Lluniau: Harddwch Llwybr Arfordirol Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae 9 Mehefin yn nodi 20 mlynedd ers i'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, agor Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn swyddogol.
Mae'r Llwybr Arfordirol o amgylch Cymru wedi ei rannu'n wyth rhan, gyda Llwybr Sir Benfro wedi agor yn yr 1970au, ac Ynys Môn yn ail ran o'r llwybr yn 2006.
Ceredigion ddaeth wedyn yn 2008, ac erbyn 2012 roedd pob rhan wedi ei chwblhau, gan gysylltu'r daith 870 milltir o amgylch arfordir Cymru.
I ddathlu'r 20 mlwyddiant dyma ddetholiad o ddelweddau trawiadol o arfordir Môn.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn 130 milltir ac yn amgylchynu'r ynys, gyda nifer o gerddwyr yn ei gwblhau o fewn wyth i 12 diwrnod

Pont Borth, gafodd ei hadeiladu yn 1826, o ochr Porthaethwy

Pentref Aberffraw, pencadlys Teyrnas Gwynedd o'r nawfed ganrif

Man adnabyddus a hynod hardd - Ynys Llanddwyn

Porth Amlwch ar ogledd yr ynys

Bwa Gwyn yn ymestyn i'r môr yn Rhoscolyn

Yr ail bont dros Afon Menai - Pont Britannia, a gwblhawyd yn 1850

Trwyn Penmon ar ddwyrain yr ynys

Porth Dafarch ar Ynys Cybi

Muriau tref Biwmaris yn ne ddwyrain yr ynys

Traeth Borth Wen

Eglwys Llangwyfan ar Ynys Cribinau, ger Aberffraw

Rhosneigr yn rhan orllweinol yr ynys

Y llwybr arfordirol yn mynd heibio hen gwt cerrig ar Mynydd Twr, Caergybi

Porthladd Caergybi

Hen weithfeydd brics ym Mhorth Wen

Y llwybr yn edrych i lawr am oleudy Ynys Lawd

Pentref Moelfre o'r awyr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Awst 2025

- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd19 Chwefror
