Clwb rygbi yn ddiolchgar i fod yma o hyd er colled o 134-0

- Cyhoeddwyd
Wrth golli o 134-0 brynhawn Sul, dioddefodd Crusaders Gogledd Cymru y golled fwyaf gan unrhyw dîm yn y ddwy adran uchaf yn hanes rygbi'r gynghrair mewn 131 mlynedd.
Y golled i London Broncos oedd y trydydd tro i'r Crusaders ildio 100 o bwyntiau yn y Bencampwrieth y tymor hwn.
Ond tu ôl i'r canlyniadau ceir hanes clwb ddaeth yn agos iawn at ddiflannu'n llwyr ond ychydig wythnosau yn ôl.
Fis Awst y llynedd roedd y clwb – sydd yn chwarae eu gemau cartref ym Mae Colwyn - wedi ennill Cynghrair Un a sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth ar gyfer tymor 2026.
Ond yn gynharach eleni cafwyd y cyhoeddiad wnaeth newid popeth – doedd y perchnogion ddim am ariannu'r clwb mwyach.
Canlyniad hynny oedd na gafodd y chwaraewyr eu eu talu am rai wythnosau, ac oherwydd nad oedd eu cytundebau bellach yn ddilys roedden nhw'n rhydd i adael.

Chwaraewyr Crusaders Gogledd Cymru yn dathlu ennill Cynghair Un yn 2025
Daeth grŵp o gefnogwyr a gwirfoddolwyr at ei gilydd i ffurfio cwmni newydd, gan sicrhau trwydded dros dro gan gorff llywodraethol y gamp i gario 'mlaen.
Nid dyma'r tro cyntaf y mae'r Crusaders wedi wynebu argyfwng.
Wedi i'r hen glwb ddod i ben yn 2011 ar ôl tynnu allan o'r Super League – prif adran y gamp – fe ail ffurfiwyd y clwb.
Ond fe gamodd y cefnogwyr i'r adwy unwaith yn rhagor gan sicrhau na fyddai'r clwb yn diflannu.
Yr unig broblem – problem fawr serch hynny – oedd bod doedd dim chwaraewyr ar lyfrau'r clwb cyn taith i wynebu Goole Vikings.
Cyfnod 'gwallgof' i'r cefnogwyr
Bu'n rhaid i Sean Long, hyfforddwr gyda'r tîm merched a'r tîm datblygu, roi carfan newydd at ei gilydd o fewn dyddiau.
Colli oedd hanes Crusaders yn Goole - o 80-0 - ond dywedodd Long, sydd bellach yn bennaeth rygbi'r clwb: "Dwi erioed wedi gadael gêm ar ôl colli mor drwm yn teimlo fel ein bod wedi ennill.
"Pan welwch y canlyniadau yn y Rugby League Express 'da chi ond yn gweld y sgôr.
"Da chi ddim yn gweld beth dwi'n weld. Mae 'na bethau sydd yn mynd 'mlaen pan fo'r camerau ddim o gwmpas – mi ryda ni yn symud yn y cyfeiriad iawn.
"Mae 'na grŵp dda o bobl yn yr ystafell newid ar hyn o bryd sydd hefo'r angerdd i wella."
Jamie Elkaleh oedd perchennog y clwb am gyfnod yn 2024 cyn ei basio ymlaen i berchnogion newydd.
Mae wedi dychwelyd fel cadeirydd clwb y mae'n cyfaddef ddaeth "o fewn oriau" at ddiflannu'n llwyr.
"Mae'r cefnogwyr wedi cael amser gwallgof yn ystod y mis neu ddau diwethaf," meddai.
"Mae hi wedi bod yn waith caled i'r pwynt yma ond mae'r sialens o'n blaenau yn anferth.
"Ond fydde ni ddim yma oni bai ein bod yn meddwl ac yn teimlo yn ein calonnau ein bod yn credu bod lle i'r Rygbi Gynghrair yng ngogledd Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.