Syr Tom Jones ddim yn hapus i golli ei sedd ar 'The Voice'

Tom JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Tom Jones wedi dweud nad oedd am adael The Voice, gan ddweud ei fod yn "caru'r rhaglen" a bod ITV wedi gwneud y penderfyniad i'w "ddiswyddo" o'r panel beirniaid.

Mae'r canwr, sy'n 86 oed, wedi ymddangos fel hyfforddwr ar y gystadleuaeth ganu ers dechrau'r rhaglen yn 2012.

Yn dilyn sibrydion efallai na fyddai'n dychwelyd i'r panel ar gyfer y gyfres newydd, dywedodd Syr Tom fod ITV wedi gwneud y penderfyniad beth amser yn ôl a'i fod wedi cael gwybod "yn ddiweddar".

Dywedodd llefarydd ar ran y rhaglen fod ITV "wedi mwynhau" gweithio gyda Syr Tom Jones a'u bod yn "parhau i drafod ei ran yn y gyfres nesaf".

ITV wedi cynnig 'rôl llai' ar y rhaglen

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y canwr o Bontypridd mai "anhawster ariannol yn ymwneud ag yswiriant" oedd y rheswm a roddwyd gan y darlledwr.

Ond eu bod "bellach yn dweud yn y wasg eu bod nhw eisiau 'adnewyddu'r' rhaglen, a gyda'r tîm hyfforddi newydd fyddai dim sedd imi," meddai.

"Maen nhw'n cynnig rôl sydd wedi'i lleihau'n sylweddol, lle byddwn i'n ymddangos ond heb fod yn rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf, a dydw i ddim yn rhy hapus am hynny.

"Felly'r unig beth dwi'n ei wybod ar hyn o bryd yw bod byth amser da i ddiswyddo rhywun 86 oed sy'n dal i fod yn eithaf da yn ei waith."

Dywedodd llefarydd ar ran y rhaglen fod ITV "wedi mwynhau gweithio gyda Syr Tom Jones dros y naw mlynedd diwethaf ar The Voice UK" ac er na fydd "yn hyfforddwr llawn amser ar gyfer cyfres 15, rydym yn parhau i drafod gyda Syr Tom a'i dîm ynghylch ei ran yn y gyfres nesaf."

Roedd y gwaith o gynhyrchu cyfres 2027 y rhaglen ar fin dechrau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig