng Mawrth 2021 a Mai 2023, gan gyflawni'r troseddau tra roedd ar fechnïaeth Llys y Goron.

Dyma oedd y trydydd tro iddo gael ei garcharu am droseddau oedd yn dyddio'n ôl i 2015.

Tŷ Sheri IngramFfynhonnell y llun, Sheri Ingram
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwaith adnewyddu ar gartref Sheri Ingram ei gwblhau yn ddiweddarach gan raglen Cowboy Builders

Yn 2015 cafodd ei garcharu am 43 mis am dair trosedd o dwyll, ac yn 2023 cafodd ddedfryd o bum mlynedd a phum mis ar ôl twyllo saith teulu o £150,000.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ym mis Chwefror fod Slocombe wedi defnyddio'r enw Lee Lewis er mwyn atal ei euogfarnau blaenorol rhag dod i'r amlwg, ac wedi mynd â pheiriannydd nwy ffug oedd heb gymwysterau i ddau eiddo.

Roedd hynny wedi gadael y ddau eiddo mewn "cyflwr a allai fod yn angheuol".

Cafodd hefyd Orchymyn Ymddygiad Troseddol sy'n ei wahardd rhag gwneud gwaith adeiladu, cynnal a chadw neu arddio yn y DU am oes, ac mae wedi'i wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni tan 2031.

Dywedodd Ms Ingram fod angen mwy o amddiffyniad i berchnogion tai gan fod "anghydbwysedd pŵer mor fawr" rhwng adeiladwyr a phobl sy'n adnewyddu eu cartrefi.

"Mae'n gam da i'r cyfeiriad cywir," meddai am gynllun Llywodraeth y DU.

"Mae angen gwell amddiffyniadau yn eu lle."

Ond dywedodd ei bod yn poeni na fyddai adeiladwyr yn gweld digon o reswm i ymuno â chynllun gwirfoddol, gan ychwanegu y byddai'n "disgwyl i'r llywodraeth gymryd cyfrifoldeb pe bai rhywbeth yn mynd o'i le ar ôl defnyddio'r gronfa ddata".

Beth yw'r cynllun newydd?

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu creu cronfa ddata o fasnachwyr dibynadwy a system dalu sy'n cynnig mwy o ddiogelwch i bobl sy'n adnewyddu eu cartrefi.

Bydd yn rhaid i fasnachwyr sy'n ymuno â'r cynllun ddangos eu bod yn cyrraedd safonau penodol o ran gwasanaeth cwsmeriaid, tryloywder a datrys anghydfodau.

Dywedodd y Prif Weinidog Andy Burnham fod adeiladwyr twyllodrus yn "gadael teuluoedd â misoedd o straen" a gwaith heb ei orffen.

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae mwy na chwarter y bobl sydd wedi gwneud gwaith adnewyddu ar eu cartrefi yn ystod y 18 mis diwethaf wedi cael problemau, gan gynnwys adeiladwyr yn diflannu ar ôl derbyn taliadau ymlaen llaw.

Mae ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn awgrymu bod cwsmeriaid wedi colli mwy na £10bn yn 2024 oherwydd colledion, costau rhy ddrud neu arferion annheg ym maes gwaith cynnal a chadw cartrefi a gerddi.

Barry a Shelley Sawkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Barry a Shelley Sawkins yn dweud bod adeiladwr twyllodrus wedi costio mwy na £30,000 iddyn nhw

Mae Barry a Shelley Sawkins o Sir y Fflint ymhlith y bobl sydd wedi cael profiad o gael adeiladwr twyllodrus, ar ôl colli mwy na £30,000 i Christian Williams.

Gadawodd yr adeiladwr eu hestyniad newydd heb ei orffen, gyda dŵr yn tywallt i mewn i'w cartref.

Mae Christian Williams, 54, ynghanol dedfryd o ddwy flynedd o garchar ar ôl cyfaddef i ddwyn a thri chyhuddiad o dwyll yn erbyn pedwar teulu.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Mehefin fod Williams wedi elwa £163,051.70 o'i droseddau, ond mai dim ond £1 y gallai dalu'n ôl oherwydd ei asedau.

Tŷ Barry a Shelley Sawkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae estyniad cartref Barry a Shelley Sawkins yn parhau heb ei orffen dair blynedd ar ôl i'r gwaith ddechrau

Mae'r estyniad ar gartref Barry a Shelley yn parhau heb ei orffen dair blynedd ar ôl i'r gwaith ddechrau, ac mae Ms Sawkins yn dweud bod y profiad wedi "eu creithio am oes".

Maen nhw'n gobeithio symud i Fro Morgannwg yn y pendraw er mwyn bod yn nes at eu merch, unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

"Rwy'n credu y byddai cynlluniau'r llywodraeth yn helpu i roi mwy o hyder i bobl," meddai Ms Sawkins.

Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi codi pryderon am natur wirfoddol y cynllun, gan ddweud bod angen rheoleiddio ar ei ôl.

Dywedodd eu prif weithredwr, Brian Berry, fod ymgyrch y prif weinidog yn gam da ond ei bod yn "bryder gwirioneddol" mai "rhaglen wirfoddol arall yw hi yn unig, heb reoleiddio y tu ôl iddi."

Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast, dywedodd y Gweinidog dros Ddyfodol Gwaith, Kate Dearden: "Rydym am weithredu'n gyflym a rhoi cefnogaeth i bobl cyn gynted â phosibl.

"Wrth gwrs, pe bai'n orfodol, byddai hynny'n cymryd ychydig mwy o amser i ni ei ddatblygu a gweithio ato.

"Ond byddwn yn gwylio hyn yn agos iawn o ran y defnydd a'r effaith mae'n ei chael yn y sector."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.