Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Rhys Iorwerth - enillydd Tlws Coffa Dic Jones 2026

Y Talwrn

Available for over a year

Rhys Iorwerth (Dros yr Aber) yw enillydd Tlws Coffa Dic Jones, a hynny am gywydd gorau’r gyfres. Y testun - 'Meini neu Maen'. Dyma gywydd o’r rownd derfynol. Meini neu Maen (Er cof am Robin Evans, Madryn, Lôn Ddewi, fy nghymydog a ffrind) Be yw’r haf a hwnnw’n brin o rywbeth? Mae’n wag, Robin, yn ddiarth ar Lôn Ddewi, yn od iawn am na ddoi di at y lawnt i ddweud helô. O Fadryn, er hyn, heno daw miwsig drwy gerrig gwyn. Daw’r wên gadarn. Ac wedyn, hyd y dre, tros bafin stryd, ar fur fe ddaw o’r Foryd dy heulwen-môr o stori. Dyna’r haf, mi fentraf i. Rhys Iorwerth

Programme Website
More episodes