Gwahardd y pêl-droediwr Ben Cabango am ddefnyddio ffôn wrth yrru

Mae Ben Cabango yn chwarae i glwb Abertawe a Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr Cymru ac Abertawe, Ben Cabango wedi ei wahardd rhag gyrru ar ôl cyfaddef defnyddio ffôn wrth yrru.
Mewn llythyr i lys ynadon, cyfaddefodd yr amddiffynnwr 26 oed y drosedd wrth yrru car BMW yn Abertawe ar 9 Ionawr eleni.
Bydd Cabango, sy'n byw ym Mro Morgannwg, yn cael ei wahardd am chwe mis ar ôl derbyn chwe phwynt cosb.
Bydd yn rhaid iddo dalu cyfanswm o £1,016, sy'n cynnwys dirwy o £640, gwerth £256 o ordal dioddefwr, a £120 o gyfraniad at gostau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.