Cadarnhau arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 74 oed.
Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi cael eu galw i eiddo ar Ffordd Bythway, Trefddyn ger Pont-y-pŵl am 16:55 ar 23 Ebrill yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael anafiadau difrifol.
Cyhoeddodd yr heddlu mai enw'r dyn a fu farw oedd Nicholas "Brian" Parfitt.
Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi cael ei arestio.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd y teulu bod marwolaeth Brian "wedi bod yn sioc i'r teulu a'r gymuned".
"Roedd yn dad a thaid annwyl iawn ac yn uchel ei barch yn y gymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
