Tân gwyllt yn effeithio ar 'tua 400 hectar' mewn 'digwyddiad difrifol'

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei bod hi'n "heriol [mynd i'r afael â'r tân] oherwydd y gwynt"
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau yn dal i frwydro tân gwyllt gafodd ei ddatgan yn ddigwyddiad difrifol dros y penwythnos mewn rhostiroedd ger Cronfa Ddŵr Llangynidr yng Nglynebwy.
Mae swyddogion wedi bod yn brwydro'r fflamau ers dydd Gwener gyda sawl tîm yn rhan o'r ymgyrch ac offer arbenigol yn cael eu defnyddio gan gynnwys hofrennydd.
Mewn diweddariad fore Llun dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn dal i weithio ar y cyd â gwasanaeth y de er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y tân a gwarchod tiroedd cyfagos.
Ychwanegon nhw fod y tân bellach wedi effeithio ar tua 400 hectar - sy'n cyfateb i 560 o gaeau pêl-droed.
Oherwydd newyd yng nghyfeiriad y gwynt mae'r mwg nawr yn effeithio ar ardaloedd Blaenafon, Brynmawr, Pont-y-pŵl a Chasnewydd yn ôl y Gwasanaeth Tân
Mae'r mwg yn dal i effeithio ar gymunedau cyfagos meddai gwasanaeth y de ond oherwydd "newid yng nghyfeiriad y gwynt" mae'r mwg nawr yn effeithio ar ardaloedd Blaenafon, Brynmawr, Pont-y-pŵl a Chasnewydd.
Mae'r gwasanaethau brys yn monitro'r sefyllfa a'r cyngor i'r cyhoedd ydy cymryd camau priodol os ydy mwg yn effeithio arnyn nhw - yn enwedig plant ifanc, pobl hŷn, neu'r rhai hynny sy'n byw â chyflyrau sy'n effeithio ar eu hanadl.
Mae ansawdd aer, amodau tywydd a'r effaith ehangach ar gymunedau lleol yn cael eu hasesu fel rhan o'r ymateb ac mae disgwyl i ddiffoddwyr fod yn bresennol ar y safle am "sawl diwrnod arall".
Mae ffyrdd yn dal i fod ar gau ac mae'r gwasanaeth yn gofyn i aelodau'r cyhoedd i "barchu llwybrau dargyfeirio" er mwyn galluogi'r gwasanaeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Tân Llanwynno a Glynrhedynog wedi ail-gydio
Mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi cadarnhau hefyd bod y tân yn Llanwynno a Glynrhedynog wedi ail-gydio, ar ôl cael eu "cynnau'n fwriadol".
Fe ddiolchodd y gwasanaeth am "y galwadau", gan ddweud eu bod eisiau rhoi sicrwydd i bobl bod yna griwiau yno yn "gweithio'n galed i geisio dod â'r digwyddiad i ben".
"Mae Heddlu'r De ar batrôl yn yr ardal i atal unrhyw danau bwriadol pellach, ynghyd â'n Tîm Lleihau Tanau Bwriadol," ychwanegodd y gwasanaeth brynhawn Llun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
