Llys yn clywed honiadau dynes o gael ei threisio ger Eisteddfod Boduan

Emlyn Jones yn gadael y llys ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod all beri gofid.
Mae achos llys yn erbyn dyn o Ddyffryn Conwy sydd wedi'i gyhuddo o dreisio dynes ar ôl ei chyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023 wedi clywed fersiwn yr achwynydd o'r digwyddiadau ar y noson dan sylw.
Mae Emlyn Jones yn gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.
Ar ail ddiwrnod yr achos yn erbyn yn Llys y Goron Caernarfon fe welodd y rheithgor fideo o gyfweliad yr heddlu gyda'r achwynydd, a gafodd ei recordio ar 16 Medi 2023.
Yn ystod y recordiad mae'r ddynes yn egluro ei bod wedi cyrraedd yr Eisteddfod tua 18:00 ar nos Sul cynta'r brifwyl ym Moduan ger Pwllheli.
Bu'n cymdeithasu gyda ffrindiau mewn carafán ar safle Cae Mawr cyn mynd i faes yr Eisteddfod i fwynhau'r cyngherddau ar lwyfan y maes.
Clywodd y llys bod y ddynes wedi cyfarfod Emlyn Jones yn ystod cyngerdd Bwncath y noson honno, a bu'n siarad gydag o yn ogystal â phobl eraill.
'Roedd o'n lloerig'
Ar ôl i Bwncath orffen perfformio, dywed y ddynes ei bod hi a chriw o ffrindiau wedi cerdded at far Syched, sy'n ganolbwynt i gymdeithasu ar faes y brifwyl.
Yno, bu hi a'i ffrindiau yn mwynhau'r awyrgylch. Cerddodd o'r maes gyda dyn yr oedd wedi ei gyfarfod y noson honno.
Eglurodd y ddynes nad oedd hi'n gallu dod o hyd i'r garafán yr oedd hi'n aros ynddi, a thra roedden nhw'n chwilio amdani daeth y ddau ar draws Emlyn Jones unwaith yn rhagor.
"O'dd o rili wedi gwylltio. Roedd o'n lloerig," meddai'r ddynes, a hynny oherwydd mater yn ymwneud â'i gariad.
Dywedodd y ddynes ei bod hi a'r dyn oedd gyda hi ar y pryd "yn trio calmio fo i lawr".
Wrth gerdded gyda'i gilydd, daeth y tri o hyd i'r garafán, ac yn ôl y ddynes fe fuodd hi a'r dyn arall yn ceisio tawelu Emlyn Jones am tua hanner awr.
Penderfynodd y tri aros y noson honno mewn pabell o fewn yr adlen oedd yn sownd i'r garafan.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023
Disgrifiodd y ddynes mai carafán ei ffrind oedd hi, a'i bod hi'n aros mewn pabell fach yn yr adlen oedd yn sownd i'r garafán.
Dywedodd ei bod hi wedi syrthio i gysgu yn gorwedd rhwng Emlyn Jones a'r dyn arall.
"Peth nesa', ro'n i'n teimlo rhywun yn teimlo fi," meddai.
"A nes i feddwl ma'r dyn arall oedd o."
Esboniodd y ddynes wrth yr heddlu fod y dyn a oedd wedi ei cherdded o faes yr Eisteddfod wedi dechrau gweiddi ar Emlyn Jones, a'i fod yn flin iawn.
Ceisiodd y ddynes ei dawelu gan ddweud "dwi heb 'neud dim byd" ond fe adawodd y dyn yr adlen, ac er i'r ddynes drio ei ffonio i ddod yn ei ôl, fe wrthododd.
Dywed y ddynes ei bod hi wedi troi at Emlyn Jones a dweud: "Be **** sy'n bod efo chdi?" ac mae hi'n dweud ei fod wedi ei hateb drwy ddweud "sori".
"Ma' rili weird be' ti 'di 'neud," meddai wrtho. "Nawn ni siarad am hyn yn y bore.
"Dwi'n mynd i gysgu fan'ma a chdi fan'na. Paid a twtchiad fi."
Dyn yn gwadu treisio dynes ger maes Eisteddfod Boduan yn 2023
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dywedodd y ddynes mai'r peth nesa' mae hi'n ei gofio ydi deffro "ac mi roedd o'n twtchiad breast fi - rili grabio nhw".
"Nes i drio codi ac o'n i'n deud wrtha fo 'paid'," ac mae'n honni iddo barhau i ymosod arni yn rhywiol.
"Nes i baffio fo," meddai. "O'dd o ddim yn licio bo fi'n paffio efo fo."
Dywedodd ei bod wedi trio codi ei throwsus i fyny a'i bod yn dal i erfyn ar Emlyn Jones i stopio.
"O'dd o fatha 'sa fo'n gwylltio a mynd yn flin," meddai.
"'Na'th o hookio braich dde fo rownd gwddw fi a na'th o jyst dechrau crogi fi.
"Crogi fi mwy a mwy a nes i panicio a freezio.
"O'n i jest trio paffio fo ond mi o'dd o'n crogi fi fwy."
Dywedodd nad oedd yn gallu symud. Honnir mai ar yr adeg yma y gwnaeth Emlyn Jones ei threisio.
'Dwi ddim yn gwybod pam nes i hynna'
Wrth barhau i roi ei thystiolaeth i'r heddlu fe ddechreuodd y ddynes grïo.
Yn fuan wedyn, fe adawodd Emlyn Jones y garafán, meddai, ac fe wnaeth y ddynes gloi ei hun mewn car.
"O'n i jest yn shocked," meddai.
Esboniodd fod Emlyn Jones wedi dod yn ei ôl ac wedi cnocio ar ddrws ei char, a'i bod hi wedi ei agor.
Mae'r ddynes yn honni fod Emlyn Jones wedi dweud wrthi: "Dwi'n sori. Dwi ddim yn gwybod pam nes i 'neud hynna."
Dywedodd y ddynes ei bod wedi ei ateb ar y pryd: "Mae'n iawn" a "'Na i'm d'eud wrth neb".
Gofynnodd yr heddlu iddi pam ei bod wedi dweud hynny, ac atebodd: "O'n i ofn."
Mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Croesholi'r achwynydd
Daeth cyfle brynhawn Mawrth i Caroline Rees KC groesholi'r achwynydd ar ran yr amddiffyniad.
Roedd y ddynes yn rhoi ei thystiolaeth tu ôl i sgrîn.
Gan holi'r ddynes yn Gymraeg gofynnodd Rees pwy oedd wedi penderfynu y byddai'r tri yn cysgu gyda'i gilydd yn y babell.
Eglurodd y ddynes nad oedd penderfyniad penodol wedi'i wneud, gan ddweud fod y ddau ddyn wedi dweud "gawn ni aros efo chdi ta? Doedden nhw ddim yn gallu ffeindio'r pick-up o fanna, a doeddwn i ddim yn gweld problem efo hynny," meddai'r ddynes.
Pwyswydarni ynglŷn â'r trefniadau cysgu'r noson honno, gan ofyn pam ei bod wedi penderfynu gorwedd rhwng y ddau ddyn. "O be' dwi'n cofio, roedd yr hogia' wedi dweud, 'Cer di i'r canol i chdi fod yn gynnes'," meddai.
Pan ofynnwyd a oedd hi'n gyfforddus gyda hynny, atebodd: "Oeddwn."
Gofynnwyd iddi yn hwyrach ymlaen pam ei bod wedi cyhuddo Emlyn Jones o'i threisio: "Ai second thoughts gawsoch chi?"
"Oeddach chi yn gofidio be' fasa pobl yn feddwl ohonoch chi?". "Na," atebodd y ddynes.
Cyn gorffen croesholi, gofynnwyd i'r achwynydd unwaith eto a oedd hi wedi rhoi caniatâd i Emlyn Jones gael rhyw gyda hi. "Naddo. Dydy hynny ddim yn wir o gwbl," meddai.
Gofynnodd Sion ap Mihangel, ar ran yr erlyniad, pam nad oedd hi wedi mynd i gysgu yn y car yn y lle cyntaf?
Atebodd y ddynes ei bod hi wedi meddwl cysgu yn y car yn lle'r babell ar y dechrau ond nad oedd hi wedi gallu dod o hyd i'r goriadau.
Eglurodd ei bod wedi dod o hyd i'r goriadau ar ôl iddi 'scramblo' i chwilio amdanyn nhw ar ôl y treisio honedig.
Esboniodd ei bod wedi cloi ei hun yn y car, "Pam hynny?" holodd yr erlyniad, gyda'r ddynes yn ateb drwy ei dagrau: "O'n i ofn," meddai.
Mae Emlyn Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.