'O'dd e'n briliant': Super Furry Animals yn dychwelyd i'r Eisteddfod

Mae band y Super Furry Animals wedi perfformio yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Perfformiodd y grŵp ar Lwyfan y Maes nos Sadwrn cyntaf Eisteddfod y Garreg Las a bu miloedd yno yn eu gwylio.

Y tro diwethaf i'r grŵp poblogaidd berfformio yn y Brifwyl oedd yn ystod Eisteddfod Llandeilo yn 1996, gan ddod â thanc glas i'r Maes fel rhan o ymgyrch hyrwyddo.

Cafodd y band ei ffurfio yn 1993, gyda dau o'r aelodau, Gruff Rhys a Dafydd yn rhan o Ffa Coffi Bawb (1986-92) hefyd.

Dyma oedd gan rai o'r dorf i'w ddweud am y perfformiad yn Llantwd nos Sadwrn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.