Datgan sychder i hanner Cymru gyda disgwyl y Gorffennaf sychaf ers 190 mlynedd

- Cyhoeddwyd
Mae statws o sychder wedi ei ddatgan i hanner Cymru yn dilyn wythnosau o dywydd poeth a sych.
Mae'n effeithio ar ardaloedd yng Ngwynedd, Ynys Môn, Dyfrdwy, Clwyd a Hafren Uchaf, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r holl ddalgylchoedd sy'n weddill ar draws de a gorllewin Cymru wedi cael eu newid o statws 'arferol' i statws 'cyfnod hir o dywydd sych'.
Ar ben hynny, mae lefelau sawl afon yn agosáu at eu hisaf ar gofnod, ar ôl i'r wlad weld tua 5% yn unig o'r glaw sydd i'w ddisgwyl ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf, wedi sawl ton o wres a chyfnod sychach na'r arfer ers mis Ebrill.
Rhybuddiodd Afonydd Cymru bod llif isel sawl afon yn achosi "problemau sylweddol" i fywyd gwyllt, tra bod undebau amaeth yn dweud bod cnydau'n methu a da byw o dan straen.
Dywedodd Rhian Thomas o CNC bod y "cyfnod hir o dywydd sych a phoeth rydyn ni wedi bod yn ei gael yr haf hwn bellach yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ar draws rhannau o Gymru".

Mae hanner gogleddol Cymru mewn sychder swyddogol, a gweddill y wlad mewn statws 'cyfnod hir o dywydd sych'
Esboniodd CNC eu bod wedi gwneud y penderfyniad "yn dilyn tywydd poeth a sych parhaus dros yr wythnosau diwethaf".
"Mae'n debygol mai dyma fydd y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers bron i 190 mlynedd, os na fydd glawiad sylweddol yn cyrraedd cyn diwedd y mis."
Dywedon nhw hefyd bod sawl ardal yn y gogledd lle nad oes "glawiad sylweddol" wedi bod ers 6 Gorffennaf.
"Er bod cwmnïau dŵr yn adrodd bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach ar y cyfan, mae CNC yn annog pobl i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
"Mae pob diferyn sy'n cael ei arbed yn helpu i leihau'r pwysau ar yr amgylchedd yn ystod cyfnodau sych."
Beth mae statws sychder yn ei olygu go iawn?
Fe gyhoeddodd CNC yr wythnos diwethaf fod gogledd a de ddwyrain Cymru yn symud i statws 'cyfnod hir o dywydd sych' - y cam cyn datgan sychder swyddogol.
Roedd hynny'n arwain at fwy o fonitro a phrofi afonydd ac ardaloedd o bwys i fywyd gwyllt, gyda chyngor hefyd i ffermwyr a busnesau sy'n tynnu dŵr o afonydd.
Bellach, mae Cymru gyfan o dan amodau cyfnod hir o dywydd sych neu sychder.

Cae sych yn ardal Llanedwen, Ynys Môn, ddydd Iau
Ymysg yr afonydd sydd â lefelau eithriadol o isel o ddŵr mae afonydd Clwyd, Alwen, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy a'r Gwy.
Mae dŵr ychwanegol yn cael ei ryddhau o gronfeydd, er mwyn cynnal llif afonydd Clwyd a Gwy, yn ogystal ag afonydd Hafren a Dyfrdwy.

Mae rhai o afonydd Cymru (Elwy uchod) yn agosáu at eu lefelau isaf ar gofnod
Mae afonydd yn "disgyn i lefelau eithriadol o isel, dŵr daear yn parhau i ddirywio, ac adroddiadau cynyddol am effeithiau amgylcheddol sy'n effeithio ar fywyd gwyllt, pysgodfeydd, ffermio a chynefinoedd sensitif"
"Mae'r tanau gwyllt diweddar... yn un o'r arwyddion mwyaf clir a gweladwy o ba mor sych yw ein tirweddau ni ar hyn o bryd."
Dywedodd nad yw statws sychder yn "golygu prinder dŵr i gwsmeriaid yn awtomatig", ond ei fod yn "adlewyrchu'r pwysau cynyddol ar ein hamgylchedd".
"Rydyn ni'n gofyn i bawb chwarae eu rhan drwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i amddiffyn adnoddau naturiol Cymru yn ystod y cyfnod eithriadol o sych hwn."

Mae sychder amgylcheddol yn golygu prinder dŵr mewn afonydd ac yn y pridd, gan effeithio ar ecosystemau
Nawr bod rhai o'r dalgylchoedd yma'n symud i statws o sychder amgylcheddol, bydd yn golygu bod prinder dŵr yn yr afonydd ac yn y tir, gyda phriddoedd sych hefyd yn cael effaith niweidiol ar ecosystemau.
Nid yw'n golygu bod bygythiad i ddŵr yfed a chyflenwadau i gartrefi a busnesau ar hyn o bryd. Mae cyhoeddiadau o'r fath yna yn dod gan gwmnïau dŵr.
Ond mae'r datganiad o sychder yn golygu neges gryfach i'r cyhoedd ar arbed dŵr, er mwyn lleihau'r pwysau ar afonydd a chronfeydd sy'n cynnal bywyd gwyllt, cynefinoedd a'r pridd.
"Wrth fwynhau'r awyr agored, gofynnir i bobl fod yn ymwybodol bod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan straen ychwanegol, ac i gymryd gofal ychwanegol i atal tanau," meddai CNC.
"Dylai unrhyw un sy'n gweld tanau gwyllt symud i leoliad diogel a ffonio 999 ar unwaith."

Mae'r ffynnon y mae'r ffermwr Tudur Roberts yn dibynnu arni wedi mynd yn sych
Mae Tudur Roberts, sydd â fferm 250 erw ym Metws-yn-Rhos, ger Abergele, yn dweud bod y tywydd sych wedi cael "effaith fawr iawn" a'i fod yn gorfod mynd i'r pentref i gael dŵr i'w anifeiliaid.
"Dwi'n cario dŵr i fyny o'r pentre' agosaf i'r gwartheg. 'Da ni ar ffynnon ac mae'r ffynnon 'di mynd yn sych," meddai.
"Mae 'na un spring bach sy'n rhedeg ond 'di hwnna ddim yn ddigon i gadw'r gwartheg."
Dywedodd bod ei fferm yn "sych ofnadwy" a bod hynny'n creu "lot o waith" iddo.
"Llynedd o'n i'n meddwl oedd hynna reit ddrwg ond mae 'leni'n waeth byth. 'Da ni'n fis yn gynt o lawer na be oedden ni llynedd," meddai.
"'Di'r cyhoeddiad ddim yn syndod, 'da ni mewn sychder ers dros bythefnos wan. Mae'n andros o ddifrifol ond mae'n rhaid i ni just plod on."

Caeau amaethyddol sych yn Llanrhuddlad ar Ynys Môn ddydd Mercher
Dywedodd Gail Davies-Walsh, pennaeth Afonydd Cymru, fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd.
"Mae'r diffyg glaw a lleihad yn llif afonydd wir yn dechrau gwaethygu ansawdd dŵr," meddai.
"Ry'n ni'n barod wedi cael cwpl o afonydd sydd wedi sychu'n llwyr a ry'n ni'n derbyn adroddiadau o bysgod sydd wedi marw oherwydd prinder dŵr."
Mae tymereddau'r dŵr hefyd yn arwain at bryderon am fywyd gwyllt, gyda thymereddau mor uchel â 28C wedi'u cofnodi yn afonydd Gwy ac Wysg.
'Deall y rhwystredigaeth yna'
Dywedodd MS Davies-Walsh ei bod yn poeni bod rhwystredigaeth pobl gyda chwmnïau dŵr am garthffosiaeth a phibellau'n gollwng yn golygu eu bod nhw'n llai tebygol o wrando ar gyngor ynglŷn â bod yn ofalus a'u defnydd o ddŵr.
"Dwi'n edrych ar yr holl sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a dwi'n deall y rhwystredigaeth yna," meddai.
"Ond mae wir angen i ni feddwl am y ffaith bod ein defnydd ni o ddŵr yn effeithio'n uniongyrchol ar y llif yna yn yr afonydd ac yn effeithio yn uniongyrchol ar bysgod a gallu bywyd gwyllt i oroesi."

Dywedodd Gail Davies-Walsh fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd
Pwysleisiodd Dŵr Cymru fod datganiadau sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn wahanol i'w cyhoeddiadau nhw am brinder dŵr.
Mae'r cwmni eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr ar gyfer 33,000 o dai yng ngorllewin Cymru.
"Mae statws sychder CNC yn adlewyrchu amodau amgylcheddol, gan gynnwys ffactorau megis glawiad, llif afonydd a lefelau dŵr daear," meddai llefarydd.
"Mewn cyferbyniad, mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro Dŵr Cymru yn fesur gweithredol sy'n seiliedig ar y galw lleol am ddŵr a'n gallu i ailgyflenwi cronfeydd gwasanaeth â dŵr yfed ar yr un gyfradd, neu'n gyflymach nag y mae cwsmeriaid yn defnyddio'r dŵr.
"Caiff hyn ei yrru gan allu'r gweithfeydd trin dŵr lleol a'r rhwydwaith dosbarthu i ymdopi â'r galw parhaus.
"Mae hyn yn golygu y gall gwahanol rannau o Gymru wynebu pwysau gweithredol gwahanol, hyd yn oed os nad ydynt yn yr un categori sychder amgylcheddol sydd wedi ei ddatgan gan CNC."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.