Undeb athrawon NASUWT yn cefnogi gwahardd ffonau mewn ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu na fydden nhw'n gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae undeb athrawon mwyaf Cymru - NASUWT - yn dweud eu bod yn cefnogi gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion.
Ond ysgolion fydd â'r gair olaf ar ddefnydd ffonau symudol, yn ôl Llywodraeth Cymru, sydd eisoes wedi penderfynu na fydden nhw'n eu gwahardd.
Dywedodd y gweinidog addysg, Anna Brychan AS, fod disgwyl i'r defnydd o ffonau symudol gael ei gyfyngu ond mae'n bosib y bydd y rheolau'n amrywio rhwng ysgolion.
Y gobaith yw y bydd cyngor cenedlaethol newydd yn helpu arweinwyr ysgolion i gymryd "camau cryf" i "ddiogelu" plant a'u hiechyd meddwl.

Bydd ymgynghoriad swyddogol, sy'n cychwyn heddiw, yn gofyn am farn cyrff llywodraethu, penaethiaid a staff ysgolion er mwyn llunio cyngor newydd ynglŷn â rheoli defnydd ffonau symudol.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos effeithiau negyddol defnydd ffonau symudol ar gyrhaeddiad disgyblion a'u lles.
Er bod gan y mwyafrif o ysgolion rhyw fath o reolau i reoli'r defnydd o ffonau yn barod, y gobaith yw y bydd y canllawiau cenedlaethol newydd yma'n rhoi mwy o hyder i ysgolion wrth weithredu.
Ond yn wahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi gwahardd ffonau mewn ysgolion yn Lloegr yn barod eleni, mae Plaid Cymru'n dilyn y gyn-lywodraeth Lafur yng Nghymru drwy beidio â mynd mor bell.
Sut mae cyfyngu'r defnydd o ffonau mewn ysgolion?
Mae'r ymgynghoriad yn awgrymu gwahanol ffyrdd y gallai ysgolion gyfyngu'r defnydd o ffonau gan gynnwys gorfodi disgyblion i gloi eu ffonau mewn pocedi arbennig ar ddechrau'r dydd ac yna eu casglu ar y ffordd adref.
Awgrymiadau eraill yw gorfodi disgyblion i ddiffodd eu ffonau a'u cadw mewn bagiau yn ystod gwersi, neu ganiatáu eu defnyddio yn ystod amseroedd penodol neu mewn mannau penodol ar draws safle'r ysgol.
Mae yna gyngor hefyd i ysgolion ystyried anghenion unigolion sydd angen eu ffonau i helpu trin cyflyrau iechyd penodol, er enghraifft clefyd siwgr.
Mae'r syniad o gyflwyno rheolau llymach ar gyfer y disgyblion ieuengaf a'u llacio wrth iddyn nhw heneiddio hefyd yn rhan o'r awgrymiadau dan sylw.

Mae'r canllawiau hefyd yn dweud y dylai polisïau ffonau symudol ofyn i rieni wneud cais ffurfiol os ydyn nhw am i'w plentyn gael eu heithrio o'r rheolau - gan ddangos tystiolaeth am y rhesymau penodol.
Os oes angen ffonau symudol ar gyfer gweithgareddau addysgiadol, mae gofyn i ysgolion sicrhau bod y dechnoleg briodol ar gael i bawb i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl o dan anfantais.
Yn ôl yr undeb NASUWT Cymru, mae rhai athrawon wedi gweld gwelliant enfawr mewn ymrwymiad ac ymddygiad disgyblion yn ystod eu gwersi.
Mae angen ymateb cenedlaethol i'r broblem yn hytrach na rhoi'r pwysau ar ysgolion unigol i benderfynu, medden nhw.

Dywedodd Jim a Fiona Lloyd y byddai'n gwneud synnwyr i gael un rheol i'r wlad gyfan
Mae Fiona a Jim Lloyd o Dregaron, a gafodd eu holi gan BBC Cymru ar y stryd yng Nghaerdydd, yn gweld y ddwy ochr o ran gwahardd ffonau clyfar, ond fe fydden nhw'n awyddus i weld un rheol ar draws y wlad.
"'Sa ni ddim efo real problem [gyda'u gweld nhw'n cael eu gwahardd yn llwyr]," meddai Fiona.
"'Ma merch 'da ni yn ail flwyddyn yn y chweched yn Llanbed, a maen nhw'n gallu defnyddio fe, achos maen nhw [yr athrawon] yn dweud o hyd i researchio pethau [ar eu ffonau].
"Fi'n gallu gweld ble bydde fe'n broblem i rai blwyddyn saith, wyth.
"Fi'n credu yn Llanbed nawr mae'r chweched yn gallu defnyddio mobiles, ond mae'r rhai o flwyddyn saith ymlaen yn gorfod rhoi nhw yn y pockets 'ma, so dy'n nhw ddim yn cael e wedyn yn y dydd."
Ond dywedodd ei bod yn credu y dylai un rheol gael ei gosod ar gyfer y wlad gyfan, yn hytrach na bod anghysondebau o le i le ar gyfer ysgolion a phenaethiaid gwahanol.
Ysgol yn y gogledd yn defnyddio dyfais i reoli ffonau symudol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
Prifathrawon i gael eu 'hannog yn gryf' i gyfyngu defnydd plant o ffonau
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
'Dwi ddim am wahardd ffonau o'r ysgol, rhaid i blant ddysgu bod yn gyfrifol'
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
Tra'n dweud na fyddai ganddi broblem gweld ffonau'n cael eu gwahardd, ychwanegodd y byddai'n hoff o weld cyfle i ddisgyblion - yn enwedig rhai hŷn - i edrych ar eu ffonau pan nad ydyn nhw yn y dosbarth.
"Chi byth yn gwybod os bydd rhywbeth [yn codi]," meddai Fiona.
"Sai'n gwybod os bydden nhw'n gallu cael e amser cinio neu rywbeth, ond os bod rhywbeth wedi digwydd, o leiaf wedyn byddech chi'n gwybod y bydd hi'n edrych arno fe amser cinio.
"Falle erbyn 15:30 y bydd e'n rhy hwyr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.