Y pêl-droediwr o'r Ariannin a fyddai wrth ei fodd yn chwarae dros Gymru

Jeremias James yn ymarfer gyda'i glwb Magallanes yn Chile. Ffynhonnell y llun, Jeremias James
Disgrifiad o’r llun,

Mi gafodd Jeremias James ei eni a'i fagu yn ninas Trelew

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae yna hanes a chysylltiad arbennig wedi bod rhwng Cymru a'r Ariannin ers dros 150 o flynyddoedd.

Yn 1865 mi oedd yna tua 160 o Gymry ar fwrdd llong y Mimosa aeth draw i Batagonia i sefydlu Y Wladfa, a chreu rhywle i gadw'r iaith, eu diwylliant, a'u crefydd yn rhydd rhag dylanwad Seisnig.

Mae'r Gymraeg dal i gael ei siarad yno, tra fod dros 50,000 o drigolion Patagonia o dras Cymreig.

Un o'r rheini yw Jeremias James.

Jeremias James yn chwarae i glwb Magallanes yng nghynghrair Primera B yn Chile.Ffynhonnell y llun, Jeremias James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremias James yn chwarae i glwb Magallanes yn Chile

Mi gafodd Jeremias ei eni a'i fagu yn Nhrelew, dinas gafodd ei sefydlu gan y Cymro Lewis Jones yn 1886.

Mae'r ddinas yn nhalaith Chubut - mae'r Gaiman, Dolafon, Porth Madryn a Trefelin hefyd wedi eu lleoli yno.

"Dwi'n rhan o deulu Cymraeg a symudodd i dde Ariannin a setlo yno," meddai Jeremias mewn cyfweliad arbennig â BBC Cymru.

"Mae pum cenhedlaeth o fy nheulu wedi eu geni yn Trelew, a dyna lle maen nhw wedi ymgartrefu ers blynyddoedd maith bellach."

Yn dilyn y fordaith gyntaf i Batagonia yn 1865, gwelwyd mewnlifiad pellach o ymfudwyr Cymraeg.

Daeth rhai llongau o Gymru, ac eraill o'r Unol Daleithiau lle'r oedd Cymry wedi symud draw yno i ffermio.

"Wrth edrych ar hanes fy nheulu yr aelod cyntaf i deithio draw i Batagonia oedd William James ar long o'r Unol Daleithiau.

"David Stephen James oedd yr aelod cyntaf o'r teulu i gael ei eni yn Yr Ariannin, a fo felly yw fy hen, hen daid.

"Mae fy hen daid, taid, dad a fi wedyn wedi cael ein geni yn Trelew.

"Mi gafodd y tir yn Chubut ei roi i fewnfudwyr o Gymru, ac mae fy nheulu dal i fyw yno heddiw. Mae'r tir yna yn perthyn i ni."

Darlun ar y wal yn Ysgol yr Hendre yn Trelew yn Yr ArianninFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a Sbaeneg yn Ysgol yr Hendre yn Trelew

Yn ogystal â'i wreiddiau Cymraeg, mae gan Jeremias stori bersonol bwerus i'w hadrodd.

Pan oedd yn naw mlwydd oed mi gafodd wybod fod ganddo lewcemia, ac mi fu'n rhaid iddo symud i Buenos Aires i gael triniaeth.

"Mi oedd yn rhaid i fi gael triniaeth am tua dwy flynedd cyn cael dychwelyd i Trelew, ac wedyn yn araf deg bach cael dechrau byw bywyd arferol unwaith eto."

Ar ôl gwella fe ddechreuodd chwarae i dimau ieuenctid yn Chubut cyn iddo gael ei sgowtio gan academi San Lorenzo yn Buenos Aires, sef un o'r clybiau mwyaf yn Yr Ariannin.

Ar ôl chwarae ei gêm gyntaf i San Lorenzo ym mhrif adran Yr Ariannin yn 2022 fe dreuliodd gyfnodau ar fenthyg gyda chlybiau Barracas Central, Deportivo Riestra ac Alvarado.

Bellach yn 25 mlwydd oed mae'n chwarae i Magallanes yn Chile, ac fe ymunodd â nhw'n barhaol yn gynharach eleni wedi cyfnod llwyddiannus ar fenthyg yno.

Chwarae dros Gymru yn opsiwn?

Er y cysylltiadau Cymreig cryf, mae'n annhebygol fod Jeremias ar gael i chwarae dros Gymru.

Mae rheolau FIFA yn mynnu fod yn rhaid i rieni neu neiniau a theidiau fod wedi cael eu geni yn y wlad y maen nhw am ei chynrychioli.

Ond er nad yw'r rheolau presennol yn gweithio o'i blaid, maen awyddus i gael gwybod mwy am hanes ei deulu.

"Mi ges i fy ngeni a fy magu yn Yr Ariannin, ond yn amlwg dwi wedi bod yn ymwybodol o'r cysylltiad Cymreig ers amser hir," meddai Jeremias.

"Fel pêl-droediwr mae'n rhywbeth gwbl naturiol bod â diddordeb i chwarae i dîm cenedlaethol os oes cysylltiadau teuluol.

"I ddechrau mi fyswn i wrth fy modd yn ymweld â Chymru. Dwi erioed wedi cael y cyfle i fynd yno, a mi fyswn i wrth fy modd yn cael y cyfle i edrych mewn yn ddyfnach i hanes fy nheulu.

"Mae hynny'n freuddwyd i mi, a dwi'n siŵr y byddai'n gallu gwireddu'r freuddwyd yna ryw ddiwrnod.

"Ac wrth gwrs tase 'na gyfle i chwarae yng Nghymru, boed hynny i'r tîm cenedlaethol neu i glwb, mi fydde hynny'n rhywbeth arbennig."

Jeremias James yn chwarae i glwb Magallanes yng nghynghrair Primera B yn Chile.Ffynhonnell y llun, Jeremias James
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Jeremias James â Magallanes o glwb San Lorenzo yn Yr Ariannin

Yn amddiffynnwr canol troed chwith, mae Jeremias hefyd yn gryf yn yr awyr.

Mae wedi chwarae yn rheolaidd i Magallanes y tymor yma wrth iddyn nhw geisio ennill dyrchafiad yn ôl i'r brif adran yn Chile.

"Dwi wedi bod yn amddiffynnwr canol erioed, a dwi wedi mwynhau chwarae yno," esboniodd Jeremias.

"'Da ni wedi bod yn lwcus yn Yr Ariannin dros y blynyddoedd diwethaf i gael tîm cenedlaethol llwyddiannus, gydag amddiffynnwyr gwych.

"Dwi wedi edmygu chwaraewyr fel Cristian Romero a Nicolas Otamendi ers blynyddoedd maith."

Mae'n annhebygol y bydd Jeremias yn cael y cyfle i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol fel rhai o'i arwyr.

Ond mae rheolau yn gallu newid yn y byd pêl-droed, ac os y bydd hynny'n digwydd mi fydd yn sicr yn cael ei groesawu gan y gymuned Gymraeg yn Chubut.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.