Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol cynllun gorsaf radar Penfro

Dyma'r math o ddysglau a fyddai'n cael eu gosod ar dir Barics CawdorFfynhonnell y llun, US Space Force
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r math o ddysglau a fyddai'n cael eu gosod ar dir Barics Cawdor

  • Cyhoeddwyd

Dywed ymgyrchwyr yn Sir Benfro eu bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn y cynllun dadleuol i osod gorsaf radar ym Mreudeth yn Sir Benfro.

Roedd disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro benderfynu ar gamau nesaf DARC ddiwedd y mis ond bellach fe gyhoeddodd Siân Gwenllian AS, y Gwenidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud hynny.

Rhwydwaith radar ydy DARC ar y cyd rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia sy'n darparu monitro byd-eang o'r gofod, ac sy'n cynyddu'r gallu i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn ddwfn yn y gofod.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn ydy codi 27 o ddysglau radar, 20 metr o uchder a 15 metr o led, ar safle Barics Cawdor.

Mae'r safle'n agos iawn at Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl ymgyrchwyr yn erbynFfynhonnell y llun, PARC
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn

Ar ran yr ymgyrchwyr dywedodd llefarydd: "Mae Siân Gwenllian wedi gwneud y penderfyniad cywir yma, ac mae DARC ymhell o fod yn brosiect seilwaith nodweddiadol.

"Mae ei oblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu ei fod yn codi materion sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r broses gynllunio leol ac mae angen iddo gael ei ystyried ar lefel Llywodraeth Cymru."

Yn y llythyr i Gyngor Sir Penfro dywed y gweinidog: "Mae'r datblygiad arfaethedig yn codi materion diogelwch cenedlaethol o ystyried natur strategol y cynnig o ran amddiffyniad, ac mae'n fater cynllunio newydd.

"Gallai'r cynnig fod yn groes i bolisi cenedlaethol mewn perthynas â thirwedd, ecoleg a chynaliadwyedd.

"Gallai penderfyniad ar y cynnig fod yn ddadleuol y tu hwnt i'r ardal leol uniongyrchol, ac mae cryn ddiddordeb cyhoeddus yn y cynnig eisoes.

"Oherwydd yr holl faterion hyn, mae'r Gweinidog Cabinet wedi dod i'r casgliad bod y datblygiad o bwysigrwydd sy'n mynd y tu hwnt i lefel leol, ac y dylai'r cais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru."

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw pellach.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i ddatblygu'r cais cynllunio er mwyn cydymffurfio â'r rheolau a gofynion yng Nghymru.

"Dyma fydd yr achos o hyd wrth i weinidogion Cymru nawr ystyried y cais."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol