Comisiynu Radio Cymru

Rowndiau Comisiynu Cyfredol ar gyfer Radio Cymru a BBC Sounds yn Gymraeg
Does dim rowndiau comisiynu ar agor gan Radio Cymru ar hyn o bryd.
Fe fyddwn ni'n agor rownd gomisiynu newydd ddiwedd Medi / dechrau Hydref 2026 ar gyfer y canlynol:
• Swyn y Sul
• Rhaglenni 16:00 Sul
• Podlediadau Lleisiau Cymru
• Podlediadau eraill
• Cyfresi ar gyfer Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Os hoffech i ni eich hysbysu pan yn agor rownd newydd, neu am drafod syniad yna cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk os gwelwch yn dda.
Gofynion pan yn cyfleu rhaglenni i Radio Cymru
Mae gofyn cyfleu rhaglenni gorffenedig o leiaf pythefnos cyn y dyddiad darlledu / cyhoeddi ar Sounds, yn ogystal â chyfleu’r holl waith papur deuddydd gwaith cyn y darllediad.
Ffurflen Manylion Darlledu Radio Cymru
Dylid cyfleu ffeiliau sain drwy Dropbox ar y fformat WAV (.wav) - PCM llinol, 48 kHz, 16 bit.
I weld y fanyleb dechnegol lawn ar gyfer BBC Radio a BBC Sounds, gweler Gwybodaeth a Safonau Ansawdd Sain



