Eisteddfod 'wyrddach' wedi arbrofion y Garreg Las

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno mwy o fesurau gwyrdd yn y dyfodol.
Bu ambell arbrawf gyda mesurau newydd yn Eisteddfod y Garreg Las yr wythnos diwethaf - fel cyflwyno toiledau compost yn y pentref plant ac wrinfeydd benywaidd am y tro cyntaf eleni.
Mae'r trefnwyr nawr yn bwriadu ychwanegu at eu polisïau gwyrdd.
'Rhoi stamp ein hunain': Edrych ymlaen at Eisteddfod 2027
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
'Cyfrifoldeb ar bawb i sicrhau gwaddol hirdymor yr Eisteddfod'
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Mae'r Brifwyl wedi tyfu'n aruthrol - eleni roedd angen 140 erw o dir i godi'r maes eisteddfodol.
Ond, wrth i'r ŵyl ehangu, mae swyddogion yn dweud eu bod am fod ar flaen y gad yn y maes digwyddiadau cynaliadwy.
Mae Parc Gwyddoniaeth M-SParc wed i bod yn cynghori'r Eisteddfod ar faterion gwyrdd.
Dywed rheolwr gyfarwyddwr y ganolfan, Pryderi ap Rhisiart, bod "rhaid cychwyn hefo'r pethau bach ac ella cymryd golwg ar gorff fel yr Eisteddfod fel strategaeth a torri fo i lawr i bethau bach - meysydd gwaith, teithio ceir, mae gennyn ni gwpanau ailddefnyddio, llefydd ailgylchu".
"Wedyn mae cyfleoedd mwy arloesol o bosib. Dwi'n ymwybodol bod nhw wedi treialu Project Menter Môn i ddefnyddio hydrogen yn yr Urdd a drwy hynny wnaeth 30% o'r trydan ddod o hydrogen sydd yn hollol ddi-garbon."

"Mae dyletswydd arnyn ni fel mudiad i wneud yn siŵr bo ni'n gwarchod yr amgylchedd," meddai Angharad Davies
Bwriad yr Eisteddfod yw anelu at fod yn ŵyl ddiwastraff a lleihau allyriadau i fod mor agos at sero â phosib, ond mae gwireddu'r uchelgais yn dipyn o sialens mewn gŵyl mor fawr.
Ar faes Llantwd mae'r gwaith nawr yn dechrau o dynnu'r maes eisteddfodol i lawr, ac mae hynny - a'r gwaith o godi safle - yn defnyddio ynni adnewyddadwy.
Dywed Angharad Davies, Pennaeth Gweithrediadau a Chynhyrchu'r Eisteddfod: "Mae dyletswydd arnyn ni fel mudiad i wneud yn siŵr bo ni'n gwarchod yr amgylchedd.
"Ni ar hyn o bryd yn mynd trwy proses mewnol o asesu, prosesu a monitro lle 'da ni arni ar lefelau o ran carbon, dŵr, trydan ac hefyd gwastraff.
"Er enghraifft yn ystod adeiladu'r Eisteddfod, ni yma am chwe wythnos cyn fod y maes yn fyw ac ar ôl hynny ni'n rhedeg oddi ar generators hybrid i sicrhau bo ni ddim yn defnyddio gormod o danwydd ar gyfer ein swyddfeydd, ni ddim yn rhoi'r goleuadau ar tan bo angen i ni - felly dim ond ryw 10 diwrnod byw sy gennon ni."

"O'n i'n trio cael llawer o bobl o'r ardal i gael mewnbwn i beth oedd yn y pentre' gwyddoniaeth," meddai Mari Roberts
Eleni yn y Pentref Gwyddoniaeth fe fu plant lleol yn dysgu mwy am bwysigrwydd yr amgylchedd trwy arddangos eu gwaith i harddu'r maes ac ailgylchu yr un pryd.
Roedd yn brofiad gwerthfawr, medd Mari Roberts - athrawes yn Ysgol Aberteifi
"O'n i'n trio cael llawer o bobl o'r ardal i gael mewnbwn i beth oedd yn y pentre' gwyddoniaeth," meddai.
"Mae'r plant fi'n dysgu yn Ysgol Aberteifi wedi cael mewnbwn trwy prosiectau gwahanol ni wedi gwneud yn yr ysgol - yn dysgu am blastig, pryfed a casglu sbwriel."

Mae pobl yn cael eu hannog i ailgychu sbwriel ers blynyddoedd ar Faes yr Eisteddfod
Mae'r Eisteddfod nawr yn edrych ymlaen at Brifwyl Maldwyn Meirionydd y flwyddyn nesaf.
Dyma fro sy'n enwog am ei hanes gwyrdd, ble mae cynaliadwyedd yn air pwysig, yn enwedig yn sgil sefydlu'r Ganolfan Dechnoleg Amgen gerllaw ar gyrion Machynlleth.
Mae'r ganolfan yng nghanol Biosffer Dyfi, ardal o fioamrywiaeth unigryw a ddynodwyd gan UNESCO.
Gyda hynny mewn golwg bwriad yr Eisteddfod yw buddsoddi yn y gymuned leol yn gymdeithasol, economiadd ac amgylcheddol - a buddsoddi yn yr amgylchedd naturiol ym mro Prifwyl 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.