Cymru yn curo'r Weriniaeth Tsiec 3-1 gan orffen ar frig y grŵp

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi curo'r Weriniaeth Tsiec 3-1 yn eu gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd gan orffen ar frig y grŵp.
Mae'r canlyniad yn sicrhau mai Cymru sy'n cipio'r safle cyntaf yn Grŵp B1 ar ôl perfformiad cryf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Lily Woodham, Gemma Evans a Mared Griffiths yn sgorio.
Daeth y fuddugoliaeth er i'r ymwelwyr fynd ar y blaen yn gynnar, gyda thîm Rhian Wilkinson yn ymateb yn gadarn i droi'r gêm.
Mae gorffen ar frig y grŵp yn golygu y bydd Cymru yn symud ymlaen ar lwybr rhagbrofol mwy ffafriol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 ac yn dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Aeth y Weriniaeth Tsiec ar y blaen ar ôl pum munud pan sgoriodd Michaela Khýrová, ond dim ond pedwar munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Lily Woodham i ddod â Chymru yn ôl ar delerau cyfartal.
Roedd y sgôr yn 1-1 ar yr egwyl cyn i Gemma Evans benio gôl i roi Cymru ar y blaen yn fuan ar ôl dechrau'r ail hanner yn dilyn cic rydd gan Ceri Holland.
Yna ychwanegodd Mared Griffiths drydedd gôl i Gymru ar ôl 72 munud, gyda Ceri Holland yn cyfrannu at y gôl am yr eildro ar y noson.

Fe gafodd Cymru drafferthion yn cyrraedd Montenegro ar gyfer eu gêm flaenorol, gyda storm yn golygu nad oedd modd iddyn nhw lanio yn Podgorica nos Fercher.
Bu'n rhaid iddyn nhw felly dreulio noson yn Brindisi yn yr Eidal cyn cyrraedd Montenegro lai na 24 awr cyn y gic gyntaf.
Ond gorffennodd yr ymgyrch ragbrofol ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth arall a safle cyntaf yn y grŵp.
Bydd tîm Rhian Wilkinson yn symud ymlaen yn hyderus ar ôl sicrhau'r safle uchaf a llwybr rhagbrofol mwy ffafriol i Gwpan y Byd 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Mehefin
