Diogelu 250 o swyddi ar ôl i Brace's Bakery gael ei brynu

Safle'r cwmni yng NghroespenmaenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Safle'r cwmni yng Nghroespenmaen

  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol tua 250 o swyddi yn Sir Caerffili wedi eu diogelu ar ôl i Brace's Bakery gael ei brynu gan Two Sisters Food Group.

Wedi'i sefydlu ym 1902, mae Brace's Bakery yn fusnes teuluol ar ei phedwaredd genhedlaeth, sy'n cyflenwi bara a chynhyrchion becws i gwsmeriaid ar draws Cymru a gorllewin Lloegr.

Ond roedd pryderon y byddai Brace's yn cau oherwydd gostyngiad yn y galw a chostau cynyddol.

Fe wnaeth y cwmni roi ei safle ar ystâd ddiwydiannol Pen-y-fan ger Oakdale ar werth fis Hydref diwethaf, gyda'r nod o symud eu holl staff i'r prif safle yng Nghroespenmaen.

Er hyn, mae'r oedi i werthu safle Crymlyn wedi rhoi pwysau ar y cwmni, gydag adroddiadau diweddar eu bod wedi methu â thalu staff yn brydlon.

Mae gostyngiad yn y galw am fara wedi sleisio, cynnydd ym mhrisiau ynni a chynnydd mewn yswiriant gwladol wedi cael effaith ar y sector.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Brace's Bakery, Mark Brace: "Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer Brace's Bakery, a dwi a fy mrawd a chyd-gyfarwyddwr Jonathan wrth ein boddau... wrth i ni gamu ymlaen i bennod newydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig