Ramsey i redeg marathon Llundain er cof am fachgen chwech oed

- Cyhoeddwyd
Fyddai neb wedi beio Aaron Ramsey am roi ei draed i fyny ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad yn gynharach yn y mis - a hynny ar ôl gyrfa ddisglair ym myd pêl-droed.
Ond, mae cyn-gapten Cymru a chwaraewr canol cae Arsenal wedi ymgymryd â her newydd a dydd Sul mi fydd yn rhedeg Marathon Llundain.
"Dwi'n gyffrous," meddai Ramsey. "Mae hyfforddi wedi bod yn anodd, pan mae 'di bod yn glawio ac mae'n wlyb a gwyntog, mae'n gallu bod yn le reit unig ar adegau.
"Ond dwi 'di mwynhau rywsut bod yn y trenches ychydig bach."
Mae gan Ramsey reswm teilwng iawn dros wynebu her mor fawr ac mor fuan ar ôl ymddeol. Mae'n cefnogi'r elusen, It's Never You, gafodd ei sefydlu gan ei ffrindiau Ceri a Frances Menai-Davis ar ôl iddyn nhw golli eu mab chwech oed, Hugh, i ganser.
Mi fydd Ceri hefyd yn cymryd rhan dydd Sul. Mi fydd e'n cario esgidiau Hugh o gwmpas ei wddf ac mi fydd enwau mwy na 500 o blant sydd wedi cal eu heffeithio gan salwch difrifol ar ei gefn.
"Fel elusen, mae'n agos iawn at fy nghalon," meddai Ramsey. "Dwi'n adnabod Ceri a Fran a'u teulu ac o'n i'n adnabod Hugh yn dda. Mae fy mab hynaf, Sonny, o oedran tebyg ac roedden nhw'n arfer chwarae gyda'i gilydd.
"Alla i ddim dychmygu'r hyn aethon nhw drwyddo a'r hyn maen nhw'n dal i fynd drwyddo - ond maen nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi, fy nheulu ac eraill."
Capten Cymru, Aaron Ramsey yn ymddeol o bêl-droed
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Aaron Ramsey yn ymuno â chlwb Pumas ym Mecsico
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2025
'Paratoi am fy marathon cyntaf wedi rhoi bywyd newydd ar ôl ymddeol'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Roedd Hugh yn bump oed pan gafodd ddiagnosis o ganser rhabdomyosarcoma risg uchel ym mis Hydref 2020. Yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn chwech, bu farw ar 18 Medi 2021.
Fe sefydlodd Ceri a Frances eu helusen er mwyn helpu rhieni eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg.
"Maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel hyd yn hyn ond dwi'n gwybod mai dim ond megis dechrau ydyn nhw," meddai Ramsey.
"Maen nhw wedi cyflawni cymaint, ac mae gweld eu hymgyrch a'u hangerdd i geisio gwneud gwahaniaeth er cof am Hugh yn ysbrydoledig iawn.
"Nawr fy mod i wedi ymddeol, mae'n fy rhyddhau ychydig i allu gwneud pethau fel hyn."
'Bydd e yna gyda fi'
Mae Ceri Menai-Davis, sydd wedi rhedeg y marathon o'r blaen, yn credu bod Ramsey wedi codi mwy na £25,000 i'r elusen - ac mae hynny cyn cyfri'r rhoddion ar gyfer y ras ddydd Sul.
Maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers dros ddegawd ac mae Ramsey wedi ceisio cefnogi'r elusen mewn sawl ffordd - drwy godi arian ond hefyd wrth ddathlu sgorio gôl yn ystod ei yrfa roedd yn gwneud symbol pili-pala er mwyn cynrychioli'r elusen.
Mae tad Hugh, Ceri yn dweud ei fod yn cysylltu gyda'i fab wrth redeg marathonau.
"Llynedd, cariais sach 22 cilogram ar fy nghefn, sef y pwysau oedd Hugh pan fu farw," meddai Ceri.
Gwnaeth hynny "i ddangos faint ydy pwysau galar ar rieni". Fe redodd Ceri marathon Paris gydag esgidiau Hugh ar ei ysgwyddau - yr esgidiau oedd Hugh yn ei wisgo pan gerddodd i'r ysbyty am y tro olaf.
"Ni chafodd [Hugh] weld Paris erioed," felly yn ystod marathon Paris "dangosais i'r Tŵr Eiffel iddo a chafon ni sgwrs yr holl amser".
"Yn Llundain, bydd e yna gyda fi ar fy ysgwyddau a byddwn ni'n croesi'r llinell derfyn gyda'n gilydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.