Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Bragu cwrw yn Nhregaron

Hanes Bragdy Torri Syched yn Nhregaron, â'r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan wrth y llyw. The story of the new brewery, Torri Syched, which has opened recently in Tregaron.

Sara Elan Jones sy'n ymweld â Bragdy Torri Syched yn Nhregaron, gan sgwrsio am y fenter gyda'r perchennog, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan.

Hefyd, hanes gwasanaeth coffa go arbennig yn Eglwyswrw, wrth i'r ceffyl brenhinol Willa Rose ddod nôl i Sir Benfro i gael ei chladdu, ar ôl cyfnod gyda'r Cafalri Brenhinol.

Aled Morgan o Gastellnewydd Emlyn sy'n sgwrsio am y profiad o fod yn feirniad ym Mhencampwriaeth Aredig y Byd yn Croatia y penwythnos nesaf.

Hefyd, rhagolygon y tywydd am y mis i ddod gyda Megan Williams, a'r ffermwr bîff a defaid, Wyn Evans o Dynygraig, Ystrad Meurig sy'n pori drwy'r straeon gwledig yn y wasg.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Heddiw07:00

Darllediadau

  • Heddiw07:00
  • Heddiw15:30