'Anodd cynnal' hosbisau Cymru yn sgil sefyllfa ariannol 'fregus'

Nia ar y ward gyda phreswylydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n costio tua £5.6m y flwyddyn i redeg Tŷ'r Eos yn Wrecsam, gyda thua 80% o'r incwm yn deillio o ymdrechion codi arian

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae hosbisau ledled Cymru'n rhybuddio eu bod yn wynebu storm berffaith o ofalu am bobl sydd â gofynion fwyfwy brys a chymhleth, ar adeg pan fo costau'n codi a galw'n dal i gynyddu.

Pob blwyddyn mae hosbisau Cymru yn darparu gofal a chymorth angenrheidiol i 20,000 o oedolion a phlant.

Ond yn ôl y sector, mae'r pwysau cynyddol ar staff, a hefyd yn ariannol, yn gwneud y sefyllfa yn "anodd i'w chynnal".

Dywedodd prif weithredwr un hosbis plant wrth BBC Cymru eu bod wedi dibynnu ar arian wrth gefn er mwyn parhau i gynnal a buddsoddi mewn rhai gwasanaethau.

Irfon Rees
Disgrifiad o’r llun,

Irfon Rees: "'Da ni'n croesawu'r arian 'da ni'n gael o flwyddyn i flwyddyn ond 'da ni'n methu cynllunio'n hirdymor"

Dywedodd Irfon Rees, prif weithredwr hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg, bod y sefyllfa ariannol y sector yn "fregus".

Ychwanegodd bod Tŷ Hafan wedi gorfod defnyddio arian wrth gefn i barhau i fuddsoddi ac i gynnal gwasanaethau, ond "nad oes modd gwneud hynny yn yr hirdymor".

"Ar hyn o bryd mae tua 85% o'n costau gofal ni yn cael ei gyfro gan y cyhoedd yng Nghymru, a be' 'da ni'n ofyn am ydy newid yn y balans yna," meddai.

"Mae hefyd angen setliad mwy hirdymor... 'da ni'n croesawu'r arian [gan Lywodraeth Cymru] 'da ni'n gael o flwyddyn i flwyddyn ond 'da ni'n methu cynllunio'n hirdymor.

"Dwi'n gorfod cynllunio'n ofalus, mae'n hynod bwysig bod ni yma'n hirdymor i'r teuluoedd 'da ni'n eu cefnogi, ond yn anffodus mae 'na hefyd gannoedd o deuluoedd yng Nghymru 'da ni ddim yn ymestyn ddigon pell iddyn nhw ac yn cynnig y gofal maen nhw ei angen.

"Tra dwi ddim yn torri gwasanaethau yn y byr dymor, dwi'n methu buddsoddi ar gyfer yr hirdymor chwaith."

Natalie Ridler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie Ridler (canol) yn dweud bod Tŷ Hafan wedi bod yn gefnogaeth hanfodol i'w theulu ar ôl i'w mab Morgan (dde) farw o ganser yn dair oed

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Natalie Ridler o Abertawe nad yw'n gwybod sut y byddai ei theulu wedi ymdopi heb gefnogaeth Tŷ Hafan ar ôl i'w mab Morgan farw o ganser yn dair oed ym mis Mehefin 2023.

Dywedodd fod Tŷ Hafan wedi camu i mewn pan ddywedwyd wrth y teulu nad oedd mwy y gellid gwneud i Morgan, gan ofyn i'r teulu beth oedd ei angen arnyn nhw.

Yn ôl Natalie, roedd y gofal a gafodd Morgan yn golygu ei fod "wedi gallu marw gydag urddas", gyda'r teulu hefyd yn cael amser gydag ef i baratoi i ffarwelio.

Dywedodd Natalie ei bod hi, ei gŵr Matt a'u merch Rhiannon bellach yn ymweld â Tŷ Hafan pob mis ac yn cefnogi'r elusen, gan ei bod yn gweld pa mor bwysig yw'r gwasanaeth i deuluoedd eraill.

"Mae 'na memorial bach i Morgan a phlant eraill yna a dwi a Matt a Rhiannon yn ymweld ag e bob mis," meddai.

"Heb Tŷ Hafan, sai'n gwybod sut yn union bydden ni wedi ffeindio'r gefnogaeth arbenigol yna."

'Gofynion mwy cymhleth nag erioed'

Mae arolwg newydd gan Hospice UK yn dangos bod pob hosbis erbyn hyn yn gofalu am gleifion sydd â gofynion mwy cymhleth nag erioed.

Mae hefyd yn dangos bod hanner hosbisau Cymru yn pryderu am straen ymhlith staff oherwydd eu bod wedi gorfod gwrthod cleifion a theuluoedd, neu nad ydyn nhw'n gallu treulio digon o amser gyda'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae hosbisau yn ei wneud ledled Cymru" gan weithio at sicrhau "cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau hosbis ledled Cymru".

Nia Gwyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Gwyn Davies yn gwirfoddoli yn Nhŷ'r Eos yn Wrecsam

Mae Tŷ'r Eos yn Wrecsam yn gwasanaethu rhannau helaeth o ogledd-ddwyrain Cymru, ac fel pob hosbis yng Nghymru, yn ddibynnol ar ewyllys da a chodi arian er mwyn cyllido hyd at 80% o'r costau.

Gyda'r ganolfan yn costio tua £5.6m y flwyddyn i'w rhedeg. Yn ogystal â 12 o wlâu ar y safle, mae tua 300 o gleifion allanol yn mynd yno'n rheolaidd.

Ond maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio'n hwyr iawn yn eu salwch, pan fo'u cyflwr eisoes wedi dirywio ac yn gadael llai o amser i gynllunio ar gyfer eu gofal.

Yn ogystal â'r pwysau clinigol o ddydd i ddydd, mae gwirfoddolwyr hefyd wedi sylwi ar yr effaith mae hyn yn ei gael ar deuluoedd a'r gymuned ehangach.

'Meddwl bod hosbis ond yn le i bobl farw'

Mae Nia Gwyn Davies yn llysgennad dros yr hosbis, ac yn dweud nad yw'r cyhoedd wastad yn ymwybodol o holl natur y gwasanaethau.

"Mae pobl yn meddwl bod yr hosbis ond yn le i bobl farw, ond tydi o ddim," meddai.

"Mae 'na gymaint o bethau yn mynd ymlaen yma, 12 'stafell sydd ar y ward a ma' - pob un yn unigol iddyn nhw.

"Mae ganddyn nhw eu 'stafell en-suite eu hunain, a drysau i fewn i'r ardd.

"Mae hi mor heddychlon, ma' hi'n lyfli 'ma.

"Mae gan bobl ofn dod, dy'n nhw ddim yn gwybod be' i ddisgwyl, ond unwaith maen nhw i fewn, maen nhw'n sylweddoli 'mae hwn yn ffab'.

"Mae'r staff yn ffantastig, mae pawb yn cyd-wneud hefo'i gilydd a mae'r teulu i gyd yn cael dod i fewn unrhyw amser."

Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tŷ'r Eos yn Wrecsam yn gwasanaethu rhannau helaeth o ogledd-ddwyrain Cymru

Ond er gwaetha' rôl hanfodol mae'r hosbis yn ei chwarae yn y gymuned, mae Nia yn derbyn bod yr ansicrwydd ariannol yn cael effaith ar y gallu gynllunio.

"Maen nhw'n cael hyn a hyn gan y llywodraeth - mae'n dibynnu o flwyddyn i flwyddyn.

"Mae angen £5.6m y flwyddyn i gynnal Tŷ'r Eos... mae pawb yn 'neud lot i gasglu lot o bres yn yr ardal, ond ambell waith dyw hynny ddim cweit yn ddigon - mae eisiau mwy.

"Dyna fyswn i'n ei dweud wrth y Senedd, 'da ni eisiau mwy o bres i gynnal lle sy' mor bwysig.

"Dy' pobl ddim yn sylweddoli sut mae'n helpu gymaint o bobl."

Dr Liz Booyse
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Liz Booyse bod hosbisau yn rhan "hanfodol" o'r system iechyd

Ategu'r neges mae eraill, sy'n dweud bod pwysau cynyddol "yn dangos yn glir" pam fod angen model ariannu cynaliadwy ar draws Cymru.

Dywedodd Dr Liz Booyse, cadeirydd Hospices Cymru, fod hosbisau yn rhan "hanfodol" o'r system iechyd, ac yn darparu gwasanaeth statudol sy'n helpu cadw pobl allan o'r ysbyty.

Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o hosbisau'n gweithredu gyda diffyg ariannol blynyddol a chronfeydd wrth gefn yn lleihau.

Mae hyn yn golygu bod llawer yn wynebu gorfod gwneud "penderfyniadau anodd".

"Mewn byd delfrydol, bydden ni'n edrych ar £30m ychwanegol o gyllid statudol, yn ychwanegol i unrhyw gyllid statudol arall sydd eisoes yn ei le, dros dymor y Senedd bresennol," meddai.

Angharad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Davies yn galw am fwy o sicrwydd o ran cyllido hosbisau fel Tŷ Gobaith

Dywedodd Angharad Davies, cyfarwyddwr gofal Tŷ Gobaith yn ardal Conwy, bod gofal hosbis yn "angenrheidiol" i'r teuluoedd sy'n derbyn cefnogaeth.

"Mae o'n angenrheidiol iddyn nhw barhau i fod yn deulu, cael rhywun ar ochr arall y ffôn a chael ysbaid pan mae angen a hefyd i gefnogi nhw yn ystod amseroedd caled.

"'Da ni'n ddiolchgar iawn am y grantiau 'da ni wedi cael ond 'da ni angen y sicrwydd.

"Fyswn i'n galw arnyn nhw [Llywodraeth Cymru] i wrando ar deuluoedd a deall y gwasanaethau 'da ni'n darparu sydd angen sicrwydd hirdymor."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Gall gofal da ar ddiwedd oes wneud gwahaniaeth mawr i bobl sydd â salwch sy'n cyfyngu eu bywyd, a'u teuluoedd.

"Rydym yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae hosbisau yn ei wneud ledled Cymru a'r pwysau y mae llawer o ddarparwyr yn parhau i'w hwynebu.

"Fel llywodraeth newydd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi gweithrediad y dull newydd o gomisiynu hosbisau, sy'n ceisio gwella tegwch a chysondeb, yn ogystal â chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau hosbis ledled Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.