Golwg ar y Rhinogydd wrth i'r hofrennydd helpu i ymladd y tân
Mae hofrennydd diffodd tân arbenigol wedi cyrraedd er mwyn helpu'r ymateb i danau gwyllt sy'n llosgi ers dros wythnos ar fynyddoedd y Rhinogydd.
Yn dilyn cwynion diweddar am y diffyg cymorth o'r awyr, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gadarnhau ddydd Iau bod hofrennydd ar gael ddydd Gwener.
Mae'r tân wedi bod yn rhuo yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers tua 11 diwrnod erbyn hyn.
Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd perchennog gwesty Rhiw Goch yn Nhrawsfynydd, y "gallai'r tân wedi cael ei ddiffodd cyn iddo ledaenu tuag at Fronaber pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt".