'Sioc' teulu bod 'dim casgliadau newydd' o adolygiad marwolaethau brawd a chwaer

Lluniau o Martha Thomas a'i brawd Griff
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n tynnu at 50 mlynedd ers marwolaethau Martha (Patti) Thomas a'i brawd Griff yn eu cartref yn Llangolman, Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Bron i bedair blynedd ers i'r heddlu ddechrau adolygiad fforensig i farwolaethau brawd a chwaer yn Sir Benfro hanner canrif yn ôl, mae perthynas wedi mynegi "sioc" bod yr ymchwiliad yn dod i ben heb unrhyw gasgliadau newydd.

Cafodd Griff a Martha Thomas eu darganfod yn farw yn eu cartref - ffermdy Ffynnon Samson, yn Llangolman - ddechrau Rhagfyr 1976.

Fe lansiodd Heddlu Dyfed-Powys 'Ymgyrch Hallam' ym mis Hydref 2022, gyda'r bwriad o ddefnyddio technegau cyfoes i asesu deunyddiau a gafodd eu casglu fel rhan o'r ymchwiliad i'w marwolaethau.

Yn ôl aelod o'r teulu, Huw Gibby, mae'r heddlu wedi rhoi gwybod nad oes casgliadau newydd gan fod cyflwr y deunyddiau wedi gwaethygu.

Dywed y llu bod "cryn waith cymhleth wedi ei gwblhau", a'u bod wedi "diweddaru'r teulu ynghylch cyfyngiadau adolygu digwyddiad o 50 mlynedd yn ôl".

Daeth cwest yn 1977 i'r casgliad bod Martha Thomas, 70, oedd yn cael ei galw'n Patti, wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon.

Roedd yna ddyfarniad agored yn achos Griff Thomas, 73.

Cafodd yr achos ei drin yn wreiddiol fel achos o lofruddiaeth ddwbl.

Erbyn Ionawr 1977 roedd arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Arolygydd Pat Molloy, o'r farn bod Griff "fwy na thebyg" wedi lladd ei chwaer - o bosib, trwy ei tharo ar ei phen gyda chadair cyn cynnau tân, gorwedd i lawr ac aros i farw.

Ond dyw teulu a chyfeillion y ddau erioed wedi derbyn y casgliad hwnnw, gan gredu bod y ddau wedi cael eu llofruddio.

'Ni allwn gredu mai dyma'r oll maen nhw'n ei gynnig'

Dywed Huw Gibby - aelod o'r teulu a fu mewn cysylltiad â'r heddlu gydol yr adolygiad - ei fod yn "siomedig".

"Ry'n ni mewn bach o sioc oherwydd wedi bron pedair blynedd o aros am wybodaeth, yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn y bôn yw bod yr holl arteffactau, olion bysedd a DNA yn 50 mlynedd oed ac wedi dirywio i'r fath raddau nes na allen nhw wir ddod i fawr o gasgliad."

Ychwanegodd: "A bod yn onest, ry'n ni'n tybio ble ry'n ni'n mynd nesa', ond am ein bod yn teimlo'n mor angerddol y bu camweinyddu cyfiawnder yn y llys crwner gwreiddiol - ry'n ni eisiau gwrandawiad i'n hochr ni o'r stori."

Dywed Mr Gibby eu bod yn ystyried mynd â'u hachos i'r Twrnai Cyffredinol a Chrwner EF, ond na fydd y dyfarniad gwreiddiol yn newid.

"Ni allwn ni gredu, wedi'r holl amser yma, mai dyma'r oll maen nhw'n ei gynnig."

Mae Griff Thomas a'i chwaer Martha wedi eu claddu ym mynwent capel Rhydwilym, ble roedd y ddau yn cyd-addoli
Disgrifiad o’r llun,

Bedd Martha a Griff Thomas ym mynwent Capel Rhydwilym, ble'r oedd y ddau yn cyd-addoli

Mae damcaniaeth arweinydd yr ymchwiliad heddlu, ym marn Mr Gibby, "yn anghredadwy ac mae arbenigwyr yn cytuno".

Roedd Griff Thomas, meddai, "yn wantan iawn... yn wargrwm" ac roedd un llaw "bron â bod wedi cau".

"Ni allai godi cadair bren a thorri penglog ei chwaer trwy ei tharo ar ei phen gyda'r gadair drom 'ma ac yna, ar ôl lladd ei chwaer, gorwedd ar lawr y gegin a rhoi ei hun ar dân," dywedodd.

Mae'r teulu wedi cysylltu â dau arbenigwr, sy'n dweud bod y ddamcaniaeth "yn rhy anghredadwy".

Hen lun du a gwyn o Griff a Martha Thomas yn oedolion ifancFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hen lun o Griff a Martha Thomas yn oedolion ifanc

Credai'r teulu bod Patti Thomas wedi cael ei llofruddio gan rywun yr oedd hi'n ei adnabod ac a wyddai bod arian yn cael ei gadw yn y tŷ - roedd dau gwpanaid o dê ar fwrdd y gegin.

Roedd Griff Thomas, meddai Mr Gibby, wedi bod i siop ble y prynodd bapur newydd a chaws, ac roedd yn dal â'i gôt ymlaen pan gafodd ei gorff ei ganfod.

Yn ôl y teulu doedd dim esboniad yn ystod yr ymchwiliad heddlu gwreiddiol pam bod Griff Thomas ag anaf difrifol i'w ben.

Ychwanegodd Huw Gibby fod ffotograffau'r heddlu o'r gegin yn ei feddiant "ac maen nhw'n erchyll i'w gweld - roedd yn gyflafan, yn y bôn".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.