Treth y cyngor: Ystyried a ddylid bwrw ymlaen â newidiadau

Mae biliau treth y cyngor yn dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 2003
- Cyhoeddwyd
Nid yw'n glir a fydd llywodraeth Plaid Cymru yn parhau â'r ailbrisio a gynlluniwyd ar gyfer cartrefi fel rhan o ddiwygio treth y cyngor yn 2028, neu'n rhoi'r gorau i'r syniad.
Dywedodd Siân Gwenllian, y gweinidog llywodraeth leol, fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddai'n bwrw ymlaen.
Dywedodd mai cyfrifoldeb y gweinidog cyllid Elin Jones oedd y penderfyniad ac y byddai trafodaethau'n cael eu cynnal ar y "camau nesaf".
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru a oedd wedi ymrwymo i ailbrisio, ond ni atebodd llefarydd y cwestiwn yn uniongyrchol, gan ddweud ei bod wedi ymrwymo i wneud treth y cyngor yn "decach".
Gwnaeth Plaid Cymru yr un addewid yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd, a nododd nad oedd y system bresennol "wedi'i diwygio ers tro byd".
Roedd diwygio treth y cyngor hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y llywodraeth Lafur flaenorol a Phlaid Cymru, pan oedd Plaid Cymru yn wrthblaid.

Cadarnhaodd Siân Gwenllian hefyd y byddai gweinidogion yn adolygu'r rheolau treth ar gyfer llety hunanarlwyo
Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Iau, dywedodd Siân Gwenllian: "Mae diwygio treth y cyngor ym mhortffolio'r gweinidog cyllid ac yn amlwg byddaf yn cael trafodaethau gyda hi ynghylch beth yn union fydd ein camau nesaf ar hynny."
Pan ofynnwyd iddi egluro polisi'r blaid ac a oedd wedi ymrwymo i ailbrisio yn 2028, dywedodd: "Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n edrych arno'n weithredol ar hyn o bryd, ac nid yw'r sgyrsiau hynny wedi digwydd yn fanwl eto, felly fe gewch chi wybod yn fuan am hynny i gyd."
Aeth ymlaen i ddweud nad oedd y system bresennol yn deg a'i bod yn cael ei chydnabod fel "cyfundrefn anflaengar".
Mae gan ddiwygio'r dreth y potensial i achosi problemau i wleidyddion.
Disgrifiodd ffynhonnell llywodraeth leol hi fel "gêm swm sero glasurol" lle mae "pawb sy'n ennill yn aros yn dawel a'r rhai sy'n colli yn mynd yn wallgof".
Prisiau eiddo 2003
Wedi’i sefydlu yn y 1990au cynnar, mae treth y cyngor wedi cael ei beirniadu ers tro am fod yn annheg oherwydd ei bod yn seiliedig ar brisiau eiddo – nid ar allu pobl i dalu.
Gwnaed yr ymarfer ailbrisio eiddo diwethaf yn 2003, ac ers hynny maent wedi cynyddu'n sylweddol o ran gwerth, ond gohiriwyd cynlluniau i ailbrisio yn 2024 gan y llywodraeth Lafur flaenorol ar ôl ymgynghoriad.
Arweiniodd y penderfyniad at feirniadaeth ar y pryd gan Blaid Cymru, economegwyr a grwpiau defnyddwyr.
Fodd bynnag, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth yn ymrwymo i ailbrisio yn 2028, felly byddai angen pleidlais arall ar unrhyw newid i'r gyfraith.
O dan y cynigion, gellid creu bandiau eiddo newydd.
Y syniad mwyaf radical fyddai gweld y rhai mewn bandiau is yn talu llai a'r rhai mewn bandiau uwch yn talu mwy.
Pan ofynnwyd a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ailbrisio yn 2028, dywedodd llefarydd: "Mae'r llywodraeth newydd yn symud yn gyflym i sefydlu blaenoriaethau a rhoi'r sylfeini cywir yn eu lle.
"Mae gwneud treth y cyngor yn decach yn ymrwymiad rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif, a byddwn ni'n nodi ein dull yn fuan.
"Rydyn ni eisiau gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, gwrando ar gymunedau ledled Cymru, ac adeiladu system sy'n wirioneddol decach – ac mae hynny'n gofyn am baratoi priodol.
"Mae cael diwygiadau'n iawn yn bwysicach na'u gwneud yn gyflym.
"Byddwn ni'n agored ynglŷn â'n cynnydd ac yn dryloyw gyda phobl Cymru wrth i'r gwaith hwn ddatblygu."
Dywedodd Siân Gwenllian hefyd y byddai corff newydd, annibynnol o'r enw Unnos yn edrych ar ffyrdd "arloesol" o ariannu adeiladu cartrefi cymdeithasol er mwyn helpu i gyrraedd targed y llywodraeth o 20,000 erbyn 2030.
Meddai: "Er enghraifft, mae Cronfa Bensiwn Cymru. Mae awdurdodau lleol sydd bellach yng Nghymru yn cronni eu cronfeydd pensiwn gyda'i gilydd.
"Gellid defnyddio hynny i fuddsoddi mewn cartrefi cymdeithasol yng Nghymru."

Dywedodd ffynhonnell llywodraeth leol bod "pawb sy'n ennill yn aros yn dawel a'r rhai sy'n colli yn mynd yn wallgof"
Cadarnhaodd Siân Gwenllian hefyd y byddai gweinidogion yn adolygu'r rheolau treth ar gyfer llety hunanarlwyo.
Rhaid i eiddo fod ar gael am 252 diwrnod ac, ar ôl newid yn 2025, rhaid eu gosod allan am gyfartaledd o 182 diwrnod dros sawl blwyddyn i dalu trethi annomestig yn lle treth y cyngor uwch.
Dywedodd y gweinidog y byddai'r trothwy 182 diwrnod yn cael ei adolygu ynghyd â mesurau eraill a gyflwynwyd i geisio mynd i'r afael â "phroblemau ail gartrefi".
Dywedodd: "Felly byddwn ni nawr yn edrych yn fanwl ar y mesurau a gyflwynwyd.
"Byddwn ni'n gweld beth sy'n gweithio mewn gwirionedd, beth sydd ddim yn gweithio, ac a oes angen i ni fynd ymhellach gyda rhai o'r polisïau.
"Felly mae hynny i gyd yn destun trafodaeth ac yn destun adolygiad."
'Dio ddim yn dreth teg'
Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd Huw Evans sy'n gyn-arweinydd annibynnol Cyngor Sir Ddinbych fod angen edrych ar y "pictiwr mawr" i ddatblygu'r economi.
"Does na ddim hyder gan ddatblygwyr i buildio tai gan fod y polisïau ddim yn helpu'r economi i ddatblygu. Felly dwi'n meddwl y man cychwyn ydy buildio mwy o dai, datblygu'r economi a wedyn neith yr economi gryfhau.
"Mae na lot o dai wedi cael eu buildio yn y patch dwi'n gynrychioli a dydy'r polisïau ddim yn helpu pobl lleol i gael y tai yna. Ma 'na lot o bolisïau sydd ddim o blaid bobl lleol a dwi'n meddwl ma' rhaid i ni ailedrych ar hyn, 'di o jyst ddim am yr arian, mae o am y polisïau hefyd."
Dywedodd Mr Evans fod o'n falch fod yna drafodaeth am y dreth.
"'Di hi ddim yn dreth deg, di gwerth y tŷ ddim yn adlewyrchu yr incwm sy'n dod i fewn i'r tŷ yna, ond ma na risgiau mawr, dwi'n meddwl 'di hwnna ddim ond yn hanner yr her mewn ffordd.
"Mae llywodraeth lleol rwan 'ma - dydan nhw ddim yn gynaladwy, a dim y treth cyngor ydy'r ffordd gorau dwi'n meddwl i ariannu gwasanaethau cyhoeddus ar ben ei hun.
"Dwi'n meddwl bod isio trafodaeth ac isio edrych ar y rhifau o gynghorau sir sydd yna.
"Ma' costau cynnal cyngor sir wedi mynd fyny mor ofnadwy rwan a mae'r cyhoedd yn talu lot mwy o drethi a chael llai o wasanaethau,"
Dywedodd Bronwen Morgan, cyn-brif weithredwr Cyngor Ceredigion ar Dros Frecwast fore Gwener fod angen adolygu'r sefyllfa achos bod "bron chwarter canrif ers yr adolygiad diwethaf o werth" a'i bod "o bosib, ddim y system decaf oherwydd ei bod wedi ei seilio ar bris eiddo yn hytrach nag ar y gallu i dalu".
"Ond eto, mae'r sefyllfa yng Nghymru, ar y cyfan, yn well na Lloegr. Os ydy Siân Gwenllian yn cyfeirio'r mater at y gweinidog cyllid mae'n gyfle i edrych ar strategaeth integredig o wahanol drethi fel y dreth trosglwyddo tir, treth y cyngor, treth busnesau ac edrych efallai am strategaeth fwy integredig," ychwanegodd.
Treth y cyngor: Faint mae fy mil yn cynyddu?
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2024
Gallai treth y cyngor godi i 470,000 o gartrefi
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
Treth Cyngor i godi er mwyn 'diogelu gwasanaethau'
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
Dywedodd yr AS Llafur Huw Thomas - cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd - fod safbwynt y llywodraeth yn "syfrdanol" o ystyried bod Plaid Cymru wedi pwyso am ailbrisio yn gynt pan roedden nhw'n wrthblaid.
"Nawr dyw'r llywodraeth Plaid Cymru, oedd wedi dweud eu bod eisiau newid y system treth y cyngor, ddim yn gallu dweud a ydyn nhw am fwrw ymlaen â'r amserlen bresennol," meddai.
Ychwanegodd llefarydd Reform ar lywodraeth leol, Francesca O'Brien fod "ansicrwydd Plaid Cymru ar newid treth y cyngor yn dangos methiant o ran gwneud penderfyniadau".
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Peter Fox, yn galw ar Blaid Cymru i beidio ag ailbrisio, ag yn hytrach "canolbwyntio ar helpu teuluoedd i gadw mwy o'u harian".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.