Crwban prin yn cychwyn ar daith 5,000 o filltiroedd adref ar ôl ei achub ym Môn

Rhossi mewn tanc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhossi yn cychwyn ar daith o tua 5,000 o filltiroedd yn ôl i'w gynefin yng Ngwlff Mecsico

  • Cyhoeddwyd

Mae crwban môr prin a gafodd ei ganfod ar draeth yn Ynys Môn bron yn farw yn cael ei hedfan tua 5,000 o filltiroedd yn ôl i Gwlff Mecsico.

Mae Rhossi, crwban môr Kemp's ridley, wedi cael gofal gan staff Sw Môr Môn ers iddo gael ei ddarganfod ym mis Rhagfyr 2023.

Mae ymgyrch gafodd ei chynllunio'n fanwl bellach ar waith i'w ddychwelyd ar draws Cefnfor yr Iwerydd.

Er mwyn sicrhau nad yw'n sychu yn ystod y daith, bydd ei groen a'i gragen yn cael eu gorchuddio â KY Jelly a Vaseline.

Rhossi yn cael ei bwysoFfynhonnell y llun, Sw Môr Môn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhossi archwiliadau iechyd a'i bwyso cyn dechrau'r daith adref

Dywedodd Matt Davidson, curadur Sw Môr Môn, fod angen cadw'r gragen wedi'i lleithio er mwyn atal iddi sychu a chracio.

"Ar gyfer ei groen, rydyn ni'n defnyddio KY Jelly - sy'n fwy adnabyddus fel jeli iro (lubricant) rhyw - oherwydd ei fod yn dyner ar y llygaid," meddai Matt Davidson, curadur Sŵ Môr Ynys Môn.

Bydd Rhossi yn teithio allan o'r dŵr, yn gyntaf mewn hofrennydd o Ynys Môn i Lundain ac yna ar awyren cargo i Houston yn nhalaith Texas.

Mae wedi cymryd bron i ddwy flynedd i drefnu'r daith. Maen nhw wedi adeiladu blwch arbennig hefyd sy'n rheoli'r tymheredd ar gyfer Rhossi ac roedd llawer o waith papur i'w lenwi.

Rhossi pan gafodd ei ganfod ar draethFfynhonnell y llun, Sw Môr Môn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhossi ei ganfod bron yn farw ar draeth ger Rhosneigr ym mis Rhagfyr 2023

Dywedodd Mr Davidson fod angen ail-osod yr haen o jeli iro ar groen a llygaid Rhossi cyn iddo fynd yn y blwch ac eto cyn i'r awyren godi er mwyn atal ei groen rhag sychu, sy'n golygu bod angen cwblhau'r daith cyn gynted â phosibl.

Ychwanegodd ei fod wedi gorfod egluro wrth staff fferyllfa pam ei fod yn prynu "tua wyth tiwb o KY Jelly a thri thwb o Vaseline."

Fe gafodd Rhossi ei enw ar ôl iddo gael ei ddarganfod ar draeth ger Rhosneigr gan gi o'r enw Meg oedd allan am dro gyda'i pherchennog.

Roedd y crwban yn llai na dwy flwydd oed ac yn dioddef o'r hyn sy'n cael ei alw'n cold-stunned, sef cyflwr sy'n effeithio ar grwbanod môr sy'n treulio gormod o amser mewn dŵr llawer oerach na'u cynefin arferol.

Frankie Hobro
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Frankie Hobro fod dychwelyd Rhossi i'r gwyllt yn foment emosiynol i'r tîm

Mae staff y sw yn credu iddo fynd ar goll ar ôl cael ei chwythu oddi ar ei gwrs gan wyntoedd cryfion.

Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf mae Rhossi wedi tyfu yn aruthrol, gan fynd o bwyso llai nag un cilogram i 21kg.

Dywedodd Frankie Hobro, perchennog Sw Môr Môn, fod crwbanod sy'n dioddef o'r cyflwr hwn yn "anaml yn goroesi heb gymorth arbenigol - doedden ni ddim yn gwybod a fyddai'n goroesi yn yr wythnos neu ddwy gyntaf.

"Mae crwbanod yn perthyn i'r gwyllt, nid mewn caethiwed, felly mae'r daith hon yn un emosiynol iawn gan mai dyma'r nod rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers dros ddwy flynedd," meddai.

"Ond rydyn ni wedi dod i'w adnabod yn dda a'i nodweddion unigryw wrth ofalu amdano, ac mae'n teimlo y bydd darn bach ohonon ni'n nofio i ffwrdd i Fôr y Caribî ac ni fyddwn ni byth yn ei weld eto."

Rhossi mewn tanc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sw Môr Môn yn gobeithio y bydd dychwelyd Rhossi i'r gwyllt yn helpu i ddiogelu'r rhywogaeth brin

Crwbanod Kemp's ridley yw'r rhywogaeth fwyaf prin o grwbannod môr yn y byd ac maen nhw'n dodwy wyau ar ddau draeth yn unig ym Mecsico ac yn Texas.

Mae Sw Môr Môn yn gobeithio y bydd dychwelyd Rhossi i'r gwyllt yn cyfrannu rhywsut, hyd yn oed mewn ffordd fach, at oroesiad y rhywogaeth.

Rhossi yw'r pedwerydd crwban môr i gael ei achub a'i adsefydlu gan y sw yn ystod y degawd diwethaf.

Mae'r sw hefyd yn bwriadu adeiladu canolfan achub arbenigol i ofalu am grwbanod môr eraill sy'n cael eu canfod ar arfordir Cymru wedi'u heffeithio gan yr oerfel.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig