Selogion Harry Potter yn gorfodi newid llwybr cêbl ynni i osgoi 'bedd Dobby'

Mae dilynwyr y ffilmiau Harry Potter yn teithio i draeth Freshwater West fel teyrnged i'r cymeriad Dobby
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod cêbl ynni gwerth £430m rhwng y DU ac Iwerddon wedi ei dargyfeirio oherwydd cwynion y byddai'n amharu ar draeth yng Nghymru sy'n gysylltiedig ag un o gymeriadau'r llyfrau a ffilmiau Harry Potter.
Dan y cynllun Greenlink Interconnector, fe cafodd cêbl tanfor ei gosod rhwng Wexford a thraeth gwyllt Freshwater West ym Mhenfro ar gyfer cario trydan o ynni solar a gwynt.
Cafodd y cynllun ei gwblhau ym mis Ebrill, ond wrth siarad â'r podlediad The Energy Revolution yr wythnos hon, datgelodd rheolwr y cynllun, Simon Ludlam y bu'n rhaid addasu'r llwybr wedi i selogion Harry Potter sylweddoli y byddai'n amharu ar leoliad sydd bellach yn cael ei 'nabod fel Bedd Dobby.
Traeth Freshwater West oedd lleoliad yr olygfa ble y cafodd y coblyn Dobby ei gladdu a thros y blynyddoedd ma dilynwyr wedi creu bedd ffug gyda cherrig crynion gan adael negeseuon yno.
Fe gododd y cwynion wedi i Mr Ludlam, sylfaenydd cwmni Etchea Energy, roi cyfweliad i BBC Cymru ar y traeth a rhannu manylion y cynllun.
Wedi i'r cyfweliad gael ei ddarlledu "gawson ni gannoedd o alwadau ac fe ddywedodd fy nghydweithiwr 'rhaid i ni ymateb i'r rhain".
"Dywedais i: 'Am be' maen nhw'n sôn?' Ac fe atebodd: 'Wel, mae'n debyg ein bod yn mynd yn syth trwy fedd Dobby'..
"Gofynnais i: 'Dobby? Pwy yw Dobby?'"

Mae Dobby yn un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y ffilmiau Harry Potter
Ar ôl dod i ddeall pwy yw Dobby, atebodd Mr Ludlam ei fod "yn gymeriad dychmygol mewn llyfr dychmygol - mae'r holl beth yn dychmygol" ond fe bwysleisiodd ei gydweithiwr bod y mater "yn un difrifol iawn".
Bu'n rhaid mynd yn ôl at gynllunwyr a ffeindio ffordd o newid llwybr y cêbl "fel ein bod ddim yn mynd yn agos at fedd Dobby".
Ychwangodd bod "llawer o bobl yn hapus iawn ynghylch hynny".
Ni dyma oedd y bygythiad cyntaf i'r safle - yn 2022 fe gytunodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gallai aros yn dilyn ymgynghoriad, gydag apêl i ymwelwyr beidio â gadael unrhyw swfenîrs yno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.