'Dwi'm yn gweld ni'n 'gored flwyddyn nesa' - busnesau Pwllheli'n galw am gymorth

Mae Elfyn wedi rhedeg ei fusnes ers 32 o flynyddoedd, ond mae'n dweud dyma fydd ei olaf heb fwy o gymorth
- Cyhoeddwyd
"Mae gen i filiau i dalu ac yn anffodus tydy'r siop yma ddim yn 'neud dim mwy... dwi ddim yn gweld hi'n 'gored yn y flwyddyn nesa'."
Mae Elfyn Jones yn eistedd tu allan i'w siop, Goleuo, yng nghanol dref Pwllheli yn cael sgwrs gyda ffrind pan dwi'n dod ar ei draws.
Mae wedi rhedeg y siop ers dros 32 o flynyddoedd, ond wrth i ni sgwrsio mae'n datgelu mai dyma fydd yr olaf heb gymorth ar frys.
"Mae'n marw yma yn fast iawn, does 'na'm digon o siopau i ddenu pobl i mewn, 'da ni'n stryglo i ddeud y gwir," meddai.
"Mae isio mwy o support gan y bobl sy'n byw yma ac mae isio mwy o support gan y llywodraeth achos mae'r trethi yn rhy uchel.
"Ar y funud mae'r tills yn wag so does 'na'm llawer o bres drosodd bob mis i gael cyflog, a beth bynnag sydd ar ôl mae'r llywodraeth yn cymryd o."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n "parhau i ddarparu dros £100m o Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach bob blwyddyn".
Ond o holi Elfyn a yw'n gallu gweld pethau'n gwella heb gymorth ychwanegol, daw ei ateb yn syth.
"Nac ydw. Mae'r [gwerthu] online yn rhy efficient i ddeud y gwir."
'Pump neu chwe siop fydd ar ôl'
Os yn cau, mi fyddai siop Elfyn yn ychwanegu i'r 29 o unedau gwag sydd yng nghanol Pwllheli ar hyn o bryd, yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd.
Mae hynny'n cyfateb i 12.1% o'r holl eiddo sydd ar gael i fusnesau yng nghanol y dref - ffigwr sydd wedi cynyddu ers mis Mai 2025.
Mae'r sefyllfa yn waeth mewn rhai o drefi eraill y sir fel Blaenau Ffestiniog, Nefyn a Llanberis, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu newydd yn yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi.
Ond tydy hynny fawr o gymorth i berchnogion fel Dafydd Jones, sydd wedi gorfod cau ei siop ym Mhwllheli eleni.
Dafydd oedd y drydedd genhedlaeth o'i deulu i redeg siop Glanaber, ac mae'n disgrifio ei benderfyniad i'w chau fel un "ofnadwy o anodd a reit drist".
"Os byse fo'n un broblem byse modd gweithio rownd y broblem, ond mae 'na cyn gymaint o bethau yn erbyn ni rŵan, tydi hynny ddim yn bosib," meddai.

Mae gan Bwllheli 29 uned wag yng nghanol y dref - chwech yn fwy na flwyddyn yn ôl
Mae Dafydd yn cytuno gydag Elfyn bod angen cymorth ynghylch trethi ar fusnesau, ond mae'n galw ar Gyngor Gwynedd am gefnogaeth hefyd.
"Be dwi'n weld sydd waethaf yw bod y cyngor sir ddim yn meddwl o flaen amser digon," meddai.
"Maen nhw'n gadael pobl adeiladu siopau mawr tu allan i'r dre' heb feddwl am be' sy'n mynd i ddigwydd i ganol y trefi, a byse 'na bethau gallen nhw gwneud i helpu'r busnesau bach fel newid y system parcio.
"'Da chi'n parcio am ddim yn y siopau mawr tu allan i'r dref, ond mae'n rhaid talu i ddod i ganol y dref felly mae pobl yn aros o 'ma."
Ychwanegodd: "Be sgen i ofn mwya' ydy, os mae o'n cario ymlaen fel mae hi rŵan, dim ond pump neu chwe siop fydd ar ôl.
"Mae angen i'r cyngor weithio efo'r busnesau bach."

Roedd teulu Dafydd wedi rhedeg siop ym Mhwllheli ers dros 100 mlynedd tan iddo orfod cau fis Gorffennaf
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "deall ac yn gwrando ar bryderon perchnogion busnes" Pwllheli.
Ychwanegon nhw eu bod wedi datblygu Cynllun Creu Lleoedd ddwy flynedd yn ôl er mwyn "darparu gweledigaeth hirdymor" ar gyfer y dref.
Dywedon nhw eu bod hefyd wedi cydweithio â sefydliadau a phartneriaid lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol ac wedi sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau yn y dref, a'u bod yn y broses o helpu sefydlu Partneriaeth Canol Tref Pwllheli "er mwyn cefnogi adfywio a chyfrannu at economi lewyrchus a chynaliadwy".
Ychwanegodd y cyngor bod modd parcio am ddim am gyfnodau mewn amryw leoliadau ym Mhwllheli, a bod ffioedd eu meysydd parcio "wedi eu gosod i fod yn deg, rhesymol ac yn gyson ar draws y sir".

Mae busnes wedi bod yn dda ym mecws Karen Roberts, ond hoffai weld mwy o gyfleoedd i bobl barcio am ddim er mwyn denu ymwelwyr
Er gwaetha'r trafferthion sy'n wynebu busnesau lleol, mae yna rai sy'n dal i lwyddo.
Tua blwyddyn a hanner yn ôl fe agorodd Becws Gwalia ar stryd fawr Pwllheli.
Yn ôl Karen Roberts, rheolwr y busnes, mae wedi bod yn "reit dda" dros yr haf.
"Doedd o ddim yn benderfyniad anodd agor yma," meddai.
"Dwi'n gweithio yn y dre' ers 10 mlynedd ac mae'n ddistawach yma na be' oedd hi ers talwm, ond mae pethau'n reit sefydlog i ni.
"'Da ni'n dibynnu ar bobl leol sy'n gweithio yma mwy na twristiaid, felly bysa'n neis pe bai'n llawn yn y dre'."
Er llwyddiant y busnes, mae Karen yn cytuno bod angen gwella'r sefyllfa parcio i hybu'r dref.
"Does dim parcio am ddim yma ac mae'r traffic wardens yn dod yn aml - mae angen i hynny newid."
'Y stryd fawr yn reit farw'
Hefyd yn mwynhau cyfnod da mae siop pop-up elusennol Sisial.
Yn casglu arian ar gyfer yr Eglwys Gatholig yn lleol, mae Sue Roberts, sy'n gwirfoddoli yno, yn dweud bod busnes wedi bod yn "arbennig o dda" ers i'r siop agor.
"Mae'n brysur ofnadwy yma a 'da ni'n gwerthu dipyn go lew," meddai.
"Wrth gwrs mae pethau newydd yn dod mewn o hyd sy'n help, ond dim ond 'chydig wythnosau byddwn ni yma."
Fel un o drigolion Pwllheli ers dros 30 o flynyddoedd, mae Sue yn dweud iddi weld y dre'n dirywio.
"Mae'r stryd fawr yn reit farw. Siopau elusen a siopau wedi cau yn unig.
"Does dim cymaint o bobl yn y dre' sydd yn siom fawr, mae parcio yn broblem ac mae'r ffyrdd yn ofnadwy o brysur."

Fel cadeirydd Hwyl yr Ŵyl Pwllheli, mae Jane Watkinson yn rhan o'r ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y dref
Ond mae rhai yn lleol sy'n ceisio newid hynny, fel bwrdd Hwyl yr Ŵyl Pwllheli.
Cafodd Hwyl yr Ŵyl ei sefydlu gyda'r nod o gynnal digwyddiadau sy'n denu pobl i'r dref.
Ers i Jane Watkinson gymryd yr awenau fel cadeirydd, mae nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal wedi cynyddu, gan gynnwys Gŵyl Fwyd Llŷn, noson tân gwyllt a chreu grŵp Harddu Pwllheli sy'n ceisio tacluso'r dref.
"Dod â'r gymuned at ei gilydd a hybu Pwllheli ydy'r nod," meddai Jane.
"Mae 'na lot o sôn bod angen mwy o bobl yma ac angen lot o help, ond mae canol y dre' yn brysur efo pobl.
"Ella bod y stryd fawr dipyn bach yn wag ar hyn o bryd ond mae 'na waith yn digwydd i geisio gwella'r sefyllfa."
Ychwanegodd: "Mae'r stwff [trafferthion] stryd fawr yn digwydd ym mhob man wrth i gostau gynyddu a trends siopa newid.
"Be' 'sa'n lyfli i weld ydy help efo costau fel bod siopau annibynnol yn agor."
Dirprwy Lywydd eisiau i fusnesau bach gael llais cadarn yn y Senedd
- Cyhoeddwyd18 Awst
Sefydlu tasglu newydd i geisio adfywio canol trefi Cymru
- Cyhoeddwyd12 Awst
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "benderfynol o wella a diwygio'r system ardrethi annomestig er mwyn sicrhau tegwch i fusnesau bach ym maes manwerthu, hamdden a lletygarwch".
"Rydyn ni'n parhau i ddarparu dros £100m o Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach bob blwyddyn, gan sicrhau bod miloedd o fusnesau bach yn elwa ar ryddhad llawn neu rannol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.