Saith awr heb weld babi ar ôl toriad cesaraidd wedi 'trawmateiddio' mam

Llun o babi yn yr ysbyty gyda'i fam yn ei ddal. Ffynhonnell y llun, Ceri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ceri doriad cesaraidd brys yn Ysbyty Gwynedd llynedd ar ôl i staff ddweud bod ei babi mewn trafferthion

GanAimee Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae mam a dreuliodd saith awr heb weld ei babi ar ôl toriad cesaraidd brys yn dweud bod y profiad wedi ei "thrawmateiddio".

Mae Ceri Roberts, 29, o Benisa'r-waun, Gwynedd, wedi rhannu ei phrofiad o roi genedigaeth i'w hail ferch wrth i gyfradd toriadau cesaraidd Cymru gyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 42% o enedigaethau yng Nghymru drwy doriad cesaraidd yn 2025.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru fod gwasanaethau mamolaeth dan bwysau, a bod angen i'r gweithlu newid er mwyn ymateb i'r cynnydd mewn toriadau cesaraidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pob menyw gael gofal ôl-enedigol o ansawdd uchel sydd wedi'i bersonoli i'w hanghenion.

'O'n i'n meddwl, lle mae babi fi?'

Llun o ferch mewn crys du a gwyn siec yn eistedd ar soffa.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ceri Roberts ei bod yn ei dagrau am nad oedd yn gallu mynd i weld ei merch

Cafodd Ceri doriad cesaraidd brys yn Ysbyty Gwynedd llynedd, ar ôl i staff ddweud bod ei babi mewn trafferthion.

Dywedodd bod ei merch, Ania, wedi cael ei chymryd oddi wrthi yn syth ar ôl yr enedigaeth gan nad oedd yn anadlu, ac iddi gael ei chludo i'r uned gofal arbennig i fabanod.

Cafodd Ceri ei rhoi mewn ystafell ar ei phen ei hun wrth wella o'r llawdriniaeth, ac ni chafodd fynd i weld ei merch.

"O'n i'n gofyn, o'n i'n canu'r gloch, pryd fyswn i'n cael gweld yr hogan bach," meddai.

"Roedden nhw'n mynd, 'does gynnon ni ddim digon o staff ŵan i fynd â chdi drwadd'."

AniaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dyweddodd bod saith awr wedi pasio cyn iddi weld ei merch.

"Roedd o saith awr i fi ddim gweld hi a dwi just cofio crio. O'n i'n meddwl, 'lle mae babi fi?'"

Dywedodd mai pan ddychwelodd ei phartner i'r ysbyty y cafodd help ganddo i baratoi i fynd i weld Ania.

Dywedodd Ceri fod y staff yn yr uned newyddenedigol wedi bod yn "really dda" gyda hi a'i merch, ond ei bod yn teimlo nad oedd digon o gymorth iddi hi ei hun wrth wella o'r llawdriniaeth.

Ar ôl mynd adref, ei theulu a'i phartner oedd ei phrif ffynhonnell o gymorth.

"Os fyswn i wedi bod yn ifanc a ddim efo teulu a partner… 'sa gynno fi ddim help o gwbl."

Ceri ac Ania yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae profiad Ceri yn dod wrth i nifer y toriadau cesaraidd yng Nghymru gynyddu.

Yn 2025, cafodd 42% o fabanod eu geni drwy doriad cesaraidd – 22% drwy doriad brys ac 20% wedi eu cynllunio.

Mae'r gyfradd yn gyffredinol wedi cynyddu ers 2016 pan oedd yn 26%.

Ym mis Chwefror, daeth asesiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i'r casgliad bod gofal ôl-enedigol, yn enwedig, yn brin o staff.

Dywedodd Julie Richards, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru, y dylai menywod sy'n gwella ar ôl toriad cesaraidd gael cymorth gyda phethau fel lleddfu poen, sut i wella ar ôl llawdriniaeth, gofal clwyfau a bwydo'r babi.

Ond dywedodd nad yw datblygiadau mewn gofal mamolaeth wedi cadw i fyny â'r newid mewn gwasanaethau.

"Mae'n bwysig bod y gweithlu wedi'i ddatblygu ac yn y lle cywir ar yr adeg cywir," meddai.

Dywedodd fod hynny'n golygu cynyddu cymorth ôl-enedigol er mwyn gallu gofalu'n ddigonol am fenywod a'u teuluoedd.

Dywedodd hefyd fod gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru "dan bwysau" a bod bydwragedd yn aml dan straen, gyda hynny'n gallu effeithio ar ofal ôl-enedigol yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

Mewn arolwg gan y coleg ym mis Gorffennaf, dywedodd 94% o'r staff a holwyd fod lefelau staffio yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd y gofal.

Mae'r coleg yn galw am adolygiad o'r gweithlu a chynllun sy'n adlewyrchu tirwedd bresennol gwasanaethau mamolaeth.

Menyw yn eistedd mewn ystafell therapi yn gwisgo top gwyrdd ac yn gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Hughes yn teimlo bod angen edrych yn ehangach ar sut mae gwybodaeth yn cael ei rannu i fenywod

Mae Catrin Hughes yn therapydd holistaidd sy'n arbenigo mewn beichiogrwydd a gofal ôl-enedigol.

Mae'n gweithio gyda menywod sy'n dioddef o symptomau corfforol ar ôl toriad cesaraidd, gan gynnwys creithiau sy'n teimlo'n dynn neu'n cosi, a menywod sydd wedi cael profiad trawmatig neu annisgwyl wrth roi genedigaeth.

Dywedodd fod llawer o'r menywod sy'n dod ati eisiau gwybod sut i ofalu am eu cyrff a'u creithiau wrth iddyn nhw wella.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn gadael yr ysbyty weithiau efo ddim gymaint o glem sut i edrych ar ôl eu cyrff," meddai.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig edrych ar ôl y babi, ond hefyd iddyn nhw eu hunain gael bach o hyder i wybod sut i edrych ar ôl y graith."

Er ei bod yn pwysleisio bod bydwragedd yn "trio eu gorau" ac yn helpu lle bynnag y gallant, mae'n credu bod angen edrych yn ehangach ar y ffordd mae'r system yn darparu gwybodaeth i fenywod ar ôl genedigaeth.

"Mae merched yn gadael yma yn teimlo bod nhw wedi cael lot fwy o wybodaeth – ac efallai'r wybodaeth dylen nhw fod wedi'i chael yn lot fwy buan na chyrraedd fi", meddai.

Hoffai weld mwy o ganllawiau ac ymarferion adfer yn cael eu rhannu â menywod, yn ogystal â mwy o wybodaeth am ofalu am greithiau, trwy'r gwasanaeth iechyd.

'Diogelwch a lles yw'r flaenoriaeth'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedd yn gallu gwneud sylw manwl am achosion unigol, ond nad oedd pryder ffurfiol wedi'i godi am achos Ceri.

Dywedodd Naomi Holder, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Dros Dro, fod menywod sy'n gwella ar ôl toriad cesaraidd, yn gyffredinol, yn cael cymorth gan y tîm bydwragedd.

Dywedodd fod y tîm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am les y babi ac yn hwyluso ymweliadau â'r uned gofal arbennig cyn gynted y mae'r fam yn ddigon iach yn feddygol.

Oherwydd cynllun yr uned, meddai, nid yw'n bosib mynd â gwely ysbyty i mewn iddi.

Ychwanegodd fod staff yn rhoi diweddariadau rheolaidd a thynnu lluniau o'r babi i'r fam tra bod hi'n gwella, lle mae hynny'n briodol.

"Diogelwch a lles y fam a'r babi yw ein blaenoriaeth o hyd, ac mae ein timau'n gweithio i hwyluso cyswllt cyn gynted ag y bo'n ddiogel gwneud hynny."

'Mae adferiad ar ôl genedigaeth yn bwysig'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pob menyw gael gofal ôl-enedigol o ansawdd uchel sydd wedi'i bersonoli i'w hanghenion.

"Mae timau mamolaeth yn darparu asesiad ôl-enedigol, cyngor a chymorth ar ôl genedigaeth, a lle bo angen, gellir gyfeirio menywod at wasanaethau arbenigol gan gynnwys ffisiotherapi obstetrig", meddai llefarydd.

"Mae adferiad ar ôl genedigaeth yn bwysig, a phan fo menywod yn dweud wrthym nad ydynt wedi teimlo eu bod wedi cael sylw, cefnogaeth neu eu cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal, rydym yn disgwyl i wasanaethau ddysgu o'r adborth hwnnw a gweithredu arno."

Pynciau cysylltiedig