Main content
Enfys Hatcher - enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026
Enfys Hatcher (Tafarn Y Vale) yw enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026 - am delyneg orau'r gyfres. Testun y delyneg yw 'Gweithdy' ac mae’r delyneg yn darlunio’n gynnil iawn natur galar a hiraeth ar ôl colli tad. Dwynwen Llywelyn sy’n darllen y gerdd.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gweithdy
Twriaf yn y pic-a-mics
o sgriwiau a bolltiau
yn nroriau’r cawdel.
Bydd e ‘ma rhywle...
Arogl weldio’n dew,
yn glynu i ‘nillad,
anhrefn cyfarwydd
y silffoedd yn fy meddwi.
Mae e ‘ma rhywle...
Mygiau gwag
yn rhes ar ffenest,
â’r olion olew’n bodio’r cof.
Eisteddaf
ar hen focs-tŵls,
ac yng ngwres y sbarcs,
yn sŵn y morthwyl,
yn atsain ddoe
...rhywle, mae e ‘ma.
Dwynwen Llywelyn yn darllen gwaith Enfys Hatcher





